Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/438

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag er trefnu materion. Sal enbyd oedd Howell Harris; tybiai ef ei fod ar groesi yr Iorddonen; eto, mynai ymlusgo i'r Cynghor y naill ddiwrnod ar ol y llall, er anerch y pregethwyr cynulledig. Cyfranogai ei anerchiadau o ddifrifwch byd arall. "Yr wyf yn ffarwelio â chwi am dragywyddoldeb," meddai; "nid wyf yn dysgwyl gweled eich wynebau mwy. Yn ngwaed y Duwdod yn unig y mae fy mae fy hyder, ac eto yr wyf wedi eich galw, gan ddatgan fy serch angerddol at bawb sydd yn dyfod ato. Y chwi, sydd wedi myned yn ol, gadewch i mi yn fy marwolaeth wneyd yr hyn y methais ei gyflawni yn ystod fy mywyd, sef eich cyffroi i ddyfod yn mlaen, gyda phalmwydd yn eich dwylaw, fel y dysgleirioch am byth gerbron yr orsedd. Y mae gwaed Crist yn golchi oddiwrth bob pechod. Er fod Satan wedi eich dallu ac wedi eich caledu, dewch at y ffynhon hon, a chwi a orchfygwch, ac a gyfarfyddwch â Duw. O na allwn beri i'r holl greadigaeth fy nghlywed! Mi a'u hanfonwn oll at y ffynhon. Gadewch i mi eich cyfarch o ymyl tragywyddoldeb. Deuwch at y groes; chwi a welwch yno bob rhyfeddod, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan, y Tri yn Un, yn llewyrchu arnoch. Gadewch i mi ymadael mewn gobaith cryf y caf eich cyfarfod gerbron yr orsedd." Wrth draddodi yr anerchiad hwn bu agos iddo lewygu, a'i gario a gafodd yn ei ol i'w ystafell. Rhaid ei bod yn olygfa i'w chofio byth. Cofnodir fod rhai yn bresenol ar yr achlysur o bob sir yn Nghymru, oddigerth Aberteifi a Fflint.

Ond yn wrthwyneb i'w ddysgwyliadau, gwellhaodd yn raddol. Mor fuan ag y daeth yn abl, dechreuodd bregethu i'r gweithwyr, ac i'r rhai oedd wedi dyfod i Drefecca i fyw, dair gwaith yn y dydd. Canlyniad hyn ydoedd i ddynion ymgynull yno o bob parth o'r wlad; rhai teuluoedd cyfain; ond yn benaf dynion dibriod, yn feibion ac yn ferched, y rhai a dybient ei bod yn ddyledswydd arnynt i ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd. Nid oedd ef wedi dysgwyl am ddim o'r fath. Lle i ryw haner dwsin o deuluoedd, a nifer o bregethwyr sengl, yn nghyd ag ychydig ferched i weini arnynt, oedd ef yn olygu wrth osod i lawr sylfaen yr adeilad. Eithr yr oedd bob amser yn ymddyrchafu goruwch ei anhawsderau, a chawn ef yn awr yn prysuro i helaethu ei dŷ, ac yn codi tai o gwmpas, nes ffurfio yno bentref. Daeth amaethwyr crefyddol, hefyd, i'r gymydogaeth, gan gymeryd y tiroedd o gwmpas ar ardreth, neu eu prynu, er mwyn bod yn ddigon agos i fwynhau y breintiau. crefyddol oedd i'w cael yno. Cyn pen blwyddyn a haner, yr oedd "teulu" Trefecca yn rhifo dros gant, y rhai a ddaethent yno o bob sir yn Nghymru braidd. Cyn ymuno a'r "teulu," yr oedd yn rhaid i bawb gyflwyno yr oll a feddent i'r drysorfa gyffredin. Ac yr oedd rhai yn dra chyfoethog; ond diau fod y rhan fwyaf yn dlodion, ac felly, disgynodd y baich o gynal y teulu mawr hwn ar ysgwyddau Howell Harris yn gyfangwbl. Cymerodd yntau dir i'w amaethu, mynodd wlan i'r merched i'w nyddu a'i wau, a daeth Trefecca yn ganolbwynt amryw fathau o ddiwydrwydd. A gofalodd Duw am danynt, fel na welsant eisiau dim. "Bum yn fynych mewn pryder," meddai, "ac eisiau ugain neu gant punt o arian arnaf, heb wybod pa le i droi am danynt, a'r Arglwydd heb estyn ymwared hyd y pwynt diweddaf; ond bob amser daeth ymwared, a hyny fynychaf o gyfeiriad nad oeddwn yn ddysgwyl. Anfonid deg, ugain, ac weithiau gan' punt i mi, gan bersonau yn byw ugeiniau o filltiroedd o bellder, heb un rheswm, ond fod rhyw orfodaeth arnynt nas gwyddent ei natur. Digwyddodd hyn i mi lawer gwaith." Nid oedd. dim i attynu y diog na'r mursenaidd i Drefecca. Yr oedd yr holl deulu tan ddysgyblaeth lem, ac yn gorfod byw ac ymarweddu yn mhob dim wrth reolau manwl. Caled oedd yr ymborth, a garw oedd y gwisgoedd, a gofynai dysgyblaeth y lle am hunanymwadiad mawr. Nid Howell Harris oedd y dyn i hulio bwrdd â danteithion, ac i roddi achles i segurdod a diofalwch; nid oedd erioed wedi ymroddi i'r cyfryw bethau ei hun, ac nid oedd am eu darpar i eraill. Ond yr oedd un peth yn y lle, mwy ei werth na phob peth daear yn ngolwg y bobl ddysyml oedd wedi ymgynull yno, gwerth aberthu cysuron naturiol er ei fwyn; yr oedd efengyl Crist yn cael ei phregethu yno yn ei phurdeb; yr oedd bara y bywyd yn cael ei ranu yn dafellau mawrion gyda chysondeb difwlch. Meddai Williams, yn ei farwnad:

"Ti fuost ffyddlon yn dy deulu,
Llym yn dy adeilad mawr,
Ac a dynaist flys ac enw,
A gogoniant dyn i lawr.

Ac ti wnest dy blant yn ufudd
At eu galwad bob yr un,
Byw i'th reol, byw i'th gyfraith,
Byw i'th oleu di dy hun;