Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/428

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ewyllys yr Arglwydd oedd tori y Cyfundeb Methodistaidd i fynu yn hollol? Ynraddol, modd bynag, llonyddodd ei deimlad, ac aeth yn ei ol i Hwlffordd, at y brodyr a'r chwiorydd, gan gyfaddef ei edifeirwch.

O Sir Benfro teithiodd trwy ranau isaf Sir Aberteifi, a'r rhanau agosaf iddi o Sir Gaerfyrddin, ond cafodd fod y rhan fwyaf o'r seiadau yn cydymdeimlo à Rowland. Bu yntau yn dra llym wrthynt o'r herwydd, gan ddweyd nad oedd am ymweled â hwy drachefn, oddigerth iddynt roddi iddo y lle a gawsai gan Dduw. Wedi cyrhaedd Llwynyberllan yn ei ol, croesodd dros y mynyddoedd i'r Hen Fynachlog, lle o fewn rhyw filltir i Bontrhydfendigaid, ac heb fod dros ddeg milltir o Langeitho. Ymddengys fod y ddeadell yma yn wrthwynebol i Rowland, a'u bod wedi anfon gwahoddiad i Harris ymweled â hwy. Wrth ei fod yn pasio trwy Dregaron, llanwyd ei yspryd â chariad dirfawr at Rowland. "Yr wyf yn gweled mai fy mrawd ydyw," meddai; "yr wyf yn llawen am mai efe sydd yn ben (ar y brodyr oedd wedi ymwrthod â Harris); ac y mae yn flin genyf weled cynifer o wiberod o'i gwmpas, yn ei frathu ac yn ei wenwyno." Gwelir fod Harris, yn nyfnder ei yspryd, yn gorfod anwylo Rowland, a'i fod yn beio rhywrai oedd o'i gwmpas yn fwy nag efe. Cafodd gynulleidfa

EGLWYS ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.


fawr yn yr Hen Fynachlog, a chwedi pregethu, cadwodd seiat breifat. Dywedodd yno drachefn am ei anwyldeb at Rowland, ond fod yn rhaid iddo yn awr ymladd yn ei erbyn. Ymddengys, modd bynag, iddo ddeall mai nid oddiar ddybenion crefyddol yr oeddynt wedi anfon am dano, a dywedodd na ddeuai yno drachefn, hyd nes y byddent wedi ymffurfio yn rheolaidd, ac wedi anfon am dano, nid oddiar ragfarn at y brawd Rowland, ond oddiar ofn Duw, ac yspryd cariad. Tranoeth, croesodd y Mynydd Mawr, ac wedi ymweled ag amryw leoedd yn Sir Faesyfed a Brycheiniog, dychwelodd i Drefecca. Ar y dydd olaf yn Hydref, cyfarfyddodd corph mewnol y Gymdeithasfa yn Nhrefecca. Llefarodd Harris yn helaeth am ddyfod i feddu yr un goleuni, onide na fyddai yr undeb rhwng yr aelodau yn ysprydol o gwbl, eithr yn undeb cnawdol, fel eiddo y blaid oedd wedi ymranu. Trowyd dau gynghorwr, sef William James, a Rue Thomas, allan o'r cyfarfod, i weddïo, am nad oeddynt yn tyfu, ac nad oedd pwys y gwaith yn gorphwys ar eu hysprydoedd, ac hefyd am nad oeddynt yn gallu ymwthio yn mlaen oddifewn i'r llen. Ychydig o wahaniaeth a welai Harris rhwng eu hysprydoedd ag eiddo y blaid arall. Amlwg fod ei safon o'r hyn a ystyriai yn