Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/437

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XVII
HOWELL HARRIS–GWEDI YR YMRANIAD

Howell Harris yn gosod i lawr sylfaen yr adeilad newydd yn Nhrefccca–Ei afiechyd difrifol–Anerchiad pwysig yn y "Cynghor"— Anfon milwyr i'r fyddin– Harris yn gadben yn y milisia–Ei lafur yn Yarmouth a manau eraill. Gostegu y terfysgwyr yn Nghymdeithasfa Llanymddyfri–Blwyddyn ei Jiwbili–Anfon at Rowland, yn Llangeitho, i ofyn am undeb–Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell– Harris yn teithio yn mysg y Methodistiaid Cymdeithasfa eto yn Nhrcfecca, gwedi tair blynedd–ar–ddeg–Cymdeithasfa Woodstock–Amryw Gymdeithasfaoedd eraill Coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefccca—Isaf–Ymweliadau y Methodistiaid a Threfccca–Terfyn oes Howell Harris.

YMDDENGYS fod gwneyd Trefecca yn rhyw sefydliad crefyddol pwysig yn syniad oedd wedi cael lle yn meddwl Harris er ys blynyddoedd, er nad oedd ganddo weledigaeth eglur, mewn modd yn y byd, parthed ei natur, a'i ffurf. Yr oedd yn adeiladu yno er ys cryn amser, a hyny heb wybod yn iawn i ba bwrpas. Yn awr, gwedi yr ymraniad, dyma y meddylddrych yn cymeryd ffurf bendant. Dywed yn ei ddydd-lyfr fod Trefecca y lle mwyaf canolog a ellid gael; ei fod yn gorwedd yn y canol rhwng Caerfyrddin a Chaerloyw; a rhwng Bryste a LlanfairCareinion; ac mai agos yr un faint o ffordd oedd oddiyno i Dregaron, Llanidloes, Casnewydd, Caerdydd, Llantrisant, Castellnedd, ac Abertawe. Ar y 13eg o Ebrill, 1752, gosododd i lawr sylfaen darn newydd o adeilad, eangach, a mwy golygus, na'r adeilad blaenorol. Nid oedd ganddo arian o gwbl at y gwaith, na dim i syrthio yn ol arno, wrth wynebu ar yr anturiaeth, ond addewidion y digelwyddog Dduw. Er holl lafur Howell Harris, a'i ymdrechion difesur, nid oedd wedi cael fel ffrwyth i'w lafur, mor bell ag y mae aur ac arian yn myned, ond prin digon i gynal ei hun a'i deulu. Cawn ef yn dweyd droiau, er nad mewn ffordd o achwyniad, ei fod ef yn llymach ei wisg na neb, a bod ei geffyl yn waelach. Yn bur fynych yr ydym yn ei gael mewn dyled, ac mewn pryder mawr am gael swm o arian i gyfarfod â rhyw ofyn oedd arno. Er hyn oll, y mae yn anturio ar waith a gostiai filoedd o bunoedd, heb geiniog y tu cefn. Tranoeth, wedi gosod i lawr y sylfaen, cychwynodd am Lundain, a dywed iddo adael ar ol yn Nhrefecca un-ar-bymtheg o weithwyr, tair o fenywod, a phedair yn rhagor i ddyfod yn fuan. Gorchymynodd hwy i'r Arglwydd wrth ymadael, gan ddweyd ei fod yn ei adael ef yn ben arnynt.

Yn haf 1752, cymerodd dau amgylchiad pwysig yn nglyn à Howell Harris le. Un oedd marwolaeth Madam Griffiths, yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ar y dydd olaf o Fai. Galarodd ef yn fawr ar ei hol, meddyliodd fod ei hymadawiad yn golled. anadferadwy i'r gwaith; ond y mae yn sicr ddarfod i'w marwolaeth brofi yn fendith iddo, gan ei bod, tra y bu mewn cysylltiad ag ef, yn un o'r elfenau a ddylanwadodd gryfaf i wenwyno ei yspryd. Y llall oedd iddo gael ei daro i lawr gan afiechyd difrifol, y tybiai ef a fyddai yn angeuol iddo. Ffrwyth gorlafur oedd hwn. Er cadarned cyfansoddiad Harris, ac er gwydnwch ei natur, nis gallasai cnawd ddal yr holl lafur, y lludded, a'r teithio yr aethai trwyddynt, heb dori i lawr. Yn arbenig, y ddwy flynedd ddiweddaf, gwedi yr ymraniad, nid oedd ganddo neb o gyffelyb feddwl iddo ei hun i fod yn gynorthwy iddo, ac felly, yr oedd yr holl faich yn dod i bwyso arno ef. Mordeithiau Whitefield, yn y rhai y caffai seibiant oddiwrth ei lafurwaith dibaid, a gadwodd y gŵr enwog hwnw cyhyd yn iach ac yn gryf. Erbyn Gorph. 28, 1752, yr oedd un adran o'r adeilad yn barod, ac yr oedd Cynghor wedi cael ei drefnu i gyfarfod y pryd hwnw yn Nhrefecca, er gwneyd math o agoriad ar y lle, yn gystal