Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/413

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eryd lle yn y Gymdeithasfa ychwaith; ond yr oedd y teimlad yn dra annymunol, ac ymddengys i'r ddwy ochr ymadael, gan benderfynu yn ddirgel na wnaent gydgyfarfod mewn Cymdeithasfa drachefn. Gyda yr yni a'r cyflymder a'i nodweddai, gweithredodd Harris ar y teimlad hwn ar unwaith. Ar y ffordd adref, yn Erwd, eisteddodd ef, a'r cynghorwyr cynghorwyr John Richard, Thomas Williams, Williams, Thomas James, a Thomas Bowen, i fynu hyd yn hwyr y nos, i drefnu gyda golwg ar y gwaith, ac ar ddyfod i undeb agosach a'u gilydd. Dywedai wrthynt fod hyn yn anhebgorol angenrheidiol, a chydunent hwythau. "Gwedi dangos," meddai, "y modd y dylem ystyried ein gilydd yn Nuw, a pha beth i wneyd mewn cysylltiad a'r pregethwyr, a'r modd y dylem eu harwain at y goleuni, fel yr arferai ein Harglwydd wneyd, dywedais wrthynt am wylio dros y seiadau, a rhoddi gwybod am eu hystâd i mi. Ac yna y caem gyfarfod drachefn mewn mis o amser i weddïo, ac i gydymgynghori." Gwelir penderfyniad i gasglu y seiadau yn nghyd, a gosod Harris yn ben arnynt, yn amlwg yn y difyniad hwn.

Am y gweddill o fis Mai, bu Harris yn teithio Sir Frycheiniog, ac yn trefnu pethau gartref. Ar y dydd cyntaf o Fehefin, cychwynodd am daith faith i Forganwg a Mynwy. Y Sul, yr oedd yn Aberthyn, a dywed iddo gael cynulleidfa anferth, y fwyaf a gafodd yn y sir erioed, ac yr oedd awdurdod yn y weinidogaeth. Ond yn y seiat breifat yr oedd pethau yn dra therfysglyd; dywedai Harris fod y diafol yn y lle, a throdd allan y stiwardiaid a ddaethent yno heb ymgynghoriad blaenorol ag ef. Aethant hwythau. Parhaodd i geryddu; dywedai eu bod yn llawn o falchder a hunan, ac yn y diwedd cofnoda i lawer dori allan i wylo. Wedi pregethu yn St. Nicholas, a Chaerdydd, daeth i Watford. Yr oedd yn nerthol wrth bregethu; gwaeddai yn ddiymatal: Y GWAED! Y GWAED! Y GWAED! Oni yfwch ef, fe'ch demnir byth!" Yn y seiat, dywedai eu bod oll yn y cnawd, nad oeddynt yn argyhoeddedig o'u pechod yn erbyn Crist, eu bod yn ddeillion, a chyffelybai hwy i Judas. "Dywedais wrth Price," meddai, "yr awn allan wrthyf fy hun, ac y mynwn weled pwy a anfonai yr Arglwydd gyda mi. Agorais iddo am yr oll sydd wedi pasio, ac am Rowland; y modd y mae (Rowland) wedi syrthio er ys blynyddoedd, fod ei syniadau yn ddeddfol, a bod y diafol ynddo mor gryf, fel na fedr ei wrthsefyll." Aeth oddiyma i Lanheiddel, a'r New Inn, a bu yn amser enbyd rhyngddo a Morgan John Lewis a David Williams. Gorphenodd ei daith yn y Goetre, lle yr ysgrifena: "Cefais allan fod cydfwriad wedi cael ei ffurfio yma yn fy erbyn, ac yn erbyn athrawiaeth y gwaed; ni wyddwn ddim am dano, ond yn awr daeth i'r goleu." Ymddengys i agwedd pethau yma, yn nghyd a'r yspryd a welai trwy ei holl daith, beri iddo benderfynu dychwelyd i Drefecca ar unwaith.

Prin y dychwelasai pan y cafodd lythyr o Sir Fynwy yn ei hysbysu fod yr holl bregethwyr wedi troi yn ei erbyn, a'u bod yn ei feio yn enbyd am gymeryd o gwmpas Madam Griffiths, y ddynes a honai yspryd prophwydoliaeth. Yr ydym wedi cyfeirio at y wraig hon droiau o'r blaen. Credai efe ei bod yn meddu ar ddawn prophwydoliaeth, a'i bod wedi cael ei rhoddi gan Dduw i fod yn llygad iddo, i farnu a phrofi yr ysprydion, fel y gallai adnabod pob math o gymeriadau ac athrawiaethau. Y mae yn syn fod dyn mor ysprydol ac mor graff mor hygoelus. Sicr yw ddarfod i'r ddynes ragrithiol hon wneyd niwed dirfawr i'w yspryd ac i'w achos. Yn Nhrefecca, galwodd y frawdoliaeth yn nghyd; nid annhebyg hefyd fod yno gynghorwyr wedi ymgasglu o'r seiadau cymydogaethol; eglurodd iddynt sefyllfa pethau, a phwysigrwydd ymraniad. “Ond,” meddai, "y mae y brodyr wedi ymranu oddiwrthym ni yn barod." Aethant a'r achos at yr Arglwydd. "Cefais ateb gan yr Arglwydd," meddai, "mai ni yw corph a chanolbwynt gwaith y Methodistiaid; ac mai yn y corph hwn y mae meddwl, gwirionedd, gwaed, a gogoniant Duw; a bod Duw yn ein mysg, gyda yr holl rasau a'r doniau sydd yn cydfyned a'i bresenoldeb." Wedi ymgynghori drachefn, cydwelwyd fod yn rhaid iddynt ymranu cyn y gallent byth fod yn un, gan fod Rowland a'i blaid yn pregethu gras yn lle Crist, a'u bod yn ymddyrchafu fwy fwy yn erbyn athrawiaeth y gwaed.