Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/449

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yrchu rhwyg. Dau beth o bwys a grybwyllir ganddo oddiyma i ddiwedd y flwyddyn, sef iddo bwrcasu fferm Trefecca Isaf, gan ei frawd Thomas; ac hefyd iddo, ar anogaeth Evan Roberts, un o'i brif ddynion yn Nhrefecca, brynu chaise. Daeth Evan Roberts a'r chaise ganddo i lawr o Lundain. Ond braidd nad oedd Harris yn rhy yswil i ddefnyddio y cerbyd. wedi ei gael. "O rhyfedd," meddai, "cerbyd yn dyfod i'r lle hwn! Dy waith di, Arglwydd, ydyw hyn."

Gyda dechreu y flwyddyn 1764, rhaid i ni ymfoddloni ar ychydig ddifyniadau o'r dydd-lyfr draw ac yma, y rhai a daflant fwyaf o oleuni ar yr hanes.

Ionawr 3. Price Davies, ficer Talgarth, yn caniatau cymundeb bob mis yn yr cglwys; y newydd yn cael ei gludo i Harris gan John Morgan, y cuwrad, a'i enaid yntau yn llawenychu ynddo o'r herwydd.

Ionawr 22. Harris yn cychwyn i Sir Aberteifi i sefydlu y seiadau, ac am y tro cyntaf yn myned yn ei chaise. Pregethu i dorf o amryw filoedd yn Nghilycwm; yr oedd yn foddlon cadw seiat breifat, ond ni ofynwyd hyn ganddo. Ymweled â Chayo, Llanâ bedr-pont-Stephan, Abermeurig, a chyrhaedd Llangeitho ar y 25ain. Pregethu yno ar y maes i amryw filoedd; yna, cyfarch canoedd yn y capel mewn seiat breifat. Clywed gan Rowland beth oedd ateb Esgob Tyddewi pan yr appeliwyd ato parthed ei wrthwynebiad i'r diwygiad, sef fod y bobl wedi gadael yr Eglwys, ac yn gwarthruddo y clerigwyr; mai dyna y rheswm am droi y cuwradiaid allan, ac na ordeinid neb eto yn dal cysylltiad a'r Methodistiaid. Ymweled â Lledrod; pregethu i dorf anferth, a gosod pob un yn ei le yn y seiat breifat. Ymweled a'r Morfa, Gwndwn, Gwaunifor, Dolgwm, Talyllychau, a Llanymddyfri. Ar y daith hon, Harris yn cynal seiadau preifat am y tro cyntaf gwedi yr ymraniad, yspaid o bedair-blynedd-ar-ddeg; ac yn cael ei argyhoeddi fwy fwy mai Rowland oedd tad y cynghorwyr, a'r prif ddyn mewn cysylltiad â gwaith y diwygiad yn Nghymru.

Cwefror 19. Teulu Trefecca yn eistedd am y tro cyntaf ar yr oriel yn eglwys Talgarth, ac yn canu yn fendigedig, nes yr oedd yr holl eglwys yn llawn o ogoniant. Chwefror 27. Harris yn myned am daith i Blaen Crai, Blaenglyntawe, Castellnedd, Abertawe, a gwlad Gower; dych welyd trwy Gelly-dorch-leithe, a chyrhaedd Trefecca, Mawrth 4.

Ebrill 1. Harris yn myned eto i daith; yn pregethu ar yr heol tua phum' milltir o Lanymddyfri i dorf liosog; cyrhaedd Cross Inn yn hwyr. Pregethu dranoeth yn Nghaerfyrddin, ar Castle Green, i dorf fawr, a chael awdurdod anarferol; wedi ei gymhell, yn pregethu yn y capel drachefn; ac yr oedd Williams, Pantycelyn, Thomas Davies, William John, Evan Richard, a phregethwyr eraill yn gwrando. Y dydd nesaf yn myned i'r Capel Newydd, yn Sir Benfro; yna i Trefdraeth; Abergwaun, lle yr oedd yn curo yn drwm ar y pechod o angrhediniaeth; ac Woodstock, lle y dysgwyliai glywed Howell Davies, a chyfranogi o'r sacrament, gan mai y Sabbath ydoedd, ond y cyfarfod drosodd cyn iddo gyrhaedd. Trwy wlaw dirfawr y daethai yma. Ymweled â Chastellyblaidd, Solfach, a Hwlffordd. Yn y lle diweddaf, cyfarfod â Mr. Nyberg, gweinidog yr eglwys Forafaidd, a theithio yn nghyd i dref Penfro. Yn Mhenfro, Harris yn pregethu yn y capel i dorf fawr, ar, "Gwir yw y gair," Mr. Nyberg yn y pwlpud gydag ef. Dychwelyd trwy Lacharn, Llandilo Fawr, a Llangadog; yn y lle diweddaf, pregethu ar y maes i dorf o amryw filoedd; Rhaiadr, y Tyddyn, a Llanfair-muallt. Cofnoda i'r daith barhau am ddau-ddiwrnod-arbymtheg; iddo bregethu ddeunaw gwaith; teithio dros dri chant o filltiroedd ar hyd ffordd ddrwg, a phe y rhoddid ei holl gynulleidfaoedd yn nghyd, y byddai eu rhif dros haner can' mil.

Mai 9. Harris yn cychwyn i Gymdeithasfa Woodstock, gan basio trwy Drecastell, Caerfyrddin, St. Clears, a Hwlffordd, a phregethu yn mhob un o'r lleoedd hyn, ac yn cyrhaedd Woodstock ar y 15fed. Yn y Gymdeithasfa, y mae Harris yn gwasgu ar Daniel Rowland y dylai ymgymeryd a bod yn ben; yntau yn gwrthod drachefn a thrachefn. Williams, Pantycelyn, yn dweyd fod gan Harris y ddawn oedd eisiau arnynt; mai prif ddawn Rowland, Howell Davies, ac yntau, oedd appelio at y teimladau, a bod Duw gyda hwy felly; ond er pan ymadawsai Harris, nad oedd neb wedi gallu llanw ei le, ei fod yn pregethu yn rhagorol, gan osod Crist uwchlaw pob peth, a'i fod yn gosod pwys ar ddwyn ffrwyth; ond mai dyn ydoedd, ei fod yn boethlyd o dymher, y credai y cynghorwyr ei fod yn amcanu at fod yn ben, ac mai da fyddai pe y llefarai lai am fyned i'r Eglwys. Atebai Harris ei fod am