addysgu pobl yn egwyddorion crefydd, trwy gyfrwng unrhyw iaith ond yr un a ddeallir ganddynt." Yr oedd Griffith Jones yn wir athronydd; deallai yn drwyadl mai trwy gyfrwng y gwybyddus yn unig y gellir dod o hyd i'r anwybyddus; ac yr oedd yn pleidio yr egwyddorion y dadleuir drostynt gan Gymdeithas yr iaith Gymraeg, gant a haner o flynyddoedd cyn i'r Gymdeithas gael bodolaeth. Nid ydym yn deall ei fod yn cael ei gyffroi o gwbl gan zêl at iaith, ychwaith; ond deallai 'mai trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig y gellid cael gafael ar y bobl; nad oedd un moddion arall trwy ba rai y gellid eu hyfforddi yn y pethau a berthynent i'w' heddwch.
Er mor gymhedrol ddyn oedd Griffith Jones, ac er mor ofalus oedd yn newisiad ei eiriau, cyffroid ei yspryd weithiau gan wrthwynebiadau yr esgobion, ac uchelwyr y wlad, ac ysgrifenai bethau cryfion a difrifol.[1] " Pe bai Iesu Grist ar y ddaear yn awr," meddai, " a phe y gofynai y cwestiwn ' oni ddarllenasoch? ' byddai raid i filoedd o'n pobl dlodion ateb, ' Naddo, Arglwydd; ni ddysgwyd ni i ddarllen; ni fedrai ein rhieni fforddio y draul i'n hanfon i'r ysgol; ac ni wnai ein Harweinwyr ysprydol gynorthwyo; a phan y gwnaed ymdrech i'n haddysgu yn rhad, ni wnai rhai o'n gwell, a feddai awdurdod yn y plwyf, oddef y cyfryw beth.'" Y mae hynyna yn ddigon hallt, ond nid ydym yn gwybod i ni ddarllen erioed ddim mwy llosgadwy nag a ganlyn: "Os bydd i rywun, nid yn unig esgeuluso, ond hefyd geisio rhwystro yr amcan caredig hwn (sef, dysgu y bobl i ddarllen y Beibl Cymraeg), byddai yn dda iddo ystyried ai llawenydd anrhaethol ynte poen annyoddefol iddo, yn nydd mawr y cyfrif, fydd bod y trueiniaid colledig anwybodus yn pwyntio ato, gan ddywedyd: 'Dacw y dyn, y dyn creulawn annhrugarog, gelyn Duw a bradychwr ein heneidiau ninau, yr hwn a rwystrodd ein hiachawdwriaeth, ac a'n cauodd allan o deyrnas nefoedd. Gan hyny y mae yn euog o'n gwaed; efe yw achos ein damnedigaeth, gan iddo wrthwynebu y moddion a gynygid i'n dwyn i wybodaeth o Grist yr iachawdwr.'" Teimla ei fod yn ysgrifenu yn llym, ac yn tynu darlun ofnadwy a brawychus; felly amddiffyna ei hun trwy ddweyd: " Efallai y tybia rhai fy mod yn gwarthruddo yr ynadon, y gweinidogion, a'r esgobion. Pell oddiwrthyf fi fyddo gwarthruddo neb ond y sawl y mae y gwarthrudd yn perthyn iddo." Cystal a dweyd: Peidied neb a gwisgo y cap os nad yw yn ei ffitio. Yna ychwanega: "Chwi a wyddoch i mi gael fy ngeni yn Gymro, ac nad wyf eto wedi dad-ddysgu gonestrwydd a gerwindeb (unpoliteness) iaith fy mam, nac ychwaith wedi meddíanu llyfndra olewaidd yr iaith Saesneg, yr hon yn awr sydd wedi ei reffeinio fel y mae yn aml yn ymylu ar weniaeth."
Ond er pob peth yr oedd gwrthnaws yr esgobion, ac eiddigedd y clerigwyr dioglyd a meddw, at Griffith Jones a'i ysgolion yn parhau; ac yn y flwyddyn 1752 cyhoeddwyd traethodyn bustlaidd, ond heb enw wrtho, i'w waradwyddo, ac i geisio enyn rhagfarn yn ei erbyn. Teitl y traethawd yw: Peth hanes yr Ysgolion Elusengar Cymreig, a , chyfodiad a chynydd Methodistiaeth yn Nghymru trwy eu hofferynoliaeth, dan drefniant a chyfarwyddid unigol Griffith Jones, offeiriad, Person Llanddowror, yn Sir Gaerfyrddin, mewn hanes byr fywyd y Clerigwr hwnw fel Clerigwr, Dywed Gwilym Lleyn mai awdwr y llyfryn hwn oedd y Parch. John Evans, person eglwys Gymmun, ger Llanddowror, dyn drwg ei foes, a gelyn anghymodlawn i Griffith Jones a'r diwygiad. Ond yr oedd John Evans yn hyn o orchwyl dan dal gan Esgob Tyddewi, yr hwn na phetrusai ddefnyddio yn ddirgelaidd yr offerynau gwaelaf i ddrygu dyn na feiddiai ei erlid yn gyhoeddus. Nis gellir dychymygu am ddim butrach na'r traethodyn hwn; y mae ei iaith yn isel, ac mewn manau yn rhy anweddaidd i'w gosod mewn argraff; daw gelyniaeth a malais i'r golwg yn mhob brawddeg a llinell. Wele rai o'r cyhuddiadau: —
1. Mai Catecism Matthew Henry a arferai Griffith Jones wrth gateceisio rhwng y llithiau, pan y tybid yn gyffredin ei fod yn defnyddio Catecism Eglwys Loegr; ac iddo wasgar 24,000 o'r cyfryw Gatecism, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, rhwng ei ysgolheigion.
2. Y maentymiai fod wyn gwerthfawr i Grist yn mhlith y gwahanol sectau.
3. Mai Ymneullduwyr oedd ei rieni, ac na fu yntau eu hun erioed yn gymodlawn ag Eglwys Loegr, gyda ei chanonau, ei homiliau, ei chlerigwyr, a'i rubric.
4. Iddo dreulio peth amser, tra yn beriglor yn Llanddowror, i astudio Hebraeg dan Mr. Perrot, Athraw y Coleg Presbyteraidd yn Nghaerfyrddin.
5. Fod naw o bob deg o'r rhai a gymunent
- ↑ Welsh Piety, 1742