Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/463

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynwysai; ac o'r oll a sefydlwyd gan Howell Harris, yr unig un sydd wedi glynu wrth Fethodistiaeth yw seiat y Goetre, ger Pontypŵl. Am yr eglwysi eraill a fedd y Cyfundeb yn Mynwy, ffrwyth llafur diweddarach ydynt. Gwir i'r New Inn, a Mynyddislwyn, barhau am rai degau o flynyddoedd i ystyried eu hunain yn Fethodistaidd; ond gan eu bod mor bell o ganolbwynt y diwygiad, ac na chododd yr un pregethwr o ddylanwad pwysig ynddynt, darfu iddynt yn raddol ymgyfathrachu a'r Annibynwyr, a chollwyd hwy i'r Cyfundeb. Ond yn Sir Faesyfed y bu y canlyniadau fwyaf alaethus. Collwyd yr holl seiadau perthynol iddi. Gellir rhoddi amryw resymau am hyn. Yn un peth, ni adeiladasid capelau yma; yr unig un y cawn hanes am dano yn y sir yw capel Maesgwyn; cyfarfyddai y seiadau mewn tai anedd, ac felly yr oeddynt yn fwy hawdd eu chwalu. Peth arall, o gwmpas adeg yr ymraniad, daeth yr iaith Saesneg fel diluw dros y sir; ac nid yw yn ymddangos fod gan y Methodistiaid bregethwyr Saesneg i ymweled a'r cynulleidfaoedd gyda chysondeb; felly, aeth llawer o'r dychweledigion i'r Eglwys Sefydledig, ac ymunodd eraill a'r Annibynwyr, a'r Bedyddwyr.

Ac yn ddiweddaf, aeth amryw o'r crefyddwyr mwyaf blaenllaw i Drefecca, gan ymuno a'r teulu yno; felly, yr oedd y rhai a weddillasid yn amddifad o arweinwyr, ac heb ddynion profiadol yn eu mysg i fod yn fywyd ac yn nerth. Rhwng y cwbl, collwyd Maesyfed yn gwbl i Fethodistiaeth. Ymddengys fod y seiadau wedi diflanu, gan mwyaf, yn ystod bywyd Howell Harris; yr unig rai y cawn ef yn ymweled â hwy wedi ei ymheddychiad a'r Methodistiaid yw Penybont, Claerwy, a Llandrindod. Os oedd rhagor yn haner dadfyw, ac os cawsant ryw gymaint o adnewyddiad trwy sefydliad coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefecca, am y caent yno rai â fedrent eu hanerch yn yr iaith Saesneg, diflanasant yn llwyr pan y symudwyd y coleg hwnw o Drefecca i Cheshunt. Ffrwyth ymdrechion cenhadol cymharol ddiweddar yw yr eglwysi Methodistaidd a geir yn Sir Faesyfed yn bresenol. Eithr ni ddylid tybio i'r dychweledig ion oll, nac yn wir y nifer amlaf o honynt, gael eu colli i grefydd. Ymunodd canoedd o honynt ag enwadau eraill. Diau fod rhai degau o eglwysi cymharol gryfion, perthynol i'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr, i'w cael yn Siroedd Morganwg, Mynwy, a Maesyfed, ag y gellir olrhain eu sefydliad i lafur Howell Harris, neu i eiddo rhai o'r Diwygwyr Methodistaidd eraill.

Trwy ystod y flwyddyn 1772, gwaelu a wnaeth iechyd Howell Harris, ac yr oedd ei babell yn prysur ymddatod. Hyd y medrodd, elai i goleg yr Iarlles i anerch y myfyrwyr. Ond yn fuan aeth hyn yn ormod o dasg iddo. "Y tro diweddaf y pregethodd yno," meddai yr Iarlles, "yr oedd yno dorf liosog, fel arfer, ac yr oedd ei weinidogaeth yntau mor gyrhaeddgar a chyffrous ag erioed. Llefarodd gyda theimlad dwfn am Dduw, a thragywyddoldeb, ac am anfarwoldeb a gwerthfawredd eneidiau ei wrandawyr; am eu llygredigaeth wrth natur, perygl y sefyllfa o fod yn ddiailenedig, yr angenrheidrwydd anorfod am ailenedigaeth trwy yr Yspryd Glân, ac am gredu yn Nghrist mewn trefn i dderbyn pardwn. Llefarai fel oracl Duw, yn eglurhad yr Yspryd ac mewn nerth, a phan ddaeth at y cymhwysiad, cyfeiriodd at y gwrandawyr gyda y fath dynerwch, a'r fath ddifrifwch, gan anog pawb o honom i ddyfod i gydnabyddiaeth a'r anwyl Waredwr, fel y toddodd y gynulleidfa i ddagrau." Sicr yw ei bod yn odfa o'r fath fwyaf effeithiol.

Er methu myned allan o'r tŷ, ymlusgai i'r llawr i anerch y teulu lliosog a gasglasai yn Nhrefecca, yn mron hyd y diwedd. Gadawodd ei anerchiadau yr adegau yma argraff annileadwy ar feddyliau y rhai a'u clywent, a darfu iddynt, yn angherddoldeb eu serch ato, groniclo llawer o'i ddywediadau. Ni fedrwn ddifynu ond ychydig o honynt. "Yr wyf yn caru pawb sydd yn dyfod at y Gwaredwr," meddai un tro, "ac yn ymborthi ar ei gnawd a'i waed ef; yr wyf yn teimlo mai efe, ac nid dim yma, yw fy ngorphwysfa a'm dedwyddwch. Yr wyf yn caru tragywyddoldeb am ei fod ef yno. Yr wyf yn llefaru wrtho, ac yn İlefain arno. O, dywyllwch y cnawd hwn sydd yn ei guddio oddiwrthyf! O, tydi, yr hwn a fuost yn gwaedu i farwolaeth, a'r hwn wyt yn awr yn fyw, tyred a dwg fi adref. Am y ffordd, mi a orchymynais. hono i ti, i ofalu am danaf. Dy eiddo di ydwyf, yma a byth; un o'th waredigion ydwyf, gwerth dy waed a'th chwys gwaedlyd; a'th ewyllys di yw fy nefoedd." Yn y diwedd aeth yn gaeth i'w wely, ac ni fedrai ysgrifenu, eithr medrai glodfori yr Arglwydd. "Bendigedig fyddo Duw," meddai, "y mae fy ngwaith wedi ei orphen,