Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/452

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel o gynulleidfa yn y lle diweddaf yn y boreu, a Harris yn cael nerth dirfawr wrth bregethu. Myned i giniaw gyda Mrs. Jones, Ffonmon; yna, ymweled â Llantrisant, lle y câ fawr ryddid i gyffroi a tharanu oddiar y geiriau: "Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg." Yna, pregethu yn Mhontfaen, Pil, Castellnedd, Abertawe, Gower, Llanelli, a Chaerfyrddin, gan ddychwelyd i Drefecca erbyn Chwefror 2.

Y mae y dydd-lyfr am y gweddill o 1765 ar goll. Erbyn dechreu y flwyddyn ganlynol, yr oedd Howell Harris wedi cael ei argyhoeddi yn drylwyr fod cymeryd ei le cyntefig, fel arolygydd cyffredinol y Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, yn anmhosibl iddo. Cydgyfarfyddai amryw achosion i effeithio hyn. Gadawer i ni daflu byr olwg ar rai o honynt. (1) Yr oedd neillduaeth, ac absenoldeb o fysg ei frodyr, am dair-blynedd-ar-ddeg, ar ran Harris, yn gyfryw nas gellid dileu ei effeithiau. Er fod Daniel Rowland yn barod, yn wir, yn awyddus i drosglwyddo y llywodraeth iddo; ac er y cyfranogai Williams, Pantycelyn, a Peter Williams, yn yr unrhyw deimlad, yr oedd dosparth o gynghorwyr wedi cyfodi yn ystod y cyfnod hwn, y rhai na adwaenent mo Harris, ac nad oeddynt yn barod i ymddarostwng iddo. Y mae genym sail i gredu fod cryn nifer o honynt, a Popkins oedd eu genau. I Daniel Rowland y tyngent, ac ni oddefent i neb gymeryd y deyrnwialen o'i law.

(2) Yr oedd llywodraeth Harris yn tueddu at fod yn drom. Cawn ef yn datgan drosodd a throsodd yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth yn mysg y cynghorwyr; wrth hyn y golygai ymholi yn fanwl i gymhwysder pob un, trefnu cylch cydweddol a'i allu a'i ddawn i bob cynghorwr i lafurio ynddo; a'i warafun i fyned y tu allan i'r cylch hwnw, pa beth bynag a fyddai y cymhelliad, dan berygl cerydd cyhoedd. Yr ydym yn cofio am John Richard, ac eraill, yn gwingo yn erbyn trefniant manwl, peirianyddol, fel hyn ar y cychwyn cyntaf, a chafwyd peth anhawsder i osod y gwrthwynebiad i lawr y pryd hwnw. Yn awr, pan y mae Harris wedi bod am rai blynyddoedd yn swyddog milwraidd, hawdd meddwl fod ei syniad am ddysgyblaeth ac isddarostyngiad yn gryfach. Dysgwyliai am ufudd-dod ar ran y cynghorwyr i'r arolygwr, cyffelyb i eiddo y milwyr i'w cadben, yr hwn ufudd-dod nid oeddynt hwythau yn barod i'w roddi. O'r ochr arall, y mae yn bur sicr fod llywodraeth Rowland wedi bod i raddau yn llac; caffai y cynghorwyr fyned i bregethu lle y mynent, o leiaf, lle bynag y caent rywfath o wahoddiad, heb fod neb yn ceisio gosod unrhyw rwystr ar eu ffordd. Y tebygolrwydd yw fod cryn annhrefn wedi dyfod i mewn gyda hyn, os nad oedd y rhyddid wedi cael ei arfer weithiau yn achlysur i'r cnawd. Cyfodai holl natur Howell Harris yn erbyn y penrhyddid hwn, ond ni fynai y cynghorwyr, ar ol cael eu ffordd mor hir, gymeryd eu dwyn drachefn dan yr hyn a ystyrient hwy yn iau caethiwed.

(3) Yn ystod amser ei neillduaeth yn Nhrefecca yr oedd Howell Harris wedi ymwasgu yn glosach fyth at Eglwys Loegr. Gwnaethai heddwch a'r hen Brice Davies, ficer Talgarth; llwyddasai i gael cymundeb misol yn yr eglwys yno, a chael yr oriel wedi ei neillduo i gantorion Trefecca; yr oedd Mr. Morgan, y cuwrad, yn gyfaill mynwesol iddo, ac yn ymweled ag ef yn aml. Pan y dechreuasai y clerigwyr a'r esgobion erlid y Methodistiaid, a nacau y cymundeb iddynt, dywedai Harris mai glynu wrth y bobl a wnelai efe, a dysgwyliai eu gweled yn cael eu bwrw allan, fel prawf y bwriadai yr Arglwydd iddynt fyned yn gyfundeb ar wahan. Yn awr, y mae yn benderfynol o lynu wrth yr Eglwys, hyd yn nod pe y gorfyddai iddo gefnu ar ei hen gyfeillion; pan y gwel yr eglwysydd yn cael eu cau yn erbyn Rowland, ei ofal mawr yw na fyddo neb yn dweyd gair chwerw am yr esgob; a pharha i freuddwydio am benodiad esgobion efengylaidd, y rhai osodent y clerigwyr Methodistaidd yn eu holau, ac a ordeinient y penaf o'r pregethwyr lleygol. Yr oedd y Methodistiaid, o'r tu arall, yn ystod cyfnod neillduaeth Harris, wedi ymddyeithrio yn ddirfawr oddiwrth yr Eglwys yn eu teimlad; yr oedd blynyddoedd lawer o erlid, a difrio, a bygwth, wedi gwneyd eu gwaith; ac yn awr yr oedd eu hyspryd yn chwerw ynddynt am fod Daniel Rowland, yr hwn a ystyrid yn dywysog Duw yn eu plith, wedi cael ei fwrw allan o'i eglwysydd. Mewn canlyniad, ni aent i gymuno i eglwys y plwyf; eithr cyfranogent o'r elfenau yn y gwahanol gapelau a benodasid i hyny. Dywed Harris y gweinyddent swper yr Arglwydd mewn tai anedd, yr hyn oedd yn groes iawn i'w deimlad. Yr unig linyn a gysylltai y Methodistiaid a'r Eglwys y