Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/414

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XVI.

YR YMRANIAD.

Syniadau athrawiaethol Howell Harris—"Ymddiddan rhwng Uniawngred a Chamsyniol”– Achosion i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn parthed athrawiaeth—Harris yn petruso cyn ymranu—Plaid Rowland yn cyfarfod yn Llantrisant, ac yn ymwrthod a Harris—Yntau yn cynal pwyllgor yn Llansamlet—Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yn St. Nicholas— Cymdeithasfa Llanfair-muallt—Llythyr Harris at Rowland—Harris yn Sir Benfro—Harris yn Ngogledd Cymru—Cymdeithasfa Llwynyberllan a Dyserth.

EFALLAI mai dyma y lle mwyaf priodol i wneyd ychydig sylwadau ar syniadau athrawiaethol Howell Harris. Nis gall neb sydd wedi ymgydnabyddu mewn un gradd a'i bregethau, ei lythyrau, a'i ddadleuon â gwahanol bersonau ar wahanol bynciau, amheu ei fod yn dduwinydd gwych. Meddai lygad eryr i adnabod y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt; ac mewn cysylltiad ag un gwirionedd pwysig, ymddengys ei fod wedi plymio yn ddyfnach na neb o'i gydoeswyr yn Nghymru, oddigerth, o bosibl, Williams, Pantycelyn. Y gwirionedd hwn oedd, agosrwydd undeb y ddwy natur yn mherson ein Harglwydd. Ymdeimlai a'r gwrthyni o wahanu y naturiaethau, ac o ddweyd fod y Gwaredwr yn gwneyd un peth fel Duw, a pheth arall fel dyn; a beiddiodd gyhoeddi fod yr oll o berson Crist yn mhob peth a wnelai, ac yn mhob peth a ddyoddefai. Tra nad cywir nac Ysgrythyrol dweyd ddarfod i Dduw farw, yr oedd Howell Harris yn ei le pan yn dadleu fod perthynas agosach rhwng duwdod y Gwaredwr a'r angau, na nerthu a dal y natur ddynol i fyned trwy y dyoddefaint; i Fab Duw farw; a bod y Person Anfeidrol yn yr iawn. Nid ydym yn meddwl ychwaith ei fod yn dal, pan yr eglurai ei syniadau, ddarfod i Dduw farw; oblegyd cawn ef yn dangos amryw weithiau, fod natur ddwyfol yr Arglwydd Iesu yn dal gafael ddiollwng yn ei gorph pan yn gorwedd yn farw ar waelod bedd, ac yn ei enaid, pan am ychydig amser y preswyliai ar wahan i'r corph yn mharadwys. Nid ydym yn hoffi yr ymadrodd, "gwaed Duw;' tuedda yn ormodol i fateroli y Duwdod; ond nid oedd y geiriau yn ngenau y Diwygiwr ond ffordd gref o osod allan y gwirionedd pwysig, oedd wedi llanw ei enaid a'i ogoniant, sef fod holl berson y Duw-ddyn yn ei angau, ac yn cyfansoddi ei aberth. Credai ef iddo ddarganfod y gwirionedd hwn trwy ddatguddiad o'r nef; a darfu i fawr ddysgleirdeb y datguddiad ddallu ei feddwl am beth. amser, fel nas gallai weled unrhyw wirionedd arall. Yn nglyn a'r athrawiaeth hon, yr oedd wedi gwthio yn fwy i'r dwfn na'r un o'i gydlafurwyr.

Ond nid oedd ganddo weledigaeth eglur, a rhaid addef fod cryn gymysgedd yn ei syniadau, neu ynte ei fod yn anffodus yn ei ddull o eirio. Ymddengys fel pe yn tybio ddarfod i natur ddynol ein Harglwydd, wrth ddyfod i undeb a'i berson dwyfol, gael ei thrawsnewid a'i gogoneddu rywsut, nes dyfod i gyfranogi o briodoleddau arbenig y ddwyfoliaeth. Pan y dywed fod y gwaed yn anfeidrol, a'i fod yn llanw tragywyddoldeb, gorfodir ni i gredu y golyga rywbeth heblaw anfeidroldeb haeddiant. Yr oedd gan bob peth cyfriniol ddylanwad mawr arno. Nid hawdd ychwaith deall ei syniadau am y Drindod. Weithiau, gellir meddwl ei fod yn hollol uniongred; dywed yn groew ei fod yn credu mewn tri pherson; mai y Mab, neu y Gair, a ddarfu ymgnawdoli, ac nid y Tad na'r Yspryd, a'i fod yn wrthwynebol i Sabeliaeth. Ond yn ymyl hyn, yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd. Dywed fod y Drindod Sanctaidd wedi ymgnawdoli yn yr lesu; nad oes yr un Duw y tu allan i'r Iesu; fod y Drindod ynddo ef; a bod y rhai a gredant fod y Tad mewn unrhyw