Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/416

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Yspryd Glan; a'r tri hyn, un ydynt. Y mae Athanasius, ac Eglwys Loegr, yn rhagorol yn gosod allan y gwirionedd mawr hwn; un person sydd i'r Tad, arall i'r Mab, ac arall i'r Yspryd Glan. Y gogoned, lan, fendigaid Drindod, tri pherson, ac un Duw, &c. Ond yr wyf fi yn clywed eich bod chwi yn maentymio heresi y Patripassiaid; yr ydych yn dweyd fod y Tad wedi cael ei wneuthur yn gnawd, yn gystal a'r Mab.

"Cam. Yr ydwyf; fe a'i datguddiwyd felly i mi.

"Uniawn. Datguddiwyd? Pa ddatguddiadau yw y rhai hyn genych? Y mae hyn yn wrthwyneb i ddatguddiedig Air Duw, yr hwn sydd yn dweyd wrthym mai y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr ydych, mae'n debygol, yn maentymio heresi y Patripassiaid, yn gystal a'r Sabeliaid.

"Cam. Chwi a ellwch alw enwau. Dyma'r peth yr wyf fi yn ei gredu, fod y Tad, yn gystal a'r Mab, wedi cael ei wneuthur yn gnawd, dyoddef, a marw. Ond, atolwg, a ydych chwi yn credu i Dduw farw?

"Uniawn. Yspryd yw Duw, heb gorph, rhanau, na dyoddefiadau; ac felly, ni all ddyoddef, na marw. Fe ei gelwir ef yn anfarwol Dduw, ac am hyny, ni ddichon farw.

"Cam. Yr wyf fi yn dweyd i Dduw ddyoddef, a marw.

"Uniawn. Yr wyf fi yn credu i'r ail berson yn y Drindod fendigaid, Duw y Mab, gymeryd arno natur ddynol, yr hwn a ddaeth i fod yn un person yn y Duwddyn; ond yr oedd y ddwy natur mor bell yn wahanol, y naill oddiwrth y llall, fel mai y natur ddynol a ddyoddefodd, ac a fu farw. Ond, fel ag yr oedd wedi ei huno â'r Duwdod, yr hyn a wnaeth, ac a ddyoddefodd, oedd o'r cyfryw werth, a haeddiant anfeidrol, ag a foddlonodd gyfiawnder Duw am bechod dyn. Yr Ysgrythyrau canlynol ydynt yn dangos yn oleu, mai yn ei natur ddynol yn unig y bu Crist farw. 1 Petr iii. 18: Wedi ei farwolaethu, neu a fu farw, yn y cnawd. 2 Cor. xiii. 4: Ei groeshoelio ef o ran gwendid, neu megys yr oedd ef yn ddyn. 1 Petr ii. 24 Yr hwn, ei hun, a ddug ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren.

"Cam. Yr wyf fi yn credu fod y fath undeb rhwng y ddwy natur, fel y darfu i Dduw, yn gystal a dyn, farw.

"Uniawn. Felly, chwi a chwanegasoch heresi yr Eutychiaid at y ddwy arall. Ond yr wyf fi yn credu y gwirionedd, yr hyn y mae Athanasius yn ei ddal, sef fod ein Harglwydd Iesu Grist yn berffaith Dduw, a pherffaith ddyn, ond un person, a hyny nid wrth gymysgu y sylwedd, ond trwy undeb person; Un, nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd, megys ag yr wyf fi yn deall eich bod chwi yn ei osod ef allan, ond gan gymeryd y dyndod at Dduw.

"Cam. Onid yw yr Ysgrythyr yn dywedyd fod y Gair wedi cael ei wneuthur yn gnawd?

"Uniawn. Mae yr esgob duwiol Beveridge, yr wyf yn meddwl, yn gosod y gwirionedd hyn mewn goleuni eglur: Pan gymerodd ein Harglwydd,' medd ef, 'ein natur ni arno, fe ddaeth yn ddyn, yn gystal ag yn Dduw. Y natur ddynol ynddo ef, nid oedd yn cael ei chymysgu, fel pe buasai y ddwy natur yn awr wedi eu gwneuthur yn un. Yr oeddynt eill dwy yn aros yn wahanol oddiwrth eu gilydd ynddynt eu hunain, er eu bod wedi eu huno yn y cyfryw fodd, ag yr oeddynt yn gwneuthur ond un person.' Yn fy marn i, dweyd fod Duw yn marw, a Duw yn dyoddef, sydd gabledd ofnadwy. Heresi y Sabeliaid sydd yn eich arwain i osod heibio arferyd yr Arglwydd Iesu fel cyfryngwr, a dadleuwr gyda ei Dad; a heresi yr Eutychiaid sydd yn eich arwain i haeru fod corph Crist, yn mhob man, yn gystal a'i dduwdod.

"Cam. Yr ydwyf fi yn dywedyd fod y fath undeb rhwng y ddwy natur, fel lle y byddo un, y bydd y llall hefyd.

"Uniawn. Mae fy Meibl i yn dywedyd wrthyf, fod corph yr Arglwydd Iesu wedi esgyn i'r nefoedd, a'i fod ef i aros yno, hyd amseroedd adferiad pob peth. Nid yw credo yr Apostolion a'ch credo chwi yn cytuno. Rhyfedd y fath gynwysiad o heresiau ydych wedi bentyru yn nghyd. Heblaw eich bod chwi yn Antinomiad, yr ydych yn Sabeliad,[1] Patripassiad,[2] Eutychiad,[3] ac Ubicwitariad.[4]

  1. Y Sabeliaid oeddent hereticiaid, canlynwyr un Sabelius (esgob neu henadur yn Affrica, yn y drydedd ganrif), yr hwn a ddysgodd nad oedd dim gwahaniaeth rhwng y tri Pherson yn y Drindod, ond eu bod hwy i gyd yn un; ac o herwydd hyny fe ddarfu i'r Tad a'r Yspryd Glân ddyoddef marwolaeth yn gystal a'r Mab.
  2. "Y Patripassiaid oeddent hereticiaid (tua diwedd yr ail ganrif), y rhai a ddywedent i'r Tad ddyoddef yn gystal a'r Mab. (O'r Lladin, pater a passio―tadoddefiad).
  3. "Yr Eutychiaid oeddent hereticiaid, y rhai oeddent yn maentymio bod y ddwy natur felly wedi eu cydgymysgu yn Nghrist, fel y darfu i'r Duwdod ddyoddef a marw. (Oddiwrth Eutychus, abad o Gaercystenyn, o.c. 448.) "
  4. Yr Ubicwitariaid sydd yn dywedyd bod corph ein Hiachawdwr yn mhob man yn gystal a'i Dduwdod. (O'r Lladin, ubique-yn mhob lle. Plaid yn mysg y Lutheriaid oeddent, a gododd tua'r flwyddyn 1560.)"