Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/447

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai efe a gawsai yr anrhydedd o fod y lleygwr cyntaf a aeth o gwmpas i bregethu, a darfod iddo fyned at yr esgob bedair gwaith i geisio cael ei urddo, a chael ei wrthod bob tro. Terfynodd ei anerchiad trwy waeddi am undeb cyffredinol, yr hwn a gynwysai y Morafiaid, y Wesleyaid, a'r Methodistiaid. Cafodd bregethu, hefyd, yn nghapel Spittalfields, lle yr oedd cynulleidfa fawr. Yr oedd y syniad am undeb wedi llyncu bryd Harris y pryd hwn; dyna yn benaf a'i dygasai i Lundain; er ei gael, yr oedd yn barod i wneyd pob aberth, oddigerth aberth o wirionedd.

EGLWYS LLANDDEWI-BREFI
Fel ydoedd yn amser Daniel Rowland


Ar y trydydd o Awst, cychwynai i Gymdeithasfa Llangeitho, gan basio trwy Abergwesyn, a Llanddewi-brefi. Teimlai fod Rowland wedi myned yn mhell yn mlaen arno; heblaw ei fod yn offeiriad urddedig, yr oedd y diwygiad presenol wedi cael ei gychwyn trwyddo, ac iddo ef y plygai yr holl gynghorwyr; "ond," meddai, "nid wyf yn eiddigeddu wrtho; yn gyflawn o ogoniant yr ydoedd pan y gwelais ef gyntaf yn y pwlpud yn Defynog." Pan gyrhaeddodd Langeitho yr oedd y Gymdeithasfa wedi dechreu, a Thomas Davies (Hwlffordd?) yn gweddïo; a phregethodd yr un gŵr yn ganlynol, ar y Cristion fel milwr, a Popkins ar ei ol, ar Dduwdod Crist. Wedi ciniaw, pregethodd Howell Harris. Y mae yn amlwg oddiwrth y dydd-lyfr fod Daniel Rowland yn gwneyd yn fawr o hono, ac yn ei anrhydeddu yn mhob modd. Yr oedd y cynghorwyr yn pwyso ar feddwl Harris, a chasglodd Rowland hwy yn nghyd er mwyn iddo eu cyfarch. Ei fater oedd, yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth, onide, nas gallent byth sefyll. Ymddengys mai yr hyn y cwynai yn benaf arno oedd fod y cynghorwyr yn cael myned o gwmpas gwlad fel yr ewyllysient, heb neb yn trefnu eu cyhoeddiadau, na neb yn eu llywodraethu, a'u bod yn gwneyd casgliadau yn y cynulleidfaoedd. Cydunai Williams, Pantycelyn, yn y cwyn; dywedai fod Rowland yn dysgleirio yn y pwlpud, ond nad oedd yn alluog i ddwyn y cynghorwyr i drefn; a chyn i'r diwygiad diweddar dori allan, fod pethau wedi myned i stâd isel yn y seiadau. "Cydunodd pawb i gael dysgyblaeth," meddai Harris. "Dywedodd Mr. Rowland eu bod ol yn gwybod iddo ef o'r dechreu wrthod bod yn ben, pan y cynygiwyd hyny iddo; ei fod wedi dweyd wrthynt bob amser fod fy lle i yn wag er pan yr ymadewais; a'i fod yn parhau yn yr un meddwl, ac yn fy ngalw i i'm lle, yn yr