Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/411

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwng cymylau ydoedd, a chawn y tywyllwch yn dychwelyd yn fuan. Gwedi y seiat, bu mewn ymgynghoriad a'r cynghorwyr a'r stiwardiaid; cydiodd yr un yspryd ag a amlygasid yn yr Aberthyn, yn un o'r stiwardiaid; trodd Harris ef allan; dywedai yntau ei fod yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw. Ymhelaethodd Harris, gan ddangos fod y pregethwyr ag yntau yn meddu yr un weinidogaeth a Moses, a'r prophwydi, a'r apostolion; eu bod yn ymladd yn erbyn yr un diaflaid, ac wedi cael eu llanw a'r un yspryd; ac er eu bod, o ran eu teimlad, yn barod i fyned dan draed pawb, eto, fod yn rhaid iddynt fawrhau eu swydd, onide y cai Iesu Grist ei ddarostwng.

Chwythwm bychan oedd yr helynt gyda'r stiwardiaid yn y Groeswen, eithr daeth ystorm enbyd yn Watford dranoeth. Caiff Harris ei hun adrodd yr hanes. "Y boreu hwn," meddai, "cefais frwydr ofnadwy iawn â Satan, yn y brawd Price, a'r brawd David Williams, am y stiwardiaid y darfu i mi eu troi allan yn Aberthyn. Pan ddaw Satan i mewn, anhawdd iawn ei gael allan. O'r diwedd, dywedais wrthynt y gwnawn eu gadael, a myned allan wrthyf fy hun, fel cynt. Dywedais mai Iuddewon ydynt, nad ydynt yn adnabod yr Iesu, nac yn ei garu, ac eto, eu bod yn tybio eu bod yn dadau. Eu bod wedi tyfu yn y cnawd, a bod yr Arglwydd wedi cyd-ddwyn â hwy hyd yn awr; ond na wna oddef yn hwy, a'i fod wedi myned allan yn erbyn cnawdolrwydd. 'Os ydych chwi,' meddwn, yn gaeth i ddyn ac i gnawd, nid ydwyf fi.' Yr oeddynt hwy yn eiriol dros y goruchwylwyr, ac yn dweyd y perai eu troi allan annhrefn mawr. Dywedais fy mod yn gweled y gwaith yn pwyso ar yr Arglwydd, ac nid ar ysgwyddau y fath ddynion, a'm bod yn barod i adael y canlyniadau iddo ef. Dangosais eu bod, trwy eu hymddygiad, yn sathru fy lle o dan eu traed, ac yn cyfansoddi eu hunain yn fath o lys uwchlaw; ond fy mod yn benderfynol o fynu y rhyddid a brynodd Crist i mi. Nid oes yr un o honoch ag awdurdod arnaf fi,' meddwn; nid ydych wedi cael awdurdod o'r fath gan Dduw na dyn. Pe bai yr holl Gymdeithasfa gnawdol, fel yr ydych yn ei galw, yn fy esgymuno, gwnawn yr un peth eto. Nid wyf yn talu un sylw i neb, ond i'r Arglwydd." Yna, ymneillduodd i weddio; ac yr oedd yn flaenorol wedi derbyn llythyr oddiwrth Madam Griffiths, y ddynes a hònai yspryd prophwydoliaeth, yn rhagfynegu am annhrefn mawr oedd wrth y drws, ac yn debyg o gynyddu. David Williams, gweinidog yr Aberthyn, yn ddiau, oedd y brawd oedd gyda Thomas Price yn y ffrwgwd. Dengys y difyniad hwn fod tymher Harris weithiau yn aflywodraethus; ei fod yn hòni awdurdod unbenaethol ar yr holl seiadau, ac na oddefai i neb ymyraeth a'i waith, hyd yn nod mewn ffordd o gynghor ac eiriolaeth. Braidd na theimlwn fod gradd o wallgofrwydd wedi ei feddianu. Yn y dirgel, dywed iddo weled i ddyfnderoedd pethau ysprydol yn mhellach nag erioed. "Yna," meddai, "gan fy mod yn gweled fod y gwrthwynebiad yn erbyn yr Arglwydd, ac nid yn fy erbyn i, mi a aethum yn ol at y brodyr, a dangosais iddynt fel y maent wedi suddo i'r cnawd, a'u bod wedi gadael i'r cythraul ddyfod i mewn i dŷ Dduw, ac yn awr, nad oeddynt yn foddlawn ei droi allan; ond fy mod i yn benderfynol o fyned yn y blaen, ac y safwn fy hunan. Dywedais y cydsyniwn a'u cais (sef i adferu y stiwardiaid) oni bai fod arnaf ofn digio yr Arglwydd. Meddwn Nis gallwn barhau i fyned yn mlaen yn nghyd, gan nad ydych yn gweled yr un fath a mi, ac na feddwch ffydd i ymddarostwng i'm goleuni i, a'm gadael i i'r Arglwydd. Dyn rhydd Duw wyf fi, ni thalaf sylw i neb ond efe.' Dangosais y modd yr oedd y stiwardiaid wedi ymddwyn, gan farnu y pregethwr yn ei gefn, heb ddweyd yr un gair wrtho ef, nac wrthyf fi. Erchais i Thomas Williams fynu gweled a oedd y bobl yn yr yspryd hwn; os oeddynt yn galw am danaf fi, am iddo anfon ataf, onide na ddeuwn i'w mysg byth." Amlwg yw nad oedd mewn tymher y gellid ymresymu ag ef. Edrychai arno ei hun fel mewn cymundeb cyson a'r nefoedd, ac yn cael ei arwain yn uniongyrchol gan yspryd Duw yn yr oll a wnelai; ac felly, fod ei wrthwynebu ef yr un peth yn hollol a gwrthwynebu Duw. Modd bynag, lleddfodd y dymhestl i raddau; aeth Thomas Price a David Williams gydag ef, i'w wrando yn Machen; a siriolodd hyny lawer ar ei yspryd. Teithiodd trwy Sir Fynwy, yn arbenig y rhanau nesaf at Loegr o honi, yn fanwl, ac ni ddychwelodd adref hyd y 15fed o Ebrill.

Mai y 5ed, cawn ef yn cychwyn i Gymdeithasfa Llanidloes, gyda Beaumont yn gydymaith iddo. Yr oedd yn myned mewn tymher orfoleddus; gwaeddai yn barhaus: "Gogoniant am waed yr Oen!"