Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/453

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd hwn oedd, mai gan glerigwyr yn unig y derbyniai y rhan fwyaf o honynt y cymun, ac nad oeddynt wedi ymsymud yn gyffredinol i ordeinio yn eu mysg eu hunain. Yr oedd rhyw arwyddion fod hyd yn nod hyn ar gymeryd lle. Ordeiniasid Morgan John Lewis yn weinidog y New Inn; David Williams yn weinidog yr Aberthyn; a Thomas William, a William Edward yn weinidogion y Groeswen, yn barod; a thybiai Howell Harris y cymerai symudiad mwy cyffredinol gyda golwg ar ordeinio le yn fuan. Ac â hyn ni fyddai iddo na rhan na chyfran.

(4) Nid oedd y Methodistiaid, o ran y cyffredinolrwydd o honynt, wedi cymeryd o gwbl at y sefydliad yn Nhrefecca. Tra yr addefent fod Harris yn bur yn ei fwriad, ac yn gweithredu tan ddylanwad cymhellion anhunangar, credent mai camgymeriad difrifol oedd yr adeilad a'r teulu.

Yr oedd hyd yn nod cyfaill mor drylwyr i Harris a Williams, Pantycelyn, yn ei feio am hyn, fel y dengys y difyniadau canlynol o'i farwnad iddo:

"Pa'm y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn?
Ac anghofiaist dy ddeadell,
Argyhoeddaist ti dy hun?
Y mae plant it' ar hyd Cymru,
Yn bymtheg-mlwydd-ar-hugain oed,
A ddymunasai genyt glywed
Y pregethau cynta' erioed.

Eisiau parch, neu eisiau elw?
Neu ryw fendith is y ne'?
Rhoist ffarwel i'r fyntai ddefaid,
Ac arosaist yn dy le?
Yr oedd canoedd gynnau'n gruddfan,
Ac yn gofyn beth yw hynt
Yr hen udgorn fu'n Nhrefecca,
Ac yn uchel seiniodd gynt?

Ai bugeilio cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas,
A chorlanau trefnus gwych,
Etyb seinio pur efengyl,
Bloeddio'r iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaerdydd?

Pa'm y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynodd Harri frenhin
Fwy na mil o'r rhai'n i lawr?
Diau buaset hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai 'nghân,
Pe treuliasit dy holl amser
Yn nghwmpeini'r defaid mân.

*****
Trist yw'r ffrwythau a ddigwyddodd
O it' beidio rowndio'r byd;
Mwy fuasai dy ogoniant
Hyn pe buasai'th waith o hyd."


Os mai fel hyn y teimlai cyfaill mor anwyl a Williams ar y mater, diau fod y cyffelyb yn deimlad cyffredinol. Ar yr un pryd, fel y bardd, y mae yn sicr eu bod yn maddeu iddo ei gamgymeriad:-

"Ond mae pawb yn maddeu heddyw;
Mae rhyw arfaeth faith uwchben,
Ag sy'n trefnu pob materion
A ddychmygo dyn is nen."


Ond ni chaniatäi yntau fod arno angen am faddeuant yn nglyn a'r mater hwn, ac yr oedd canfod ei frodyr a'i gyfeillion yn edrych ar y sefydliad yn Nhrefecca gyda llygad drwgdybus yn dra dolurus iddo.

(5) Yr oedd rhyw syniad am undeb cyffredinol rhwng pawb ag feddai ysprydolrwydd crefydd wedi ei feddianu. Breuddwydiai am grynhoi yn nghyd ganlynwyr Whitefield, y Wesleyaid, y Morafiaid, a Methodistiaid Cymru, mewn un undeb mawr. Bu unwaith yn meddwl am osod John Wesley, at yr hwn y meddai anwyldeb diderfyn, fel pen ar yr undeb, ac nid ydym yn sicr nad oedd hyny yn ei feddwl yn bresenol. Tra yr oedd y breuddwyd yma yn llefaru yn uchel am gatholigrwydd yspryd Howell Harris, breuddwyd ydoedd yr oedd yn gwbl anymarferol. Y cyntaf i ddatgan yn erbyn oedd Howell Davies; hwyrach ei fod ef yn teimlo yn ddolurus wrth waith y Morafiaid yn ymsefydlu yn Hwlffordd, fel y teimlai Harris ei hun ar y cyntaf. Nid oedd yr un o'r Methodistiaid yn edrych yn ffafriol ar y syniad; edrychent ar y. peth fel dwyn. estroniaid i mewn, i fedi ffrwyth eu llafur hwy. Awgryma yntau mewn canlyniad eu bod yn gul; mai Iesu Grist a biau yr eneidiau, ac nid hwy.

O herwydd y rhesymau a nodwyd, ac efallai rai eraill, yr oedd Harris yn gwbl argyhoeddedig ddechreu y flwyddyn 1766, nas gallai weithredu fel arolygwr cyffredinol yn mysg y Methodistiaid. Chwefror 19, 1766, cynhelid Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, ac yn hono datganodd ei benderfyniad i beidio ymgymeryd a'r arolygiaeth; eithr y deuai i fysg y Methodistiaid fel cyfaill a char, ac y pregethai yn eu capelau a'u Cymdeithasfaoedd pa bryd bynag y caffai gyfleustra a gwahoddiad, er nad allai ystyried ei hun yn hollol fel un o honynt. Y mae yn deilwng o sylw fod y teimlad goreu yn ffynu rhyngddo â phrif ddynion y Methodistiaid, ac yn arbenig â Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, yr adeg yma; ac i'r brawdgarwch cryfaf fodoli rhyngddynt hyd ddydd ei farwolaeth. Yn