Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/478

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychwelodd hwynt, rhag ofn cyfraith. Teimlai efe, a'r cyfaill oedd yn gydymaith iddo, eu bod wedi cael cymaint gwaredigaeth a Daniel o ffau y llewod. Yn sicr, yr oedd y pethau hyn yn brawf tanllyd i ŵr ieuanc, heb gyrhaedd ei bump-ar-hugain mlwydd oed, i fyned trwyddynt.

Pa le yr ymgartrefodd Peter Williams pan yr ymunodd a'r Methodistiaid gyntaf, ni wyddis i sicrwydd; eithr cyn i lawer o flynyddoedd basio, cawn ef yn byw yn Llandyfeilog, gerllaw y ffordd fawr sydd yn arwain o Gydweli i Gaerfyrddin. Enw yr amaethdy a wnaeth yn breswyl oedd. Gellilednais, ac y mae yn gorwedd tua phum' milldir o dref Caerfyrddin. Yno y bu byw hyd derfyn ei oes, ac yn mynwent Llandyfeilog y rhoddwyd ei gorph i orwedd gwedi iddo farw. Fel yr arfera plant dynion, priododd yntau, a bu iddo deulu cymharol liosog. Enw ei briod oedd Mary Jenkins, merch i foneddwr o gymydogaeth Llanlluan. Ychydig a wyddis am dani, ond yn ol pob hanes yr oedd yn ddynes rinweddol, ddystaw, a nodedig o dduwiolfrydig. Bu fyw am chwech mlynedd-ar-hugain ar ol ei phriod, ac yr oedd yn nghymydogaeth cant pan y bu farw. Parhaodd i fyned i'r addoliad hyd y diwedd, a dywedir iddi farchogaeth i'r capel o fewn pythefnos i ddydd ei marwolaeth. Fel pob gwraig dda, yr oedd ei ffydd yn ei phriod yn ddiderfyn. Yn ei henaint, gwedi i'w golygon ballu, gwnelai i'w hwyrion ddarllen penod o'r Beibl iddi yn aml, a rhaid oedd darllen sylwadau eglurhaol ei phriod ar y benod yn ogystal, a braidd nad ystyriai y sylwadau mor ysprydoledig a'r benod ei hun. Cawsant y fraint o ddwyn i fynu chwech o blant, sef tri o feibion, a thair o ferched. Cyrhaeddodd dau o'r meibion, sef Ebenezer a Peter Bayley, fesur helaeth o enwogrwydd yn yr Eglwys Sefydledig fel offeiriaid dysgedig ac ymroddgar; eithr bu y mab arall, John, farw yn gymharol ieuanc. Enwau y merched oeddynt Deborah, Margaret, a Betti. Ymddengys i'r tair ymsefydlu yn y byd, a chael teuluoedd. Mab i un o honynt oedd y Parch. David Humphreys, Llandyfeilog, gweinidog o gryn enwogrwydd yn mysg y Methodistiaid, doniau yr hwn a gyffelybid gan lawer o'r hen bobl i eiddo Ebenezer Morris. Merch iddo ef, ac felly orwyres i Peter Williams, yw Mrs. Davies, gweddw R. J. Davies, Ysw., Cwrtmawr. Y mae nifer mawr o hiliogaeth Peter Williams, trwy y merched, i'w cael ar hyd a lled gwlad Myrddin, a siroedd eraill, hyd heddyw, a chan mwyaf y maent mewn cysylltiad a'r Cyfundeb Methodistaidd.

Ond i ddychwelyd at hanes Peter Williams. Y mae yn sicr iddo gael lle amlwg yn mysg y Methodistiaid ar unwaith. Un rheswm am hyn oedd ei fod yn offeiriad urddedig, yr hyn a ystyrid ar y pryd yn beth tra phwysig; ond y mae yn sicr fod a fynai helaethrwydd ei ddysgeidiaeth, a dysgleirder ei ddoniau, â hyn. Yn mis Mai, 1747, sef yn mhen tua blwyddyn gwedi ei ymuniad a'r Methodistiaid, yr ydym yn darllen am dano yn pregethu yn Nghymdeithasfa Chwarterol Cilycwm, o flaen Daniel Rowland. Ei destun ydoedd: "Mor gu genyf dy gyfraith di," a chanmolai Howell Harris y bregeth yn ddirfawr fel un dra Ysgrythyrol. O hyn allan, cawn ef yn cymeryd lle blaenllaw yn mysg yr arweinwyr. Os nad ystyrid ef ysgwydd yn ysgwydd yn hollol â Rowland, Harris, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yr oedd yn agos iawn atynt, ac yn mhell uwchlaw neb arall. Nodwedd fawr ei bregethau oedd Ysgrythyroldeb. Ni ryfygai un amser esgyn i'r pwlpud heb barotoi, ac felly, tra y dibynai eraill lawer ar hwyl, byddai ef braidd bob amser yn gyffelyb, sef yn sylweddol, a Beiblaidd, ac athrawiaethol. Hyn a barodd i Williams, Pantycelyn, ddweyd wrtho mewn tipyn o gellwair: "Gelli di, Peter, bregethu lawn cystal pe byddai yr Yspryd Glân yn Ffrainc; ond am danaf fi, nis gallaf wneyd dim o honi, heb ei gael wrth fy mhenelin.' Meddai John Evans, o'r Bala, am dano: "Gŵr cryf o gorph a meddwl oedd Peter Williams, a phregethwr da. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlawn; bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol, a chafodd llawer eu galw trwyddo." Clywsom sylw am dano mai fel "Gŵr y ddau bwnc" yr adwaenid ef; a'r ddwy linell yn cael eu cymhwyso ato:

"Y ddau iawn bwnc ganddo'n bod,
Y camwedd a threfn y cymod."


Prin y gellir meddwl fod gŵr o alluoedd Peter Williams yn cyfyngu ei hun at "y ddau bwnc" hyn; ac eto, diau eu bod yn cael arbenigrwydd yn ei weinidogaeth, gan fod holl wirioneddau trefn iachawdwriaeth yn dal cysylltiad hanfodol a'r naill neu y llall o'r pynciau hyn. Os mai byr oedd ei wybodaeth dduwinyddol ar y cyntaf, gwnaeth gynydd dirfawr yn fuan,