Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/442

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gryn raddau. Yr oedd ei yspryd yn bresenol wrth ei fodd. "Yr wyf yn gweled," meddai, "yr anrhydedd dirfawr a osodir arnaf, fy mod yn cael fy ngalw gan fy Arglwydd anwyl i'w waith, a'i fod wedi rhoddi lle i mi eto yn ei dŷ." Ar ddydd Gwener Croglith, y mae yn nhref Aberteifi, a gwelai wrth deithio tuag yno fod pawb wedi myned o'i flaen ef mewn goleuni, ffydd, a chymundeb â Duw. Bu yn yr eglwys yn y boreu; yn y prydnhawn pregethodd ei hun, ac er mai y nos flaenorol y cawsai y bobl wybod am ei ddyfodiad, daeth torf anferth yn nghyd. Dyoddefiadau y Gwaredwr oedd ei fater. Yn yr hwyr yr oedd yn Twrgwyn, lle yr oedd capel erbyn hyn wedi cael ei adeiladu. Mat. xi. 28, oedd ei destun; cofnoda fod torf fawr wedi ymgynull, ac meddai: Y fath ganu, a'r fath orfoleddu, ni chlywais erioed." Gwelsom ei fod ar y cychwyn yn ddrwgdybus o'r canu, ac yn erchi i'r crefyddwyr ei wylio; yn awr, modd bynag, y mae wedi cael ei lwyr orchfygu ganddo. "Arweiniwyd fi," meddai, "i gyfiawnhau y canu sydd yn awr yn y sir, lle y mae llawer yn canu clodydd Duw ac yn ei folianu trwy gydol y nos. Dangosais i'r cnawdol, y rhai ydynt yn tramgwyddo oblegyd fod y crefyddwyr yn canmol Duw yn ormodol, y dylent ystyried nad ydynt hwy (y cnawdol) yn caninol Duw o gwbl, ac felly y rhaid i'r crefyddol ei ganmol, nid yn unig drostynt eu hunain, eithr drostynt hwy yn ogystal. Wedi yr odfa, aeth i letya i dŷ Mr. Bowen, ynad heddwch, Gwaunifor, ac yr oedd yn ddeuddeg o'r gloch y nos arno yn cyrhaedd. Boreu dranoeth, am naw o'r gloch, pregethodd gerllaw y capel, yr hwn a adeiladasai Mr. Bowen ar ei draul ei hun, i dorf fawr. Yma ymadawodd â Mr. Gray, a Mr. Popkin, y rhai a fuasent yn gymdeithion iddo o Gilycwm hyd yn awr, a dychwelodd ar ei union i Drefесса. Gwelir mai brasgamu a wnaeth, a phaham y dewisodd yr ychydig leoedd a nodwyd i ymweled â hwynt, nis gwyddom.

Dydd Mawrth, gwedi y Pasg, aeth i Lanfair-muallt, lle na fuasai ynddo ond unwaith er ys deuddeg mlynedd. Pregethodd gyda nerth mawr. Cyfarfyddodd yno â John Richard, Llansamlet, a chynghorwr arall o'r enw Evan Roberts; aeth y ddau gydag ef i Drefecca, a boreu dranoeth yr oedd John Richard yn cychwyn am daith i'r Gogledd. Ychydig ddyddiau ar ol hyn, dywed ei fod yn darllen gweithiau Rowland, ac eiddo Williams, Pantycelyn; ac iddo gael ei ddarostwng yn enbyd wrth weled mor ddiddefnydd ydoedd o'i gymharu a'i frodyr. "Nid oedd genyf ddim i'w ddweyd trosof fy hun," meddai, "ond fy mod yn segur, diddefnydd, a llygredig." Yn sicr, yr oedd yn rhy galed arno ei hun; oblegyd gallai ddweyd lawn mor wirioneddol a'r apostol Paul: "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll." Ond tebygol mai meddwl am ei ymneillduad yr ydoedd. Ebrill 21, 1763, cychwyna am daith faith trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llangamarch, lle y pregethodd, heb gymeryd unrhyw destun, i dorf liosog. "Cyfarwyddais y dychweledigion ieuainc," meddai, ac adeiledais y ffyddloniaid." "ac Profa hyn fod nifer lliosog yn y cymydogaethau yma wedi ymuno â chrefydd yn ddiweddar. Cymerodd un o'r diwygiadau mwyaf nerthol a welodd Cymru erioed le y flwyddyn yma; ymledodd yn dân anorchfygol dros yr holl wlad, nes oedd y cymoedd mynyddig, yn ogystal a'r gwastadedd, fel pe yn llawn o foliant Duw. A ydoedd wedi tori allan mor gynar a hyn yn y flwyddyn, nis gwyddom; ond boed a fo, yr oedd "dychweledigion newydd" yn Llangamarch. Dranoeth, sef dydd Mawrth, croesodd y Mynydd Mawr, a daeth i Dregaron. Yma yr oedd Daniel Rowland yn ei gyfarfod, ac meddai: "Gwnaed fi yn ostyngedig wrth weled fod yr Arglwydd yn agor y drysau i mi, i fyned o gwmpas gyda fy hen gydlafurwyr, yr hon safle oeddwn wedi fforffetio trwy fy mhechod." Cafodd ryddid dirfawr ar weddi, ac wrth bregethu yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a farnent, ac a wrthwynebent Dduw a'i waith, a dangosai ysprydolrwydd y gyfraith, ac mor fewnol a manwl oedd ei gofynion. Cofnoda fod tri offeiriad heblaw Daniel Rowland yn gwrando. O Dregaron, aeth i Lwyniorwerth, nid yn nepell o Aberystwyth. Dilynai y bobl ef, gan ganu a molianu yr holl ffordd. Wrth weled a chlywed, teimlodd fod yr Arglwydd wedi dwyn yn mlaen ei waith hebddo ef, a'i fod wedi anrhydeddu Rowland a'r cynghorwyr yn fwy; eithr yr oedd yn mhell o fod yn eiddigus, ac yr oedd yn barod i ymroddi i'w cynorthwyo, gan obeithio y caffai fendith yn eu plith. Aeth i ymddiddan a'r bobl, a chafodd eu bod yn syml, yn barod i gymeryd eu dysgu, yn addfwyn, a hunan