Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/421

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Waredwr, pan y cynygid ychydig win iddo gan ei briod, oedd: "Nid yfaf o ffrwyth hwn y winwydden hyd onid yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas fy Nhad." Teimlodd Harris yn enbyd ar ol ei gyfaill; yr oedd i Beaumont le cynhes yn ei galon, a dywed fod ei enaid yntau yn hiraethu am fyned adref. Yr ydym ninau yn meddwl fod gwreiddyn y mater yn y cynghorwr o Sir Faesyfed; llafuriodd yn galed, a dyoddefodd lawer gyda'r efengyl; ond yr oedd iddo lawer o ffaeleddau, a chyfeiliornasai yn bur bell oddiwrth y ffydd sydd yn Nghrist. Ac yr ydym yn teimlo yn sicr ddarfod iddo ddylanwadu er niwed ar yspryd Howell Harris.

Gwnelai Harris bob ymdrech posibl yr adeg hon i sicrhau cydymdeimlad y seiadau gydag ef, ac i gael y cynghorwyr o'i blaid. Teithiai yn ddiorphwys; ac anfonai lythyrau at y rhai y tybiai y medrai ddylanwadu arnynt. Yn bur fuan wedi cyfarfod yr offeiriaid yn Llantrisant, anfonodd lythyr yn llaw cenad at John Sparks, y cynghorwr o Hwlffordd, o ba un y difynwn a ganlyn: "Y mae yr offeiriaid, ac amryw o'r cynghorwyr, wedi datgan yn fy erbyn, oblegyd fy egwydd orion, fy ymarferiad, a'm hyspryd. Nid wyf yn ysgrifenu atoch i'ch sicrhau o'm plaid i yn y rhyfel hwn, oblegyd gwyr yr Arglwydd Iesu, yr unig ddoeth Dduw, yr hwn yw fy oll, nad oes genyf blaid, ond fy mod ar fy mhen fy hun, fel yr aethum allan ar y cyntaf, gyda'r eithriad fod ychydig o'r rhai a garant y cnawd, y clwyfau, a'r gwaed, yn crogi wrthyf. Ni fedrant adael y penaf pechadur (Harris). Tybiais yn ddyledswydd arnaf i ysgrifenu atoch yn fyr; cewch y manylion gan y dygiedydd. Os yw ein Hiachawdwr yn eich tueddu i ddymuno rhagor o wybodaeth, cyn penderfynu gyda pha blaid y gwnewch uno i lafurio, gwnaf gyfarfod â chwi yn Lacharn, dydd Iau pythefnos i'r nesaf. Os medrwch chwi, a'r brawd Gambold, a'r brawd John Harris ddyfod i'm cyfarfod i Lacharn, anfonwch air. Neu ynte, mi a ymdrechwn. ddyfod i St. Kennox, i'ch cyfarfod oll, neu rai o honoch, fel y byddo i chwi gael gwybod yr holl wirionedd. Y mae Mr. (Howell) Davies, a Benjamin Thomas, &c., wedi cyduno oll i'm gwrthod; a chan ei fod ef (Howell Davies), a'r bobl, o bosibl, yn edrych ar Sir Benfro fel ei faes neillduol ef, ni wnaf ddyfod, oni chaf fy ngalw gan y bobl, neu y pregethwyr, neu y ddau. Ydwyf, gyda'r serch cryfaf yn nghorph darniedig ein Duw a'n Hiachawdwr, yr eiddoch i bob tragywyddoldeb,-How. HARRIS." Y mae yn anmhosibl darllen y llythyr hwn, gyda'r teimlad dwfn o unigrwydd a red trwyddo, heb fod deigryn yn dyfod i'r llygad, pwy bynag a gondemniwn fel yn fwyaf cyfrifol am yr ymraniad.

Ar y 26ain o Orphenaf, 1750, cynhaliodd Harris a'i blaid eu Cymdeithasfa gyntaf yn St. Nicholas, pentref gwledig bychan yn Mro Morganwg, tua chwech milltir o Gaerdydd. Paham y dewiswyd y llecyn hwn, nis gwyddom; nid oedd mewn un modd yn ganolog i'r oll o Gymru; efallai fod y seiadau o gwmpas yn fwy lliosog, ac mewn mwy o gydymdeimlad ag ef. Yr oedd y rhai canlynol yn bresenol: Howell Harris, Thomas Williams (Groeswen), John Richard (Llansamlet), Henry Thomas, William Jones, Roger Williams, Thomas Bowen (yr hynaf), Thomas Bowen (yr ieuangaf), Richard Tibbot, Thomas Sheen, Thomas Meredith, Lewis Evan, Edward Davies, John Lewis, David William Thomas, Stephen Jones, Richard David, John Davies, a George Phillips. Gwelir eu bod yn namyn un ugain. Sut yr oedd cynghorwyr Sir Benfro yn absenol, nis gwyddom; yr oedd yno amryw mewn dwfn gydymdeimlad à Howell Harris; efallai eu bod heb lwyr benderfynu gyda pha blaid i uno. Aeth Harris tuag yno yn nghwmni offeiriad, o'r enw Henry Lloyd, eithr nid ydym yn cael yr offeiriad hwn yn bresenol yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa. Ymddengys fod rhai o bleidwyr Rowland wedi dyfod i'r lle o ran cywreinrwydd. "Pan welais elynion croes Crist yno," meddai Harris, anwyl Arglwydd a'm cyfarfyddodd, ac a'm dyrchafodd uwchlaw pawb, wrth ganu yn fuddugoliaethus, ac wrth weddïo a phregethu oddiar, Ni a welsom ei ogoniant ef.' Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd fy Nuw yma fel rhyfelwr, yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Ariaid, y Deistiaid, a'u Duw. Datgenais (wrth ganlynwyr Rowland) fy mod yn benderfynol o fyned yn mlaen, gan ganlyn yr un yspryd ag oedd genyf o'r dechreuad; ac os mai o'r diafol y mae yr yspryd, ei fod yn fy ngwneyd yn dra dedwydd, ac yn fy arwain at Grist. Dywedais: Yr ydym ni yn benderfynol o fyned yn mlaen; y mae amryw ugeiniau o honom wedi cyduno; a thra nad ydych chwi yn credu dim ond a ddeallwch, yr ydym ni yn derbyn Duw ar ei Air, ac yn ymwrthod a'n deall ein hunain.' Ych-