Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/415

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyr uwchlaw yr Iesu yn gosod i fynu eilun ddychymygol, gerbron yr hwn y syrthient i lawr ac yr addolent. Gwadai felly ddarfod i'r Gwaredwr ddyhuddo digofaint y Tad; a gofynai yn wawdlyd, pwy a ddyhuddodd lid y Mab, a'r Yspryd Glân? Rhaid i bob dyn meddylgar gydymdeimlo ag ef pan y dywed fod y Drindod yn ddirgelwch iddo, a bod yr athrawiaeth yn ormod o ddirgelwch iddo allu ymborthi arni, ac efallai, yn y diwedd, fod y cymysgedd yn fwy yn ngosodiad y syniadau allan, nag yn y syniadau eu hunain.

Fel hyn yr ysgrifena Mr. Charles, o'r Bala, ar fater yr ymraniad: "Tebygol fod Mr. Harris yn ŵr o dymher go wresog, a pha beth bynag a gymerai le yn ei feddwl, yr oedd yn ei dderbyn, ac yn ei ddilyn gyda bywiogrwydd poethlyd. Tebygol fod y bobl heb eu haddysgu yn fanwl yn y pynciau mawrion hyn, gan fod yr athrawiaeth, gan mwyaf, yn cerdded llwybr cwbl wahanol. Dywedodd un o'r hen broffeswyr wrthyf, ei fod ef, ac amryw frodyr, gyda eu gilydd mewn cymdeithas neillduol dros bum' mlynedd, heb wybod dim am Grist, hyd yn nod yn hanesiol, a phan glywsant ryw bregethwr yn son yn neillduol am dano, nid oeddynt yn ei ddeall, nac yn gwybod am bwy yr oedd yn pregethu. Gofynais i'r hen ŵr duwiol, beth oedd yn cael ei bregethu iddynt ? Atebodd nad oeddynt yn clywed am ddim ond am ddrwg pechod, tân uffern, a damnedigaeth, nes y byddent yn crynu gan ofnau mawrion, a dychryn calon."

Y mae yn bur sicr fod yr hen ŵr yma yn camddarlunio pethau, neu ynte nad oedd wedi clywed neb yn ystod y pum' mlynedd y cyfeiriai atynt, ond y mwyaf anwybodus o'r cynghorwyr, oblegyd yr oedd pregethau Rowland a Harris yn llawn o Grist, a phan y byddent yn dangos drygedd pechod, aent i Galfaria er ei weled yn ei liwiau duaf. Ond i fyned yn mlaen gyda geiriau Mr. Charles: "Cafodd Harris ei wrthwynebu gan rai brodyr oedd yn cael eu blino gan ei ddull yn llefaru am berson a marwolaeth Crist, sef fod Duw wedi marw, &c., &c. Barnent fod y dywediad yn an-Ysgrythyrol, ac yn tueddu at Sabeliaeth. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth ei frodyr crefyddol yn beth hollol anadnabyddus i Mr. Harris; hyd yn hyn yr oeddent yn gwrando arno fel tad, a phen-athraw, fel yr oedd yn wirioneddol i'r rhan fwyaf o honynt. Yn lle arafu, a phwyllo, ac ystyried yn ddiduedd a oedd ei ymadroddion yn addas am y pynciau uchod, chwerwodd ei yspryd tuag atynt, a phellhasant yn raddol oddiwrth eu gilydd, hyd nes y diweddodd mewn ymraniad gofidus."

Er mwyn deall golygiadau Daniel Rowland, yr ydym yn cofnodi traethawd byr a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1749, pan yr oedd y ddadl rhyngddo ef a Harris yn ei phoethder mwyaf. Ei enw yw, "YMDDIDDAN RHWNG UNIAWNGRED A CHAMSYNIOL." Prin y rhaid dweyd mai Rowland ei hun yw "Uniawngred," ac mai Howell Harris yw "Camsyniol":

"Uniawngred. Henffych well, fy mrawd; y mae yn dda genyf eich gweled, a chael yr odfa hon i ymddiddan â chwi. Yr wyf yn clywed eich bod chwi, ac eraill, yn camachwyn arnom; yr ydych yn dweyd ein bod ni yn Ariaid.

"Camsyniol. Gwir iawn; mi a ddywedais felly, ac yr wyf eto

"Uniawn. Yr ydych! Pa fodd y beiddiwch chwi haeru y fath anwiredd? Yr ydym ni yn credu fod Iesu Grist yn wir Dduw, a'i fod ef yn gyd-dragywyddol, gogyfuwch, a chydsylweddol a'i Dad.

Cam. Yr wyf fi yn dweyd mai Ariaid ydych; ac yr ydym yn cyhoeddi hyn i'r byd.

"Uniawn. Dyma ffordd ofnadwy o ymddwyn. Ystyriwch, atolwg, pwy yw tad y celwydd. Yr ydych, nid yn unig wedi eich rhoddi i fyny i gredu anwiredd, ond yn ddigywilydd i'w gyhoeddi; ac nid hyn yw yr unig beth ag yr ydych yn camachwyn arnom. Maddeued yr Arglwydd i chwi am eich holl ddrwg enllib. Atolwg, dysgwch o hyn allan, i gadw o fewn terfynau gwirionedd. Yr ydys yn dywedyd wrthyf, eich bod chwi yn gwadu fod tri pherson yn y Duwdod.

"Cam. Tri pherson! Yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai gair cnawdol yw person; nid allaf ei arferyd.

"Uniawn. Pam? Y mae yn cael ei arferyd yn yr Ysgrythyr, Heb. i. 3; ac y mae yn cael ei arferyd er y dechreuad. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn air priodol, ddigon. Ond yr ydych chwi yn ddoethach na'ch hynafiaid. Bod tri pherson yn y Duwdod sydd eglur, oddiwrth amryw fanau yn yr Ysgrythyr. Y mae ein Harglwydd yn gorchymyn i'w ddysgyblion i fedyddio yr holl genhedloedd yn enw y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan. Ac y mae St. Ioan yn dweyd wrthym fod tri yn tystiol-