Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/459

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chig. Am dri, cymerais i fy nhro, yna Mr. Fletcher, ac o gwmpas pump gollyngwyd y dyrfa ymaith. Rhwng saith ac wyth, dechreuodd y gariad-wledd, pan y cysurwyd llawer, yr wyf yn meddwl.' Ychwanega fod tŷ Howell Harris, yn nghyd â'r gerddi, a'r perllanau, a'r rhodfeydd o gwmpas, yn baradwys fechan. Sicr fod y cynulliad yn ardderchog; ac wrth ddarllen enwau y rhai oedd yn bresenol, y mae yn anhawdd peidio meddwl am eiriau yr Ysgrythyr: "Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd."

Yn fuan gwedi hyn cymerwyd Howell Harris yn bur glaf, ac nid aeth nemawr allan o Drefecca hyd fis Hydref, pan yr ydym yn ei gael yn cychwyn am daith it Sir Benfro. Yn nghapel Hwlffordd yr ydym yn ei gael yn pregethu gyntaf; yna aeth i Woodstock. Wedi hyny ymwelodd ag Abergwaun, Solfach, Tyddewi, a Gwaunifor. Wrth ddychwelyd pregethodd yn Nghaerfyrddin, Llandilo Fawr, a Llangadog. Cafodd flas mawr ar ei daith. "Yr wyf yn teimlo fel pe bai y wlad yn cael ei rhoddi i mi o'r newydd," meddai. Dyma y daith olaf iddo yn y flwyddyn 1769.

Ar y Sul cyntaf yn Chwefror, 1770, cawn ef yn Nghaerfyrddin, ar ei ffordd drachefn i Sir Benfro. Wedi pregethu yn Narberth, aeth i Hwlffordd, lle y cynhelid Cyfarfod Misol, y cyntaf wedi marwolaeth Howell Davies. Yr oedd yno gynulliad mawr o bregethwyr, cynghorwyr, a stiwardiaid. Wedi i John Harry geisio ganddo, anerchodd y cyfarfod am agos i dair awr. Dywedai iddo ddyfod mewn canlyniad it lythyr oddiwrth Mr. Thomas Davies; pwysleisiai ar yr angenrheidrwydd iddynt. oll adnabod Crist. "Nid oes genym ddim i'w ddweyd trosom ein hunain, ein bod yn myned o gwmpas i bregethu, heb ordeiniad," meddai, “onid ydym yn cael ein hanfon gan yr Yspryd Glân." Cafodd ymddiddan preifat a John Harry, yr hwn a ddywedai fod ganddo fab yn bwriadu myned i Athrofa Trefecca. Y mab hwn, yn ddiau, oedd y Parch. Evan Harris, yr hwn a gafodd ei ordeinio ar y neillduad cyntaf yn 1811, yn Llandilo Fawr. Yn y capel, pregethodd am agos i ddwy awr heb un testun. Pregethodd yn yr un lle nos dranoeth, gyda llawer o ryddid, ar dduwdod y Gwaredwr. Wedi ymweled â nifer o leoedd yn Mhenfro, yn benaf yn y rhan Saesneg, aeth i Woodstock, i gyfarfod Daniel Rowland, ac y mae ei deimlad ar y ffordd yno yn haeddu ei groniclo. "Yr wyf yn myned i Woodstock," meddai, "i gyfarfod Mr. Rowland, er gofyn iddo ef a'r Gymdeithasfa i ddyfod i Drefecca, ac yr wyf yn gadael y canlyniadau i'r Arglwydd. Yr wyf yn cael fod llwyddiant anarferol gydag ef; tros ddwy fil o bobl yn dyfod i'r sacrament yn Llangeitho bob dydd Sadwrn, a hyny dros ddeugain milltir o bellder. O, beth wyfi fi?" Eto dywed:

"Cefais gariad mawr heddyw at Rowland, wrth weled ei fod yn cael ei garu yn fwy nag y cefais i erioed, a'i fod wedi cael mwy o ras na mi i'w gadw yn ostyngedig, ac i fod yn ffyddlawn i'r Arglwydd. Y mae yn fwy ei ddawn a'i awdurdod, ac y mae ei lwyddiant wedi bod yn fwy. A'm holl galon dymunwn ar i'w lwyddiant barhau, ac iddo gael oes hir, a nefoedd yn y diwedd." Hyfryd meddwl fel yr oedd y ddau hen gyfaill, ar ol ymranu am yspaid, wedi dyfod i ddeall eu gilydd, ac fel yr oedd calon y naill wedi ymglymu drachefn am y llall. Testun Rowland ydoedd: "Edrychwch na byddo yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, yn ymado â Duw byw." Cafodd odfa hynod; a gweddïai Harris am iddo gael yr eneiniad yn helaeth yn barhaus. Wedi y bregeth yr oedd y sacrament. "Daeth yr Arglwydd ataf," meddai Harris, "gan ddwyn tystiolaeth i'w gorph a'i waed sanctaidd."

Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Abergwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris. yn bwriadu myned yno; ond ar gais unfrydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i osod William Davies, Castellnedd, yn arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn lle Howell Davies. Erfyniodd Harris arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymuniad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca. Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr hwn a ofynai am dani i'r dref hono. Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na fyddent yn dangos llawer o gariad drwy wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod


Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Aber- gwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris yn bwriadu myned yno ; ond ar gais un- frydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i osod William Davies, Castellnedd, yn arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn lle Howell Davies. Erfyniodd Harris arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymun- iad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca. Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr hwn a ofynai am dani i'r dref hono. Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na fyddent yn dangos Ilawer o gariad drwy wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod