Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/465

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfedd ei fod weithiau, rhwng cellwair a difrif, yn cyhuddo ei frodyr o ddiogi, ac o ormod gofal am gysuron corphorol. Efe oedd yr arloesydd yn Nghymru; ganddo ef y torwyd y garw. Nid bychan a fu llafur Rowland, Williams, a Howell Davies, ac nid ychydig a ddyoddefasant; ond ni ddeil eu teithiau a'u blinderau eu cymharu â'r eiddo ef.

Efe hefyd oedd y mwyaf amlochrog ei athrylith. Yn y pwlpud y dysgleiriai Rowland; yno, nid oedd neb a allai ddal cystadleuaeth ag ef. Mewn cadw seiat, ac yn arbenig mewn prydyddu a chyfansoddi emynau, y rhagorai Williams; yn y cylch hwn y mae heb ei gyffelyb. Ond am Howell Harris, rhagorai yn mhob peth yr ymgymerai ag ef. O ran nerth gwefreiddiol ei areithyddiaeth, ychydig yn is ydoedd na Rowland ei hun; ac fel duwinydd, yn arbenig mewn dirnadaeth ddofn o'r gwirionedd am berson Crist, er y graddau o gymysgedd oedd yn ei syniadau, credwn ei fod yn fwy na'i frodyr oll. Ac ni allai yr un o honynt ddal canwyll iddo fel trefnydd. Meddai grebwyll i roddi bod i gynllun; ac er y dylanwad oedd gan y cyfriniol arno, yr oedd ei gynlluniau braidd oll yn rhai ymarferol. Yn y cyfuniad o'r cyfriniol a'r ymarferol dygai fawr debygolrwydd i Oliver Cromwell. Harris, yn ddiau, yw tad ffurf-lywodraeth eglwysig y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru; ei saerniaeth ef yn benaf yw y trefniadau presenol gyda golwg ar Gymdeithasfaoedd, a Chyfarfodydd Misol. A phe y cawsai aros dros ei oes mewn cysylltiad â'r Methodistiaid, fel arolygydd cyffredinol, y mae yn sicr y buasai y trefniant yn fwy pendant a manwl, gyda mwy o awdurdod yn y Gymdeithasfa fel canolbwynt. Ai mantais ynte anfantais i'r Cyfundeb a fuasai hyn yn y pen draw, ni chymerwn arnom benderfynu. Ond yr oedd ochrau eraill eto i athrylith y Diwygiwr. Rhaid fod yr hwn a fedrai nid yn unig lywodraethu teulu o chwech ugain o ddynion, o bob math o dymheredd, ac wedi eu casglu yn nghyd o bob rhan o'r wlad, ond hefyd at fedrai ddarpar tuag at eu cynhaliaeth, trwy gynllunio gwahanol fathau o ddiwydrwydd ar eu cyfer, yn meddu nerth meddyliol o'r radd flaenaf, hyd yn nod pe na byddai ganddo unrhyw orchwyl arall i'w gyflawni. Er rhoddi gwaith i'r rhai oedd dan ei gronglwyd, a chyfarfod a'u hanghenion, cawn Harris yn ymgymeryd a bron bob math ar waith. Amaethai dir, lluniai ffyrdd; yr oedd ganddo weithfaoedd gwlan a choed; mewn gair, prin yr oedd dim y tu allan i gylch ei athrylith. Ychwaneger at hyn oll mai efe, am flynyddoedd, a fu bywyd Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, a darfod iddo brofi ei hun yn swyddog milwraidd effeithiol; a bydd yn rhaid cydnabod ei fod yn un o'r dynion mwyaf amlochrog ei feddwl a welodd y byd.

Nid oedd heb ei ffaeleddau, ac y mae y rhai hyny, fel yn gyffredin mewn dynion o deimladau cryfion, ar y wyneb, ac yn hawdd eu canfod. A gellir dweyd am danynt oll eu bod yn gogwyddo i gyfeiriad rhinwedd. Os oedd yn boeth ei dymher, ac yn tueddu at dra-awdurdod, cyfodai hyn oddiar ddyfnder ei argyhoeddiadau, a'i fawr zêl dros yr hyn a ystyriai yn wirionedd. Yr oedd mor agored a'r dydd, ac yn gwbl rydd oddiwrth bob math o ystryw. Oblegyd hyn syrthiai weithiau i'r rhwyd a daenid iddo gan ddynion diegwyddor. Nis gwyddom ychwaith i ba raddau yr oedd gwendid corph, yn cyfodi oddiar or-lafur, yn gyfrifol am gyffröadau ei nwyd. Eithr yn nglyn â hyn meddai lonaid calon o serchawgrwydd; medrai garu yn angerddol; ac yr oedd ei afael yn ei gyfeillion yn ddiollwng fel y bedd. Os caffai ei dramgwyddo, byddai gair caredig oddiwrth yr hwn a roddasai y tramgwydd iddo yn ddigon i'w ddwyn i'w le ar unwaith. Rhaid ei ddal ef yn benaf yn gyfrifol am yr ymraniad. Aethai i ryw ystad meddwl ar y pryd fel na dderbyniai na chynghor na cherydd; edrychai ar ei wrthwynebu ef fel yr un peth a gwrthwynebu Duw. Y mae yn anhawdd cyfrif am yr ystad meddwl hwn, ond ar y tir fod rhyw fath o orphwylledd wedi dyfod drosto. Ar yr un pryd, credwn y dylasai ei frodyr ddangos mwy o dynerwch tuag ato, at chymeryd i ystyriaeth ei lafur a'i ymroddiad. Eithr pan y gwnaeth y Methodistiaid estyn llaw tuag at gymod, estynodd yntau ei law i'w cyfarfod ar unwaith. A llawenydd digymysg i ni oedd darganfod, trwy gyfrwng ei ddydd-lyfr, fod deng mlynedd olaf ei fywyd yn llawer dysgleiriach nag yr oedd neb wedi breuddwydio, a'i fod wedi eu treulio mewn undeb agos a'i frodyr gynt. Daethai ef a Daniel Rowland i ddeall eu gilydd yn drwyadl, ac wedi iddynt ymheddychu, ni chyfododd cwmwl cymaint a chledr llaw gwr rhyngddynt tra y buont fyw. Yn ystod y blynyddoedd hyn, ac hyd ei fedd, yr oedd Howell Harris yn un o'r Methodistiaid