Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/426

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethu ar y ddaear." Daeth y gogoniant yn amlwg yn ystod ei bregeth yntau. Yr oedd Harris wedi siarsio y rhai a ymgynullasent, cyn dechreu y cyfarfod, nad oeddynt i guddio nac i roddi atalfa ar eu teimladau. "Dangosais," meddai, "mai ni yw corph Crist, ein bod wedi cael ein galw y tufewn i'r llen allan o'r cnawd, ac oni wnawn lawenychu yn yr Arglwydd, a dangos ein harwydd oddiar benau tai, ein bod yn gnawdol, ac nad ydym yn farw gyda golwg ar ein henwau yn y byd." Tueddai hyn i roddi rhaff yn y cyfarfod i'r teimladau a enynid.

Gwaith cyntaf y cyfarfod neillduol oedd cwestiyno yr holl gynghorwyr oedd yn bresenol. (1) Holid hwy am eu gwybodaeth o'n Harglwydd. Cafwyd fod llawer yn anwybodus am dano, ond ymddangosent yn syml, ac o un yspryd; yr oedd eraill wedi cael cipolwg arno; tra yr oedd eraill yn dyfod i fynu i'r goleuni. (2) Holid hwy am yr ymraniad. Cydunai pawb ei fod o Dduw, a bod yspryd y rhai a'u gadawsent hwy wedi gadael yr Arglwydd, a'u bod yn adeiladu ar dywod hunan-ddoethineb, tra yr oedd pleidwyr Harris yn adeiladu ar y graig, trwy grediniaeth wastadol. (3) Holid hwy am Madam Griffiths, a oeddent yn ei gweled yn iawn ac yn Ysgrythyrol, ac yn teimlo yn rhydd yn eu calonau, iddi ddyfod i'r Cymdeithasfaoedd, a bod yn un o'r frawdoliaeth. Datganodd amryw ddarfod iddynt fod yn rhwym yn ngefynau rheswm, ond yn awr eu bod wedi cael eu cadarnhau yn yr Arglwydd, ac yn ei Air, a'i Yspryd; fod Madam Griffiths wedi bod o ddirfawr fendith iddynt, i brofi calonau ac ysprydoedd y rhai oeddynt yn aros, a thrwy yru ymaith y rhai cnawdol. Canlyniad yr arholiad oedd cael fod y cynghorwyr yn rhanedig i dri dosparth. Cynwysai y dosparth cyntaf ddeuddeg. Yr oedd y rhai hyn yn y goleuni, ac yn canfod gogoniant yr Iachawdwr. Rhenid y dosparth i ddwy adran. Cynwysai yr adran flaenaf y rhai oeddynt yn gymhwys i fod yn dadau, sef John Sparks, Relly, Thomas Williams, John Richards, a William Powell, yn nghyd ag un arall na roddir ei enw. Cynwysai yr ail adran chwech o ddynion. ieuainc oeddynt wedi dyfod at y gwaed, sef Roger Williams, Stephen Jones, Thomas Jones, Edward Jones, Edward Bowen, a Thomas Davies. Yr oedd yr ail ddosparth hefyd yn rhifo deuddeg; a gwnelid ef i fynu o rai cryfion, oedd yn gweled eu cwbl yn Nghrist, ac yn tynu at y goleuni a'u holl egni. Y rhai hyn oeddent Rue Thomas, Henry Thomas, Richard Edwards, Richard Tibbot, Richard Watkins, Rue Morgan, John Williams, Thomas Meredith, ac Evan Thomas. Ni roddir enwau y tri arall. Yr oedd y trydydd dosparth yn gynwysedig o bedwar-arhugain, y rhai oeddynt yn weiniaid, ond yn meddu yr un syniadau athrawiaethol, a'r un yspryd. Ychwanegir fod rhai o'r dosparth hwn mewn amheuaeth am Madam Griffiths.

Ceir y penderfyniadau a ganlyn yn mysg y cofnodau: “Gan ein bod yn gweled y fath amryfusedd cadarn yn gweithio yn y brodyr eraill (plaid Rowland), a'r fath yspryd drwg yn dangos ei hun ynddynt mewn amrywiol ffyrdd, a'r moddion a ddefnyddiant i hudo y gwan, cafwyd cryn ddadl ar y priodoldeb o fyned i wrando arnynt, ac ymddiddan â hwynt. Cydunodd yr holl frodyr i roddi rhyddid i'r rhai a ddewisent fyned, fel y gallent farnu drostynt eu hunain, hyd nes y byddent wedi gwneyd eu meddyliau i fynu i ymadael atynt hwy, neu ynte i ymuno â ni; ond gwedi hyny nad oeddynt i fyned i'w gwrando hyd nes y byddai i'r holl Gymdeithasfa gael ei boddloni ynddynt.

Cafwyd dad ar y rhai a wahoddent atynt y blaid arall a ninau. Cydunasom yn (1) Gyda golwg ar y rhai ydynt mewn amheuaeth gyda golwg ar dderbyn y ddwy blaid i'w tai i bregethu, ein bod yn pregethu yn eu mysg hyd y Gymdeithasfa nesaf, neu hyd nes y gwnelont eu meddyliau i fynu i uno â ni, neu â hwy. (2) Ein bod i bregethu yn mysg y rhai cnawdol sydd yn eu galw hwy a ninau, ar yr amod eu bod yn cadw y lle yn agored i ni, yn ddifwlch, pa bryd bynag y deuwn."

Trefnwyd hefyd fath o gyfeisteddfod gweithiol, cynwysedig o ugain o bersonau, gyda Howell Harris yn ben arno, i benderfynu pob peth amgylchiadol. Neillduwyd brodyr i gymeryd gofal y seiadau, ac i ymweled â gwahanol ranau y wlad. Eithr nid oedd y Gymdeithasfa i derfynu heb ryw gymaint o ddiflasdod. Daeth un Joseph Saunders ag achwyniadau yn erbyn Madam Griffiths. Trodd Harris ef allan ar unwaith. Trodd Thomas Seen allan yn ogystal, am nad oedd yn gweled gwaith yr Arglwydd yn Madam Griffiths, ac yn William Powell. Parodd hyn i'r priodoldeb o gael Madam Griffiths yn y Cymdeithasfaoedd a'r seiadau gael ei