Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/410

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cafodd odfa dda, wrth bregethu am y dyn a gafodd ei ollwng i lawr trwy y tô at Grist. Yr oedd William Powell a Thomas Williams gydag ef yn mhob man, ac yr oedd yntau yn eu cyfarwyddo gyda golwg ar gasglu yn nghyd y rhai oedd o gyffelyb olygiadau. Cafwyd seiat ystormus braidd yn Dinas Powis; "troais un cynghorwr allan," meddai, "a derbyniais un arall i mewn." Yn Nghaerdydd, pregethai ar ddyoddefaint Crist. Yr oedd Thomas Price, o'r Watford, yno, ac aeth y ddau yn nghyd i'r Groeswen. Ar y ffordd, dywedai Harris nad oedd Daniel Rowland yn caru Crist, ac mai anaml y byddai yn ei bregethu; nad oedd y dylanwadau a ddeuent trwy Rowland ond awelon ysgeifn allanol yn disgyn ar y bobl, y rhai a ddiflanent yn fuan; ac mai y rhai a gadwent fwyaf o swn yn y cyfarfodydd oeddynt yn aml y mwyaf difater. Yr ydym yn teimlo yn ofidus wrth ddarllen ei sylwadau; nis gellir eu hesbonio ond ar y tir fod teimlad chwerw yn peri iddo weled pob peth o chwith. "Dywedais hefyd wrth y brawd Price," meddai, "ei fod wedi suddo i'r byd, ei fod yn caru y byd, a'i fod wedi gadael yr Arglwydd. Yna, cododd ystorm enbyd, a dangosodd elyniaeth at ddirgelwch Crist. Aethum ymaith yn llwythog fy yspryd; daeth ar fy ol; ymddiddanasom am bob. peth yn dawel, a dywedodd ei fod yn derbyn fy athrawiaeth fel y pregethais hi yn Nghaerdydd, a'i fod yn benderfynol o ddechreu o'r newydd. Yna, cynygiais iddo i ni fyned yn nghyd i Ogledd Cymru, ond nid oedd yn rhydd i hyny." Credwn mail amcan y mynediad i'r Gogledd oedd cymeryd meddiant o'r seiadau.

Y mae ei bregeth yn y Groeswen mor gyffrous, fel yr haedda ei difynu. Ei destun ydoedd, 1 Ioan iii. I: "Gwelwch pa fath gariad a roddes y Tad arnom, fel y'n gelwid yn blant i Dduw." Meddai: "Dangosais, gyda llawer o ryddid, mor agos y mae Duw at y credinwyr, a'r modd y mae yn eu rhyddhau oddiwrth eu pechod. Eglurir y gwirionedd hwn yn y Beibl fel peidio cyfrif, peidio cofio, peidio gweled, maddeu, cuddio, a rhoddi ar y bwch dihangol. Dangosais fod rhai yn y byd yn awr ag y mae Duw yn edrych arnynt, yn Nghrist, fel pe byddent heb bechu. Meddwn: Trwy ddatguddio ei ogoniant y mae yr Arglwydd wedi agor y nefoedd i chwi; trwy eich uno ag efe ei hun y mae wedi eich gosod yn y nefolion leoedd, gan eich gwneyd fel pe byddech heb bechu.

Yr wyf yn gofyn i chwi, pwy o honoch, wedi peryglu ei fywyd i achub cyfaill, ac wedi gorchfygu pob rhwystr, a adawai y cyfaill yn y diwedd i'r gelyn? Y chwi sydd dadau, a fedrwch chwi aros mewn tŷ cynhes, llawn o bob math o luniaeth, a gadael eich plentyn i farw o'r tu allan, o eisiau ymborth a thân, yn arbenig pe y llefai efe arnoch, hyd yn nod pe baech wedi digio wrtho? O deuwch, a dychwelwch at yr Arglwydd. Efe a faddeua eich holl bechodau, ond i chwi beidio byw ynddynt. Teifl sothach, megys deng mil o bunoedd yn y flwyddyn, i'w elynion, ïe, i gŵn; beth sydd ganddo, ynte, yn stôr ar eich cyfer chwi, ei blant?" Dangosais y rhaid i ni gael darlun o'r credadyn a'r anghredadyn yn y ddau fyd cyn y bydd ein syniad yn gyflawn. Eglurais, yn mhellach, fod y credinwyr, mewn gwirionedd, yn byw ar ymborth angelion, sef bara y bywyd, a'u bod yn yfed gwaed Crist, fel y byddant byw yn dragywyddol. Ni a fyddwn byw byth!' meddwn. Ni byddwn farw yn dragywydd; cysgu yn unig a wnawn; cau ein llygaid ar y byd, a'u hagor drachefn yn Nuw, a'n holl bechodau, a'n profedigaethau, a'n maglau o'r tu ol i ni. A phan yr ymddangoswn yn ngogoniant yr Iesu, ni fydd yno na hen ŵr na baban, na neb yn gloff, na neb yn llesg. Y mae ein cyrph a'n heneidiau yn awr mewn undeb â Christ, ac a fedr efe drigo mewn purdeb a gogoniant, uwchlaw pechod, uwchlaw angau, ac uwchlaw Satan, a'ch gadael chwi, ei blant, o danynt? Na fedr byth. Deffrowch, ynte! Cyfodwch o'r llwch!' Yna, dangosais fawredd y Cristion wrth y wisg sydd am dano, yr un wisg a Duw y Tad ei hun, yr un wisg ag a wisgir gan yr holl deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaear; a bod Iesu Grist yn frawd iddynt, ac nad oedd arno gywilydd eu harddel." Cofnoda ddarfod iddo gael odfa fendigedig, fod nerth y dyddiau gynt yn cydfyned a'r genadwri. Yn y seiat breifat a ddilynai, yr oedd yr un teimlad hyfryd yn ffynu.

Pan yr oedd Howell Harris yn gallu anghofio ei dramgwyddiadau, a'i le ei hun yn y seiadau, ac yn cael ei lanw ag yspryd yr efengyl, fel yn y Groeswen, yr oedd yn ofnadwy o nerthol, ac yn cario pob peth o'i flaen. Rhyferthwy cryf ydoedd, yn dadwreiddio y coedydd talgryfion, ac yn ysgubo ymaith bob rhwystr a allai fod ar ei ffordd. Yr oedd llewyrch nefol ar ei yspryd yr odfa hon, ond tywyniad haul