Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/477

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith, cafodd nad oedd yr un o'i lygaid wedi eu niweidio. "Yna gorfoleddais," meddai, "a bu dda genyf fy mod yn cael fy nghyfrif yn deilwng i'm herlid er mwyn Crist, a'i efengyl bur."

LACHARN.


O Sir Fôn aeth i Drefriw. Yma yr oedd ei ddyfodiad wedi cael ei hysbysu yn rhy gyhoeddus, ac felly yr oedd yr erlidwyr wedi cael cyfleustra i'w dderbyn, yn eu dull neillduol hwy. Daethai torf lawn o ffyrnigrwydd yn nghyd, y rhai a gyflogasid gan ddau foneddwr oedd ar y pryd wedi yfed i ormodedd. Ymddengys na ddarfu iddynt guro y pregethwr, eithr rhoisant ef yn garcharor yn y tafarndy, ac yno y cadwasant ef o chwech o'r gloch y nos, hyd ddau yn y boreu, a cheisient ei wneyd yn destun difyrwch, fel y Philistiaid â Samson gynt. Meddai Peter Williams: "Gwnaethant i mi yfed; rhyddhasant fy nillad, trwy ddatod fy motymau oddi fynu hyd i waered; rhoddasant ferch i eistedd ar fy nglin, a gofynent lawer o gwestiynau am fy nysgeidiaeth, fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a beth oedd fy nhestun y boreu hwnw. Atebais: Os gwelwch yn dda, foneddigion, adroddaf i chwi'r testun, a'r bregeth hefyd.' Ar hyn, galwodd un o honynt am ddystawrwydd; 'y mae o yn myned i bregethu i'n diwygio ni,' ebai efe, ac yna, chwerthin mawr drachefn a thrachefn. Gofynais am fwyd a gwely, pryd y chwarddasant eilwaith, a dywedasnt gyda dirmyg: Cewch fwyd a gwely yn y man.' Dysgwyliais gael fy nhroi allan, a'm curo â cherig i farwolaeth, ac felly, mai yn y tywyllwch y gwneid pen ar fy einioes. Rhoddais fy hun i'r Arglwydd, gan barhau mewn gweddi ar ran fy ngwatwarwyr rhagrithiol. Ni chaniateid i mi weddïo na phregethu mewn llais uchel; ac yr oeddwn yn gruddfan am y gorfodid fi i wrando ar eu maswedd, eu rhegfeydd, a'u hymadroddion llygredig." Diau mai noswaith anfelus iawn a dreuliodd yn nghanol y fath haid annuwiol, ac eto, cysurai ei hun trwy adgofio fod gwell triniaeth yn cael ei hestyn iddo nag i'w Arglwydd. Cyn caniad y ceiliog cafodd ei ryddhau. Pa ddylanwadau a fu yn effeithiol i ddwyn hyn oddiamgylch, nis gwyddom. Cyn ymadael, gorchymynodd y boneddwyr i'r tafarnwr roddi bwyd a diod iddo; talasant hefyd ei holl gostau, ond siarsiasant ef na phregethai yn y pentref. Yr oedd efe, modd bynag, erbyn hyn yn y cyfryw stad fel nas gallai na bwyta nac yfed. Aeth i'r gwely, a chysgodd, yr hyn na fedrai ei gyfaill. Eithr yr oedd ei urdd—lythyrau wedi cael eu lladrata trwy dwyll. Ond yn ystod y dydd, daeth merch y gŵr a'u cymerasai, ar ei ol, a