Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/429

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysprydolrwydd yn ymddyrchafu yn gyflym, a'i bod ar gyrhaedd pwynt uwchlaw yr hyn sydd yn bosibl i'r cyffredin o dduwiolion.

Cawn ef ar y 4edd o Dachwedd yn cychwyn ar daith i'r Gogledd. Gwedi ymweled ar ei ffordd ag amryw leoedd yn Sir Faesyfed, y mae, dydd Gwener, Tachwedd 9, yn cyrhaedd Llwydcoed, yn Sir Drefaldwyn. Nid oedd pall ar ei wroldeb wrth wrthwynebu yr anhawsderau a welai o'i flaen. "Y mae fy yspryd," meddai, "uwchlaw holl ddiaflaid y Gogledd; yr wyf yn edrych arnynt fel gwybed." Yn Llanrhaiadr Mochnant, un awr yr arhosodd, i gael ymborth iddo ei hun a'i anifail, ac yna, trafaelodd trwy y nos, gan gyrhaedd Mwnglawdd, lle heb fod yn nepell o Wrexham, boreu y Sadwrn. Pregethodd yma gyda dylanwad mawr ar y Drindod, bwyta cnawd ac yfed gwaed Mab y Dyn, a dangosai am farwolaeth Duw, ei fod uwchlaw dirnadaeth y cnawd. Yn Mwnglawdd yr arosodd dros y Sul, a

CAPEL TREHIL, ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.


phregethodd yno drachefn ar y geiriau: "A ydych chwi yn awr yn credu?" Ymddengys iddo gael odfa nerthol iawn. Dangosai dri nod yr etholedigion, sef eu bod yn cael eu dysgu gan Dduw; eu bod yn adnabod llais Crist, ac yn gwrando arno; a'u bod yn edrych ar yr hwn a wanasant. Taranai yn ofnadwy yn erbyn yr yspryd hunanol a balch oedd wedi dyfod i fewn i fysg y rhai a fuasent unwaith yn syml, ac yn barod i gymeryd eu dysgu. Rhybuddiais y bobl," meddai, "rhag gwrando ar reswm, ac anogais hwynt i wrando ar yr Arglwydd yn unig; am iddynt ein gadael ni i'r Arglwydd. Dywedwn fy mod wedi dyfod i droi eu calonau at yr Arglwydd; nad oedd genyf un gwaith arall, ac oni chlywch lais Crist ynom ni,' meddwn, yn cyrhaedd. eich calonau, gadewch ni. Nid yw o un pwys beth a fuoch, beth ydych yn awr yw y pwnc. Bu Saul yn mysg y prophwydi, a'r morwynion ffol yn mysg y morwynion. call, ond nid ydynt gyda hwy yn awr.