y proffeswyr yn nghyd; rhybuddient hwy rhag yr offeiriaid, y rhai, meddent, oedd wedi colli Duw; ac yn yspryd y gorchymyn a gawsent wrth fyned allan, anogent hwy i beidio gwrando ar Rowland a'i blaid. Mewn canlyniad, Mewn canlyniad, aeth y seiadau yn rhanedig, ac hyd yn nod aelodau yr un teulu. Ni roddid derbyniad i Daniel Rowland mewn lliaws o fanau ag yr edrychid ar ei ddyfodiad yn flaenorol fel eiddo angel Duw. Nid anmhosibl fod cryn lawer o chwerwder ac yspryd erledigaeth, hefyd, o du yr offeiriaid a'u pleidwyr, ond nad yw eu gweithrediadau hwy wedi eu croniclo. O'r Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd gan blaid Rowland, anfonasid gorchymyn i Harris i anfon cyfrif, a hyny, o bellaf, cyn pen tair wythnos, am yr arian oedd wedi gasglu at y gyfraith yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne. Ateba yntau mai yr oll a dderbyniasai oddiwrth bleidwyr Rowland, oedd pum' punt oddiwrth Rowland ei hun, pum' punt oddiwrth Benjamin Thomas, a gini oddiwrth Williams, Pantycelyn. Am y gweddill o'r arian, nad oedd yn gyfrifol iddynt hwy. Yn ganlynol, dengys sut yr oedd yr arian wedi cael eu talu allan. Eithr fel prawf nad oedd serch Harris at Daniel Rowland wedi llwyr oeri, a bod
WERN-LLESTR.
[Lle y pregethodd H. Harris gyntaf yn Llansamlet, a lle y mae yn debygol y cynhaliodd ei bwyllgor cyntaf wedi yr ymraniad.]
yna ryw dybiaeth yn nyfnder ei yspryd eu bod yn un yn eu golygiadau am y gwirioneddau hanfodol, yr ydym am gofnodi llythyr a ysgrifenwyd ganddo: "Fy anwyl frawd Rowland. Pa le yr ydych yn awr? Pa yspryd sydd wedi eich meddianu? Pa frwydrau ydych yn ymladd, ac yn erbyn pwy? Deuwch yn awr, a dychwelwch. Os ydych yn edrych arnaf fi yn waeth na chwi eich hun, fel y mae genych hawl i wneyd, rhydd hyny hawl i mi i waeddi yn uwch, Gras! Gras! Beth bynag, y mae arnoch chwithau eisiau eich golchi fel finau; gadewch i ni ein dau, ynte, fyned i'r ffynon ar ein cyfer. Peidiwch tramgwyddo am y grisiau. A ydych yn tybio ei fod yn bosibl fy mod i yn caru pechod, ac wedi gadael anwyl gariad Duw? Yr wyf yn fwy pechadur na phawb; ond yr wyf yn gadael iddo ef ddangos yr ochr arall i'r ddalen i chwi, pa un a ydwyf yn goddef i mi fy hun ei ddolurio, ac ai wnawn farw er mwyn dangos ei ogoniant i chwi. Deuwch; peidiwch ymladd yn hwy; yn hytrach, ymdrechwch i fynu gafael. Daniel! Fy anwyl frawd, Daniel! ymaith a'r rhai sydd yn ei groeshoelio ef. Dyro heibio dy ragfarn, rhag i eraill fesur i chwi yr hyn. ydych chwi yn fesur i eraill." Ar gefn y