Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/473

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion arno; ni chymerent arnynt ei weled ar yr heol. Cwynai eraill o'i blegyd, fod arwyddion unwaith y deuai yn ysgolhaig gwych, yn gystal a chyfaill dyddan; ond yn awr, ei fod wedi myned yn Fethodist. Meddai: "Câr a chyfaill a'm gadawsant." Ni wyddai am neb i adrodd ei dywydd wrtho, nac i ofyn gair o gyfarwyddyd, oddigerth un ddynes ieuanc, aelod o'r teulu yn mha un y lletyai; yr hon a gawsai ei hargyhoeddi dan yr un bregeth ag yntau. Pa hyd y bu cyn cael rhyddhad i'w enaid, a pha foddion a fendithiwyd i gymeryd ei faich i ffwrdd, sydd anhysbys; ond sicr ydyw i'r maglau gael eu tori, ac iddo yntau ddianc fel aderyn o law yr adarwr. Bellach, yr oedd Peter Williams yn ddyn newydd, a'r cwbl yn newydd iddo yntau. Cyn ei droedigaeth, yr ydoedd, mewn undeb â rhai o'i gyfeillion ieuainc, wedi gwneyd parotoadau i gynal cyfarfodydd llawen, a dawnsio, yn ystod gwyliau y Pasg a'r Sulgwyn; i'r pwrpas hwn, cyflogasent delynwr; ond bellach, nid oedd swyn iddo yn y cyfryw bethau. Nid ydym yn gwybod a gynhaliwyd y cyfarfodydd, ond y mae yn sicr nad aeth efe iddynt, os do. Ar yr un pryd, nid yw yn ymddangos iddo ymuno a'r seiat Fethodistaidd yn Nghaerfyrddin.

Yn fuan gwedi hyn gadawodd yr athrofa, ac aeth i gadw ysgol i Cynwil Elfed, plwyf gwledig tua phum' milltir o Gaerfyrddin. Nid yw yn ymddangos iddo geisio urddau esgobol yn uniongyrchol. Yr oedd arno eisiau hamdden i astudio duwinyddiaeth, a hwyrach fod ei argy. hoeddiad wedi dyrysu ei feddwl am dymhor, fel nas gallai dori allan gynllun i'w fywyd. Bu yn dra ymdrechgar yn Nghynwil, nid yn unig fel ysgolfeistr, a chyda ei efrydiau, eithr i atal llygredigaethau, ac i ddwyn y trigolion i feddwl am grefydd. Yr oedd gwneyd rhywbeth dros yr Iesu wedi dyfod yn awyddfryd ang herddol ynddo. Ail—gyneuodd yr awydd yn ei yspryd am ymgyflwyno i'r weinidog aeth; teimlai fel Paul, mai gwae ef oni phregethai yr efengyl. Eithr nid y cymhellion gynt, sef cydymdeimlad ag addysg, a hoffder o lyfrau, a ddylanwadai arno yn awr, ond dymuniad am gyhoeddi ar led drysorau gras, fel y gallai pawb gyfranogi o honynt fel yntau. Gwnaeth gais at yr esgob am ordeiniad, a chafodd gymeradwyaeth Mr. Einion, ei hen athraw, yr hwn a fu yn ddigon caredig i beidio a dweyd gair am ei duedd Fethodistaidd.

Ymddengys i Mr. Einion hefyd amgau i'r esgob y llythyr Lladin o ddiolchgarwch a anfonasai y gŵr ieuanc iddo. Profodd hwn yn allwedd effeithiol i agor iddo ddrws yr offeiriadaeth, a chafodd ei ordeinio i guwradiaeth eglwys Gymmun, plwyf ar gyffiniau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid yw dyddiad yr ordeiniad genym, ond y mae yn sicr iddo gymeryd lle tua diwedd y flwyddyn 1743, neu ddechreu y flwyddyn 1744.

Yn eglwys Gymmun yr oedd holl ofal y plwyf arno. Preswyliai y periglor yn Lloegr, lle y meddai swyddogaeth uchel, ac y caffai gyflog dda; ni ofalai am ei blwyfolion tlodion yn Nghymru o gwbl, oddigerth dyfod unwaith y flwyddyn i'w mysg i dderbyn y degwm. Bychan oedd cyflog Peter Williams; gofalai y periglor am gadw y brasder iddo ei hun, ond nid oedd hyn yn poeni y cuwrad ieuanc o gwbl, oblegyd ychydig oedd yn eisiau arno, a chadwai ysgol ddyddiol, fel na byddai mewn petrusder gyda golwg am gynhaliaeth. Ymdaflodd ar unwaith i'w waith. Pregethai gyda nerth, er mai darllen ei bregethau a wnelai. Yn fuan sefydlodd gyfarfod gweddi yn y plwyf, yr hwn at gedwid mewn gwahanol dai yn gylchynol. Yn y cyfarfodydd hyn, nid yn unig gweddïai, eithr rhoddai air o gynghor i'r rhai oedd yn bresenol, gan eu hanog i fywyd rhinweddol a duwiol. Y mae yn anmhosibl darllen ei hanes heb weled fod ei ddechreuad yn hollol yr un fath ag eiddo Howell Harris; yr unig wahaniaeth o bwys ydoedd fod Peter Williams yn ŵr mewn urddau, tra yr oedd Harris yn amddifad o'r cyfryw fraint. Ymddengys fod rhyw gymaint o gallineb y sarph yn y cuwrad ieuanc. Llenwid y wlad y pryd hwn gan ofn, rhag y byddai i'r Ymhonwr (Pretender) enill gorsedd Prydain; crynai Llundain ei hun. Parodd hyn i lawer weddio am ddwyfol amddiffyn dros y brenhin nad arferent blygu ar eu gliniau. Cymerodd Peter Williams yr helynt yn gochl i guddio yr hyn a ystyrid yn afreolaeth, yn ei waith yn cynal cyfarfodydd gweddio. Eithr er ei ofal, drwgdybid ef o fod yn tueddu yn ormodol at Fethodistiaeth. Yr oedd purdeb ei fuchedd, gwresawgrwydd ei weddïau, ei waith yn gweddio heb lyfr, a thôn ei gyfarchiadau, yn peri i'r bobl ledamheu mai Methodist ydoedd. Ac yr oedd tueddu at hyn yn cael ei ystyried yn bechod enbyd yn mysg yr Eglwyswyr yr adeg yma. Perai peth