Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/409

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneyd, gan fod y tadau, sef Rowland a minau, yn anghytuno? Agorais iddo yr oll o'n hanghydwelediad; y modd yr oedd yr Arglwydd wedi peri i mi ddechreu y gwaith hwn wrthyf fy hun, ac i fyned allan o flaen Whitefield, Wesley, a Rowland; ddarfod iddo fy ngosod yn dad yn y Gymdeithasfa, a'u bod yn arfer ymostwng i'm ceryddon, hyd nes, rai blynyddoedd yn ol, y dechreuodd Rowland eu gwrthod, a gwrthwynebu pregethu y gwaed o ragfarn at y Morafiaid. Dangosais y modd yr oeddwn wedi derbyn gogoniant a marwolaeth ein Hiachawdwr bedair blynedd cyn dyfod i gydnabyddiaeth â hwy, ac i mi ffurfio undeb â hwynt pan ddeallais eu bod yn adnabod ei Dduwdod a'i farwolaeth. Eglurais y modd yr oeddwn wedi rhoddi i fynu Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, lle y mae ganddo ef (Rowland) ddylanwad, am fod ein goleuni yn anghytuno wrth drefnu materion allanol, ac am nad yw wrth bregethu yn cynyddu, oddigerth mewn deddfoldeb, ac efrydiau a gyffyrddant a'r deall ac a'r teimlad. Ond yn awr fy mod wedi cael anfon am danaf i Sir Gaerfyrddin, ond na weithredaf (ar y gwahoddiad) oni ddewisant fi yn hollol i drefnu materion preifat, ac yntau (Rowland) yn unig i bregethu; neu ynte, efe yn unig i drefnu, a minau i bregethu. Felly yr wyf wedi cynyg i'r cynghorwyr yn mhob man, ac felly yma." Nid annhebyg mai at y llythyr o Gilycwm y cyfeiria wrth son am yr alwad o Sir Gaerfyrddin. Gwelwn nad yw yn gryf yn ei amseryddiaeth; nid oedd pedair blynedd rhwng ei argyhoeddiad a'i gydnabyddiaeth â Daniel Rowland, eithr ychydig gyda dwy flynedd. Gwedi ymweled â Mochdref, Llanbrynmair, Llwydcoed, Dolyfelin, a Llangamarch, dychwelodd trwy Aberhonddu i Drefecca, Mawrth 24. Gwelai fod holl Gymru wedi ei rhoddi gan yr Arglwydd iddo, ei fod wedi cael ei osod ar binacl y deml, ond teimlai ei annigonoldeb i'w sefyllfa a'i gyfrifoldeb.

Ar y dydd olaf o Fawrth, cawn ef yn nhŷ un William Powell yn pregethu, a hyny i dyrfa anferth. Ei destun ydoedd: "Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." Tebygol fod tŷ Mr. Powell rywle yn Sir Forganwg. Ond yr oedd meddwl Harris yn llawn o sefydlu plaid ar wahan oddiwrth y Methodistiaid. Fel hyn y dywed yn ei ddydd-lyfr : "Cefais ymddiddan a'r brawd Thomas Williams am gael cyfarfod preifat arall gydag ef, W. Powell, Thomas Jones, John Richard, a Beaumont, &c., a rhai cyffelyb ydynt yn tyfu i fynu hyd at ein goleuni, i gyfnewid syniadau a'n gilydd, ac i ymgynghori parthed casglu yn nghyd yr eneidiau, ac i weled pwy yn mysg y bobl sydd yn cynyddu mewn gwybodaeth o Grist croeshoeliedig, ac mewn bywyd ffydd, gan fyw ar Grist, a marw i hunan ac i'r byd." Y lle nesaf y cawn ef yw Llantrisant, a Thomas Williams yn gydymaith iddo, a dywed iddo bregethu gyda nerth, a gwroldeb, a beiddgarwch, i gynulleidfa anferth o fawr. Yn y seiat breifat, gorchymynai gydag awdurdod ar iddynt ufuddhau i Grist, ac yr oedd yn llym i bawb a unai ag unrhyw un i bechu yn ei erbyn. Yr oedd cynulleidfa fawr hefyd yn yr Aberthyn; gwelai fod llawer yn dyfod i'r goleuni, a'i fod yntau yn myned i fuddugoliaethu, a gweddïai mewn hwyl: "Gogoniant am waed yr Oen!" Gwedi y bregeth, cynhaliodd seiat breifat o'r holl seiadau. Dywedai wrthynt y parchent ef yn fwy pe buasai yn werth mil o bunau yn y flwyddyn, ac yn gwisgo gwn offeiriadol. "Dangosais," meddai, "fod Paul yn ddirmygus yn ngolwg llawer; nad oedd Calvin ond lleygwr; y modd yr oedd Duw wedi fy ngwneyd yn dad ac yn ddechreuydd y diwygiad hwn, a'm bod wedi myned allan (i bregethu) bedair blynedd o flaen Whitefield, Wesley, na Rowland." Gwelwn ei fod yn hollol gyfeiliornus yn ei amseryddiaeth. "Efallai," meddai, yn mhellach, "i Dduw beri hyn er tynu i lawr falchder yr offeiriaid, ac i ddangos y gwna efe weithio yn ei ffordd ei hun, ac mai efe ei hunan sydd yn gwneyd y gwaith. Mynegais iddynt oni ddeuent yn ol y Beibl at draed Crist, y drylliwn y seiadau yn ddarnau, na chai Crist ei watwar gyda rhith o ufudd-dod." Wrth ddyfod at draed Crist y golygai, yn ddiau, credu yr athrawiaeth a ddysgai efe am berson Crist. Gwedi y seiat gyffredinol, bu ganddo gyfarfod i'r cynghorwyr a'r goruchwylwyr, ac ymddengys i bethau fyned yn dra annymunol. Achwynai rhai ar William Powell; dywedai Harris mai ei ffyddlondeb i Dduw oedd y rheswm am hyny. "Daeth Satan i'n mysg," meddai; "troais ddau allan, a cherddodd tri arall allan." Dywed fod ei enaid yn ofidus o'i fewn wrth geryddu a dysgyblu, ond mai yr Arglwydd a osodasai y peth arno.

Wedi teithio trwy Nottage ac Aberddawen, daeth i gastell Ffonmon, lle y