Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/460

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harris yn gosod ffafr bersonol iddo ef o flaen daioni y Gogledd. Sut y penderfynwyd y mater ni ddywedir, ond ymddengys mai John Evans a enillodd. Am un-arddeg, gweddïodd Mr. Gray, a phregethodd Mr. Rowland oddiar y geiriau: "Gosod fi fel sêl ar dy galon." Byr iawn y bu, ac nid aeth yn dori allan o dano. Ar ei ol pregethodd Howell Harris. Ni ddywed beth oedd ei destun, ond cafodd nerth dirfawr.

Wedi trefnu ei daith yn Abergwaun, aeth Harris i Bontfaen; yna ymwelodd ag Eglwyswrw, lle yr ymadawodd â John Harry a Thomas Davies; Capel Newydd, Machendref, Caerfyrddin, Llanddarog, Llandilo Fawr, a Llanymddyfri, a chyrhaeddodd Drefecca, Chwefror 24. Yn mis Mai, yn yr un flwyddyn, yr ydym yn ei gael ar daith yn Sir Benfro, ac yn ymweled a'r un lleoedd. Yn Mehefin y mae yn ymweled ag amryw o seiadau Sir Faesyfed, megys Claerwy, Caebach, Dolswydd,. a Phenygorig. Yn Dolswydd bu yn hallt wrthynt, oblegyd eu bod yn taflu eu Cymraeg dros y bwrdd, a phriodolai hyny i falchder Lloegr. Yn Caebach, ger Llandrindod, daeth offeiriad ato ar derfyn y cyfarfod i ddiolch iddo am ei bregeth, gan ddymuno arno fyned trwy yr holl sir a'r athrawiaeth hono. Er na lwyddasai yn Abergwaun i gael y Gymdeithasfa i Drefecca, ac mai y Bala a enillodd, oblegyd mawr daerni John Evans, y mae Howell Harris, yn lle dal dig, yn cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho, Awst 20, gan deimlo mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd. Diau ei fod wedi cael ei wahodd gan Rowland. Ar y ffordd pregethodd yn Llanfair-muallt, Cribat, a Llanwrtyd, Île yr oedd capel erbyn hyn wedi ei adeiladu. Y nos cyn y Gymdeithasfa cyrhaeddodd Dregaron. Nid yw yn ymddangos iddo. gymeryd testun yma, ond llefarodd ar ymbriodi â Christ. Aeth i Langeitho erbyn Aeth i Langeitho erbyn deuddeg dranoeth. Yr oedd rhai canoedd o bregethwyr a stiwardiaid yn y capel newydd. Ni ddywed ddim am yr ymdriniaeth yn y cyfarfod neillduol, ond yn yr odfa gyhoeddus, y prydnhawn cyntaf, pregethodd rhyw frawd o gymydogaeth Wrexham, na roddir ei enw, ar y geiriau: "Canys ni appwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth, trwy ein Harglwydd Iesu Grist." Pregethodd am etholedigaeth, am farwolaeth ein Harglwydd yn boddloni cyfiawnder, ac am fod y pechadur yn cael myned yn rhydd, gan ddarfod i'n Hiachawdwr dalu yr oll a fedrai y ddeddf ofyn. Ymddengys ei bod yn odfa dda. Ar ei ol cyfododd Davies, Castellnedd, gan gymeryd yn destun: "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Ymddangosai i Harris fod dawn y pregethwr hwn yn fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Ysgrythyr yn fanylach na'r cyntaf, a bod mwy o arddeliad ar ei weinidogaeth. Torai mawl allan drachefn a thrachefn yn mysg y dyrfa, tra y bloeddiai cenad Duw fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod ein pechodau ni fyned yn eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder ef wedi dyfod yn feddiant i ni.

Yr oedd y dylanwad mor fawr fel braidd nad oedd Harris wedi ei syfrdanu. "Arosais mewn dystawrwydd," meddai, "wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel; gwelwn mai dyma lle y mae Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth, a gogoniant rhyfedd, a'i fod yn ymledu yn mhell ac yn agos." Cafodd Harris y lle mwyaf anrhydeddus, sef deg o'r gloch yr ail ddiwrnod. Ni ddywed beth oedd ei destun, ond yr oedd Duw gydag ef. Dychwelodd y noswaith hono i Dregaron, a phregethodd i dorf fawr. Tranoeth aeth ar ei union dros y mynyddoedd i Drefecca. Dyma y tro olaf iddo i ymweled â Llangeitho; yn wir, dyma ei daith ddiweddaf allan o Drefecca.

Gyda ei fod yn dychwelyd yr oedd ail gylchwyl sefydliad coleg Iarlles Huntington, yn Nhrefecca, yn dechreu. Y mae yr adroddiad a roddir yn Life and Times of Selina, Countess of Huntington, am y rhai oedd yn bresenol, a'r sawl a gymerodd ran yn y cyfarfodydd, yn mhell o fod yn gyson a'r adroddiad a geir yn y dydd-lyfr; a'r tebygolrwydd yw mai y dydd-lyfr sydd yn gywir. Dechreuwyd y cyfarfodydd gyda gweinyddiad o'r cymundeb yn nghapel y coleg, am wyth yn y boreu; cyfarfyddwyd a'r Arglwydd yn y cyfarfod hwn. Yn y prydnawn pregethai Mr. Fletcher, llywydd yr athrofa, ar ddirgelwch Crist. Ar ei ol cyfododd Peter Williams, gan lefaru yn Gymraeg ac yn Saesneg; ei bwnc oedd gwagedd y byd; a phan y dechreuodd son am ogoniant yr Iesu, a bod nefoedd yn ei gariad, aeth yn gyffro mawr yn mysg y bobl, ac yr oedd y lle yn llawn bywyd a gogoniant. Y noswaith hono cynaliwyd cariad-wledd. Tranoeth, pregethodd Harris, ar Daniel yn galaru am anwiredd y bobl; a chofnoda fod y Parch. J. Walters, yr