Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/434

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sparks oedd prif ddyn y Gymdeithasfa yn awr, ac efe, fel rheol, a agorai y gwahanol gyfarfodydd gyda phregeth. Traethodd Harris yn helaeth ar y nodweddion gofynol yny "tadau," y "gwŷrieuainc," a'r "plant." Gan y "tadau," gofynid am galon ac yspryd tadol, eu bod wedi tyfu mewn ffydd a phrofiad, nes meddu sefydlogrwydd ysprydol; eu bod yn barod i flaenori y lleill mewn wynebu pob math o berygl at gwrthwynebiad. Dysgwylid iddynt feddu, yn mhellach, fywiogrwydd o ran eu holl synwyrau ysprydol, fel y gallent adnabod yr ysprydion, a deall holl ddirgel ddyfeisiau. Satan; yn eu mysg, hefyd, rhaid cael dirgelwch yr Arglwydd, cariad pur, a marweidd-dra i hunan. Yr oeddynt i fod yn llygaid, yn enau, ac yn glustiau i'r praidd, ac i wylio dros y pregethwyr eraill. Nid rhyfedd, gwedi arholiad manwl, iddynt fethu cael neb yn dyfod i fynu yn hollol a'r safon uchod; ond gobeithid fod yr Arglwydd yn parotoi rhai. Cawn ddarfod i John Richard, Llansamlet, ofyn caniatad i ddyfod i mewn i'r Gymdeithasfa; y caniatad a roddwyd iddo; ond ni thaflodd ei goelbren i'w mysg, am ei fod yn gaeth gan ei reswm.

Rhaid i ni basio amryw o fân gyfarfodydd, a dyfod at Gymdeithasfa bwysig a gynhaliwyd gan Harris a'i blaid yn Llwynbongam, Gorphenaf 2, 3, 1751. Yr oedd safon Harris, fel y mae yn amlwg, yn myned yn uwch yn barhaus, a'i ddysg yblaeth yn fwy llym, ac felly, yr oedd y cynghorwyr, y naill ar ol y llall, yn cwympo i ffwrdd oddiwrtho. Hefyd, cofnodir ddarfod i Whitefield, yr haf hwn, ddyfod i lawr i Gymru, gan bregethu yn gefnogol i Rowland a'i blaid, ac yn erbyn gwaith Harris yn cymeryd Madam Griffiths o gwmpas, a sicr yw ddarfod i'w ymweliad ef ddylanwadu ar lawer. Methodd John Sparks ddyfod i'r Gymdeithasfa, oblegyd afiechyd; anfonodd eraill air nas gallent ddyfod, ac yr oedd eraill, drachefn, wedi tramgwyddo. Ond daethai Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill. Cynygiodd Harris ar y dechreu fod pawb yn agor ei calonau, fel y gwelent pwy oedd yn meddu ffydd i fyned a chymeryd y wlad, ac i sefyll o blaid yr Arglwydd wrtho ei hun, heb neb gydag ef? Mewn canlyniad, trowyd amryw allan, am na feddent y ffydd ofynol. Yr oedd Richard Tibbot erbyn hyn yn dechreu petruso, ac yn teimlo annhueddrwydd i fyned o gwmpas, a dymunai gael myned i ymddiddan a'r brodyr eraill (plaid Rowland). Yn ngwyneb hyn, cododd Harris ar ei draed, gan ymhelaethu ar yr angenrheidrwydd bob un i fod yn sefydlog yn yr Arglwydd, ac yn y gwaith, na ddylai neb gloffi o herwydd y rhai oedd wedi ymadael, oblegyd fod y cyfryw oll wedi tramgwyddo wrth y gwirionedd, a bod pob moddion wedi cael eu defnyddio tuag at eu hadfer. Dangosai, yn mhellach, am y gwahaniaeth rhwng pregethwyr; fod rhai wedi cael eu galw i fod yn dadau, eraill yn wŷr ieuainc, yn blant, yn efengylwyr, ac yn brophwydi; a bod rhai yn meddu yspryd Moses a Phaul i drefnu ac i orchymyn. Yna, cyfeiriodd at blaid Rowland, nas gellid, o gydwybod, eu derbyn yn ol, hyd nes y cydnabyddent bechadurusrwydd eu hyspryd, ac annghrediniaeth eu calonau. Am Madam Griffiths, dywedodd ei bod yn parhau i fod yn fendith iddo, trwy fod yn Llygad, ac yn brofydd yr ysprydion. Ar ddiwedd y cyfarfod, y nos gyntaf, rhoddodd amryw eu henwau, fel yn barod i ddyfod tan y ddysgyblaeth fanwl y cyfeiriasid ati; ac yn eu mysg cawn Thomas Williams, a Lewis Evan. Y penderfyniad cyntaf a geir boreu dranoeth yw a ganlyn: "Trowyd Richard Tibbot i ffwrdd am wrthod cymeryd taith, ac am fyned i ymweled a'r brodyr eraill, gan fod pob moddion wedi cael eu harfer atynt, ac nad oes genym ffydd mai yr Arglwydd sydd yn ei anfon atynt." Terfynwyd y Gymdeithasfa, wedi gwneyd amryw drefniadau, trwy i Lewis Evan bregethu ar ddyoddefiadau Crist, a Thomas Williams ar adeiladiad y deml.

Hydref 2, 1751, cynhelid Cymdeithasfal yn Nhrefecca. Nid oedd yn un liosog, eithr yr oedd Lewis Evan yn bresenol, a Thomas Williams, ac amryw eraill, heblaw Howell Harris a Madam Griffiths. Eithr yr oedd John Sparks yn absenol, a Richard Tibbot. Dywedir am yr olaf ei fod wedi suddo oddiwrth yr Arglwydd, eithr ei fod wedi ysgrifenu llythyr i'r Gymdeithasfa. Cafodd un Thomas Roberts, o Sir Fôn, ei arholi, a'i dderbyn fel pregethwr, a chafodd bregethu yn y Gymdeithasfa. Ymddengys fod llawer o'r tai anedd, yn mha rai yr arferai Harris bregethu, yn awr wedi eu cau iddo, ac yn enwedig i'w gynghorwyr; ac felly, y mae yn gorchymyn i'r pregethwyr lefaru yn yr awyr agored. Rhydd y rhesymau canlynol dros ei ymddygiad: (1) Dyma y com-