Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/419

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth ei ewyllys; nid ymostyngai i ymgynghori â na Chyfarfod Misol na Chymdeithasfa yn y mater hwn. Gwaith yr offeiriaid, fel y tybiai, oedd myned o gwmpas i bregethu a gweinyddu yr ordinhadau; a gwaith y cynghorwyr a'r stiwardiaid oedd cario allan y trefniadau a wnelai efe ar eu cyfer. A chan ei fod yn hawdd ei gyffroi, ac yn meddu tymherau cryfion, yn wir, bron aflywodraethus, gweithredai yn fynych oddiar deimlad y foment. Cyhudda Rowland ef yn ei wyneb o droi y cynghorwyr allan mewn nwyd. Nid gwiw ymresymu ag ef; barnai fod llywodraethu y seiadau yn perthyn i'w swyddogaeth ef, ac y dylai pawb arall fod yn ddystaw; a chredai ei fod yn gweithredu yn uniongyrchol dan arweiniad dwyfol. Nid rhyfedd, gan hyny, i wrthryfel dori allan. A hawdd gweled fod ei dra-awdurdod yn boenus i Daniel Rowland, a Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, y rhai oeddynt yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd efe ond lleygwr. Naturiol iddynt hwy fuasai edrych ar eu safle, a gwrthod ei gydnabod fel cydradd, chwaithach fel un wedi ei osod mewn awdurdod drostynt. Ni theimlent felly; ond yr oeddynt yn anfoddlawn iddo gael yr holl awenau i'w ddwylaw.

Cynyddodd yr anfoddlonrwydd yn erbyn Howell Harris yn enbyd trwy ei waith yn cymeryd Madam Griffiths, y ddynes a hònai yspryd prophwydoliaeth, o gwmpas. Dygai hi i'r seiadau, ac i'r Cymdeithasfaoedd Misol; galwai hi yn "Llygad," a chredai ei bod yn rhodd Duw iddo i'w alluogi i adnabod y rhagrithwyr, ac i'w gynorthwyo mewn barn. Fel y darfu i ni sylwi, nid oes rhith o sail dros amheu ei burdeb. Nid ydym yn tybio fod unrhyw amheuaeth. gwirioneddol am hyny ar y pryd. Ond eto, cynyrchodd ei ymddygiad deimlad blin. Credai y nifer amlaf, hyd yn nod o'i ganlynwyr, mai dynes ragrithiol ydoedd, ac yr oeddynt yn hollol iawn. Wrth ei fod yn dychwelyd adref o Lundain, trwy Erwd, dywedai un o'i brif gyfeillion wrtho, fod pethau wedi dyfod i stád ryfedd, pan yr oedd dynes yn ben ar y Gymdeithasfa. Ysgrifenodd Thomas James, y cynghorwr o Cerigcadarn, ato gan ei feio. Ei ateb iddynt oll oedd, nad oedd ganddo ef un ewyllys yn y mater; ddarfod iddo ef ymladd yn erbyn y peth ar y dechreu, ond i'r Arglwydd ei drechu; ac erbyn hyn fod llawer o'r pregethwyr yn credu mor ddiysgog ei bod hi yn "Llygad," fel na safent i mewn yn y Cyfundeb, oddigerth ei bod hi yn cael ei lle. Yr oedd ei ymddygiad yn nodedig o blentynaidd, ac yn dangos hygoeledd na cheir yn fynych ei gyffelyb; ond eto, yr oedd yn hollol unol â chymeriad Howell Harris, yr hwn, er ei holl nerth a'i graffder, oedd mewn rhyw bethau yn dra choelgrefyddol. Yr ydym yn tybio ddarfod i hyn, yn gymaint a dim, gyflymu dyfodiad yr ymraniad.

Gwedi y Gymdeithasfa yn Llanidloes, teimlai y ddwy ochr nas gallent gydfyw; ac eto, wedi dyfod i ymyl y dibyn, yr oedd Harris yn petruso cymeryd naid i'r tywyllwch; ond cymerwyd y mater o'i ddwylaw gan y blaid arall.. Ar ddydd Sadwrn, Gorph. 4, 1750, cyfarfyddodd Daniel Rowland, Howell Davies, Williams, Pantycelyn, yn nghyd à rhyw offeiriad arall nas gwyddom ei enw, mewn Cymdeithasfa yn Llantrisant; yr oedd yno yn ychwanegol un-ar-ddeg o gynghorwyr cyhoedd, a phedwar o rai anghyoedd; ac yn y cyfarfod hwn penderfynwyd tori pob cysylltiad à Howell Harris. Yr oedd efe ar daith yn Nghapel Evan, Sir Gaerfyrddin, ar y pryd. Cyffrowyd ei yspryd pan y clywodd, ond dywedodd yn y seiat ei fod yn benderfynol o fyned yn ei flaen; ddarfod iddo yn flaenorol weled y diafol yn codi yn ei erbyn yn y werinos, yr offeiriaid, a'r boneddigion, ac i'r cwbl ddod i'r dim; y gwelai y gwrthwynebiad yma yn diflanu eto, a'i fod yn teimlo yspryd o'i fewn oedd yn anorchfygol. Dywedai, yn mhellach, fod yr ymraniad gwirioneddol wedi cymeryd lle bedair blynedd yn flaenorol. Yn awr, cawn yntau yn dechreu trefnu ei blaid. Y dydd Llun canlynol, Gorph. 6, casglodd wyth o bregethwyr yn nghyd i Lansamlet, i Wern Llestr, yn ol pob tebyg, lle y cedwid y seiadau, i wneyd yr hyn a eilw ef yn "osod i lawr sylfaen ty Dduw." Dywed iddynt gael cyfarfod bendigedig; eu bod yn bwyta yr un bara, ac yn cael eu bywiocau gan yr un yspryd. Galwyd Harris ganddynt i fod yn ben ar yr holl seiadau; llawenychai y brodyr yn y rhwyg; a dywedai Harris. fod Rowland a'i blaid yn codi yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn ei Yspryd, ac yn erbyn ei wirionedd. "Yn y dirgel," meddai, "gwelais y mynai Duw i ni ymwrthod a'r brodyr, ac a'u Cymdeithasfa, am (1) Eu bod o ran eu hyspryd wedi cefnu ar yr Arglwydd. (2) Am eu bod mewn gwirionedd yn elynion iddo. (3) Am eu bod yn cashau llywodraeth ei Yspryd. (4) Am eu bod yn dirmygu yr