Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/443

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwadol. "Iesu Grist wedi dyfod i gadw pechaduriaid" oedd ei fater yma, ac efengylu yn felus a wnelai. Y noswaith hono yr oedd yn Lledrod; yr oedd yr holl wlad wedi ymgynull i'r odfa, a chafodd yntau nerth rhyfedd i bregethu oddiar y geiriau: "Canys efe. a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Dranoeth, yr oedd yn ddydd. o ddiolchgarwch cyffredinol am yr heddwch gwladol a gawsid, ac aeth yntau i'r eglwys yn Lledrod i uno.

Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn Llangeitho, lle na fuasai ynddo er ys pedairblynedd-ar-ddeg; deng mil o bobl o leiaf oedd ei gynulleidfa; a chwedi cael gafael ryfedd ar weddi, pregethodd gyda rhyddid mawr oddiar y geiriau: "Canys yr ydym ni y rhai a gredasom yn myned i mewn i'w orphwysfa ef." Dangosai mai ffydd sydd yn puro y galon, ac yn gorchfygu y byd, ac yr oedd yn dra llym wrth y rhai a geisient wneyd ffydd a phenboethni yr un. Cafodd fod tros ddau cant o ddynion, a thros ddeugain o blant cymharol ieuainc wedi ymuno a'r seiat yma. Wedi yr odfa, gwnaed iddo gadw seiat breifat, yn yr hon y llefarodd ar amryw faterion, ac ar y terfyn gweddïodd yn daer dros Mr. Rowland. Gwelaf," meddai, "fod yr Arglwydd wedi ei ddyrchafu ef yn uwch na mi; ei fod wedi rhoddi iddo yr holl waith a'r anrhydedd hwn, ac hefyd yr holl seiadau, a'r holl gynghorwyr." Os oedd Harris, wrth ganfod y pethau hyn, yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd, fel y dywed ei fod, rhaid fod gras Duw wedi ei dywallt yn helaeth yn ei yspryd. Dydd Gwener, cawn ef yn Abermeurig; yna, gadawa ddyffryn prydferth Aeron, gan groesi y bryniau i Lanbedr, yn nyffryn Teifi. Ei destun yma oedd: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad;" yr oedd amryw o'r dosparth uchaf yn gwrando, felly, pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyfeiria at ddwy foneddiges yn benodol, sef Miss H. Lloyd, a Miss Evans. Wedi galw yn Dolgwm, ffermdy pur fawr islaw Llanbedrpont-Stephan, daeth, nos Wener, i Waunifor. Yr oedd Rowland yn cyd-deithio ag ef o hyd, ac ar y ffordd agorai ei fynwes wrth ei gyfaill am gael John Wesley, ac un o'r Morafiaid, i fyned o gwmpas Cymru gydag ef; ac am ffurfio undeb cyffredinol rhwng y gwahanol bleidiau yma, oddifewn i Eglwys Loegr. Beth a atebodd Rowland iddo, nis gwyddom. Yn Waunifor, pregethodd gydag awdurdod ar waed Crist yn glanhau oddiwrth bob pechod.

Yn y seiat breifat a ddilynai, gwasgai ar y crefyddwyr yr angenrheidrwydd am alaru yn ogystal a molianu. Wedi pregethu yn Twrgwyn, ac yn Nghwmcynon, daeth i Lechryd, nos Sul, lle y cafodd y gynulleidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd, a chyfrifa ei bod yn ddeuddeg mil. "Mawr yw dirgelwch duwioldeb," oedd ei destun. Pregethais ei glwyfau a'i waed," meddai; "mai dyma yr unig noddfa; gelwais a gwahoddais bawb ato, gan ddangos fod Duw ynddo, fel yn ei deml. Yr oeddwn yn llym wrth y rhai a wrthwynebent y gwaith hwn, ac a ddymunent ar iddo ddyfod i'r dim, gan ddangos eu bod o'r un yspryd â Chain." Cafodd ymddiddan yma ag un Mr. Enoch, arolygwr ysgolion Madam Bevan yn y tair sir, a gwelai ei fod yn ddyn syml a gostyngedig.

Ymddengys i Daniel Rowland ddychwelyd oddiyma, a darfod i Mr. Popkins gael ei osod i fod yn gydymaith i Harris yn ystod ei daith yn Sir Benfro. Dyn o yspryd balchaidd oedd Popkins; yn tueddu yn gryf at Antinomiaeth, a chofir i Daniel Rowland gael trafferth ddirfawr gydag ef ar ol hyn, ac yn y diwedd iddo orfod ei ddiarddel. Dechreuodd Popkins ddanod i Harris ei ymadawiad a'r Methodistiaid, a'i fod wedi gwastraffu llawer o'i amser yn ofer; a chanmolai Daniel Rowland i'r cymylau. Dyoddefodd y Diwygiwr yn amyneddgar am dipyn; eithr yn y diwedd. trodd arno, a dywedodd na chai efe (Popkins) fod yn esgob arno ef. Wedi pasio drwy Lwynygrawys, daeth i Drefdraeth; Fy nghnawd i sydd fwyd yn wir," oedd ei destun, ac arweiniwyd ef yn gyntaf i daranu yn enbyd, gan gyfeirio gyda difrifwch at angau a thragywyddoldeb. Ond cyn gorphen, efengylodd yn felus, a chyhoeddai fod yr Arglwydd Iesu yn ddigyfnewid. Yr oedd cynulleidfa fawr, yn rhifo amryw filoedd, yn Abergwaun; "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid," oedd y testun; ac yr oedd yn dra lym wrth y rhai na theimlent eu pechadurusrwydd. Am y tro cyntaf yn ystod y daith, cafodd fod cryn ragfarn ato yn meddyliau y bobl. Nid oedd y diwygiad wedi cyrhaedd yma eto; nid oeddynt yn canu, fel y gwnaent yn Sir Aberteifi. Y noswaith hono yr oedd yn Nhyddewi, a dywed fod yno gynulleidfa o amryw filoedd. Wedi pasio trwy y rhan Saesnig o Sir Benfro, daeth i Hwlffordd, a phregethodd yn y capel; yr oedd yno gynulleidfa dda, ond nid cynifer ag a fuasai oni