yn ei eglwys yn Ymneillduwyr, y rhai na chroesent drothwy unrhyw eglwys, ond yr eiddo ef.
6. Ei fod yn cydymdeimlo a Methodistiaeth; mai efe a wnaeth Howell Harris yn Fethodist, a'i fod yntau ei hun yn gohebu a'r Methodistiaid.
7. Ei fod yn ei Eglurhad ar Gatecism yr Eglwys yn esbonio ymaith yr athrawiaeth werthfawr am ail-enedigaeth mewn bedydd, ac yn honi na all bedydd, nac unrhyw beth arall, heb ffydd yn Nghrist, wneyd neb yn Gristion.
8. Ddarfod iddo ef a'i ffrynd (Madam Bevan, yn ddiau), fyned i drafferth a thraul fawr i ddiddymu gŵyl-mabsantau, a chwareuyddiaethau, er mawr niwed i haelfrydedd a chariad Cristionogol a chymydogaeth dda, i'r hyn y gwasanaethai y chwareuon yn fawr, ac heb fod unrhyw niwed o bwys yn eu canlyn.
g. Mai yn dyrnor llestri coed y cafodd ei ddwyn i fynu, a'i fod yntau yn arfer y gwaith hwnw wrth ei bleser pan yn beriglor yn Llanddowror.
10. Y derbyniai dâl am bregethu ar hyd a lled y wlad, y disgwyhai gael haner coron yn nghil ei ddwrn ar derfyn pob pregeth, tra na thalai efe y neb a wasanaethai yn ei le yn Llanddowror.
11. Ei fod yn cyfnewid y Litani, ac yn gadael allan ddarnau cyfain o'r gwasanaeth, er mwyn cael amser i weddïo a phregethu ei hun.
Ceir yn y traethodyn liaws ychwanegol o'r cyffelyb gyhuddiadau. Desgrifir Griffith Jones yn yr iaith fwyaf garw ac aflan fel rhagrithiwr ffiaidd, gormeswr creulawn, a chelwyddwr diail; a dynodir ei ganlynwyr fel lladron, creaduriaid diog, puteinwyr, a phenboethiaid anwybodus. Yn synwyrol iawn, ni wnaeth Mr. Jones unrhyw sylw o'r llyfryn; aeth yn ei flaen gyda ei waith heb gymeryd arno glywed cabledd a difriaeth ei wrthwynebwyr. Nid ydym yn gwybod i neb sylwi arno, hyd nes y darfu i Ieuan Brydydd Hir gyfeirio ato yn y flwyddyn 1776, yn nghyflwyniad ei lyfr cyntaf o bregethau " I Syr Watkin Williams Wynn, o Wynnstay, Barwn." Dywed efe fod "rhai o weinidogion cydwybodol yr efengyl wedi dyoddef yn greulawn yn y blynyddoedd diweddaf dan yr esgobion arglwyddaidd a gormesol Od amheuir hyn, cyfeiriaf at ysgrifeniadau y diweddar dduwiol a gwir barchedig Mr. Griffith Jones, o Llanddowror, yr hwn a ddioddefodd holl fustleiddiwch offeiriad llwgr-wobrwyedig, a gyflogasid gan yr esgobion i'w drybaeddu, er ei fod ef, trwy neillduol ras Duw, heb na brycheuyn na chrychni arno, ond yr hyn a welai malais a gwallgofrwydd yn dda ei fwrw."
Er pob gwrthwynebiad lluosogi a wnaeth yr ysgolion, a chynyddu a wnaeth rhif yr ysgolheigion. Nid oedd ball ar ymdrechion Griffith Jones o'u plaid; dadleuai drostynt yn y Welsh Piety y naill flwyddyn ar ol y llall, gan brofi y da a effeithid trwyddynt, a chyhoeddi tystiolaethau ffafriol iddynt o bob rhan o'r wlad. O'r ochr arall, yr oedd gwanc anniwall yn y werin am ddysgu darllen. Deuai y dall, y cloff, yr anafus, a'r hen, i'r ysgol, ac wylent ddagrau o lawenydd oblegyd eu braint. Ymledodd yr ysgolion dros yr oll o'r Dywysogaeth; plenid hwy yn fynych yn y mynydd-dir anghysbell, ac yn y cymoedd mwyaf unig, fel ag i roddi i bawb gyfleustra i ddysgu darllen yr Ysgrythyr lân. Wele daflen yn dangos eu hansawdd, a gyhoeddwyd gan Mr. Jones yn 1760, sef blwyddyn cyn ei farw.
Siroedd
Brycheiniog Aberteifi Caerfyrddin Morganwg Mynwy Penfro Môn Caernarfon Meirionnydd Dinbych Trefaldwyn Oll ynghyd |
Ysgolion
4 20 54 25 2 23 25 27 15 8 12 215 |
Ysgolheigion
196 1153 2410 872 61 837 1023 981 508 307 339 8687 |
Oddiwrth y daflen uchod, gwelir mai dwy yn unig o holl siroedd Cyniru oedd heb ysgolion, sef Maesyfed a Fflint. Anhawdd dweyd paham yr oeddynt hwy yn eithriadau. Priodola rhai hyny i elyniaeth ffyrnig yr offeiriaid yn erbyn y Diwygiad; ond nid oes genym un prawf eu bod yn fwy gelynol iddo yn y ddwy sir hon nag yn y rhanau eraill o Gymru. Efallai fod gwybodaeth o'r iaith Saesneg yn fwy cyffredinol ynddynt; yr oedd Maesyfed yr adeg hon yn ym-Saesnegeiddio yn gyflym; ac felly nad doddynt yn sefyll mewn cymaint o angen am yr ysgolion Cymraeg.[1] Yn ystod deng—mlynedd-ar- hugain parhad yr Ysgolion Cylchynol, dywedir i dros gant a haner o filoedd gael eu dysgu i ddarllen Gair Duw, oedran y
rhai a amrywiai o chwe' blwydd hyd dros
- ↑ Sir Thomas Phillips' Wales P 284