Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/471

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dda, a gedwid yn Nghaerfyrddin, gan un Thomas Einion. Yno y bu am dair blynedd, yn ymroddgar i'w efrydiau. Yn ystod yr amser hwn gwnaeth y fath gynydd mewn gwybodaeth o'r ieithoedd. clasurol, fel, ar ei ymadawiad, yr oedd yn alluog i ysgrifenu llythyr o ddiolchgarwch i'w athraw yn yr iaith Ladin, yr hwn lythyr, fel y cawn weled eto, a fu yn foddion i ddwyn oddiamgylch ei ordeiniad.

Y mae genym bob sail i gredu ei fod, tra yn yr athrofa, yn foesol ei rodiad, ac yn foneddigaidd o ran ymddygiad; nid annhebyg yr edrychai ei athraw arno fel y penaf o'i efrydwyr. Ond nid oedd eto wedi cael ei ddwyn i gydnabyddiaeth â threfn yr iachawdwriaeth trwy Grist. Ar yr un pryd, yr oedd ei gydwybod yn anesmwyth o'i fewn; nid oedd dychrynfeydd y farn, a gorfod rhoddi cyfrif i Dduw, wedi ei adael; gwnelai lawer o addunedau, y rhai, yn ganlynol, a dorai. Eithr yn y flwyddyn 1743, yn mis Ebrill, cymerodd amgylchiad le, a newidiodd holl gyfeiriad ei fywyd, ac a'i gwnaeth yn ddyn newydd. Yr amgylchiad hwn oedd dyfodiad George Whitefield i dref Caerfyrddin i bregethu. Mawr oedd y son am dano cyn ei ddyfod. Yr oedd hyawdledd llifeiriol ei areithyddiaeth, yn nghyd a'r ffaith ei fod, ac yntau yn offeiriad, yn pregethu ar y maes agored, ac mewn lleoedd annghysegredig, yn cynyrchu dirfawr siarad; ond yr hynod rwydd mwyaf cysylltiedig ag ef oedd ei fod yn cyhoeddi y pechod gwreiddiol, yr angenrheidrwydd am ail—enedigaeth, ac am gyfiawnhad trwy ffydd heb weithredoedd. Heresi ronc y golygai y mwyafrif o glerigwyr Eglwys Loegr yr athrawiaethau hyn; felly hefyd yr ymddangosent i Mr. Thomas Einion, athraw yr ysgol ramadegol. Am un—ar—ddeg o'r gloch, arferai y meistr ollwng y plant allan; ond am y dosparth blaenaf, y rhai yr oedd eu llygad ar y weinidogaeth, arferai eu cadw yn ol am beth amser, er eu cyfarwyddo gyda golwg ar eu hefrydiau, a pha lyfrau y byddai mwyaf buddiol iddynt eu darllen. Ond y diwrnod y dysgwylid Mr. Whitefield, pwnc Mr. Einion oedd y pregethwr peryglus oedd i ymweled a'r dref, a rhybuddiai y dynion ieuainc yn ddifrifol ar iddynt beidio myned i'w wrando. Er gwaethaf y rhybudd, cydunodd pedwar o'r efrydwyr, un o ba rai oedd Peter Williams, yr aent i wrando yn ddirgelaidd, er cael gweled a chlywed drostynt eu hunain. O gwmpas deuddeg o'r gloch, safodd Mr. Whitefield yn mhen heol Awst. Ei destun ydoedd, Esaiah liv. 5: "Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth, Arglwydd y lluoedd yw ei enw, dy waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef." Dechreuodd trwy ddangos rhagoriaethau yr Arglwydd Iesu fel priod, ac anog y gynulleidfa i'w ddewis. "A oes rhywun," meddai, "am gael priod yn meddu doethineb? Crist ydyw hwnw. A oes rhywun yn dymuno priod cyfoethog: priod a dâl ei holl ddyled, fel y rhaid i ni bechaduriaid gael? Y cyfryw un yw yr Iesu; y mae yn berchen ar holl drysorau nefoedd a daear, y mae yn meddianu pob peth ag sydd yn meddiant y Tad tragywyddol. O fy nghyd—bechaduriaid tlodion, yr ydym oll yn ddyledwyr i gyfraith Duw; yr ydym mewn perygl bob awr o gael ein dal gan ei gyfiawnder, a chael ein tori i lawr yn ein pechodau, a chael ein rhan yn y lle hwnw nad oes obaith. Nid rhyfedd gan hyny i Ffelix grynu pan oedd Paul yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd. Er hyn i gyd, y mae dynion i'w cael a chanddynt feddyliau da am eu rhinweddau, a'u cyfiawnderau eu hunain; a haerant eu dieuogrwydd yn ngwyneb deddf ac efengyl. Pe y buasent ddieuog, yna bu Crist farw yn ofer, yr hyn sydd yn ynfydrwydd ac yn gabledd ei feddwl. Geill y goreu o honom ddweyd fel yr Apostol: Ynof fi, hyny yw yn fy nghnawd, nid oes dim da yn trigo.' Pe bai y goreu o honom yn cael ei alw i'r farn, a gwneuthur â ni yn ol ein haeddiant, fe'n bwrid i uffern yn dragywydd." Teimlai Peter Williams yn enbyd o dan y bregeth; ac eto, y mae lle i feddwl ei fod yn ceisio gwneyd noddfa o'i hunan—gyfiawnderau, gan lechu yn eu cysgod rhag y saethau ofnadwy a deflid oddiar fwa y pregethwr. Meddai ef ei hun: 66 Myfi a gefais fy nghlwyfo, ond nid fy nychwelyd; yr oeddwn fel yn teimlo blaen ei gleddyf, ond ni syrthiais i lawr." Eithr nid oedd Whitefield wedi gorphen eto, ac nid oedd Yspryd yr Arglwydd wedi darfod â Peter Williams. Y mae y pregethwr yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a chyda bloedd ofnadwy o effeithiol, sydd yn cyrhaedd cyrau eithaf y dorf, dywed: "Fy mhobl anwyl! Mi a fum am flynyddoedd mor ddiwyd a gofalus a neb sydd yn bresenol. Bum yn gweddïo saith gwaith yn y dydd; yn ymprydio ddwy waith yn yr wythnos; yn myned i'r eglwys bob dydd, ac yn derbyn y cymun bob Sabbath; ac eto, yr holl amser hwnw,