Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r Diwygwyr, er nad oedd wedi ymuno a hwy. Y mae yn eglur fod gwaith Griffith Jones yn cyflenwi y wlad a Beiblau, ac a Chatecismau, a llyfrau crefyddol eraill; a'i waith trwy yr ysgolion yn dysgu y bobl i ddarllen, yr hyn a gerid yn mlaen am chwarter canrif ochr yn ochr ag ymdrechion y Tadau Methodistaidd, yn gefnogaeth o'r fath fwyaf sylweddol i'r Diwygiad. Oni bai am ei lafur ef, y mae yn amheus a fuasai llafur Harris, a hyawdledd Rowland a Howell Davies, wedi gadael effeithiau mor barhaol ar y wlad. Pe aem i olrhain dylanwad y gwahanol offerynau a ddefnyddiodd yr Arglwydd i efengyleiddio Cymru yr adeg hon, braidd na theimlem mai dylanwad yr Efengylwr a'r Addysgydd o Landdowror oedd y dwysaf a'r eangaf. Yr oedd y werin, wedi cael craff ar ddarllen, yn awyddus am ddefnyddio y gallu newydd osddynt wedi feddianu. Hirnos gauaf, yn lle adrodd chwedlau ofergoelus am fwganod a drychiolaethau, ceid y meibion a'r merched yn y ffermdai a'r bwthynod yn darllen Gair Duw goreu y medrent yn uchel; a'r hen bobl yn gwrando yn astud, a'r dagrau yn llanw eu llygaid wrth glywed newyddion mor ogoneddus. Cyfarfyddid i gyd-adrodd ei Gatecism, a llenwid y cymoedd mynyddig a'r pentrefydd gwledig gan swn y rhai oeddynt yn ymgais i'w drysori yn eu cof. O flaen dylanwad dystaw yr addysg Ysgrythyrol, diflanodd y bwganod allan o'r tir, a lle ni chafwyd iddynt mwyach. Yn hollol gywir olrheinia Mr. Johnes darddiad Methodistiaeth yn ol i Griffith Jones, er o bosibl na fwriadai ef ddim o'r fath. Gwna yr un gŵr y sylw canlynol:[1] Fod ychydig o weinidogion duwiol ac ymroddgar yn wendid yn hytrach na chryfder i sefydliad crefyddol, pan y mae y mwyafrif o'r gweinidogion yn ddiofal am eu dyledswyddau cysegredig; am fod zêl yr ychydig yn gwneyd y tywyllwch yn fwy gweledig, ac yn gwneyd y bobl yn fwy annyoddefol o gamwri."

Bu farw Griffith Jones ar yr 8fed o Ebrill, 1761, yn y 78 flwyddyn o'i oed, yn nhŷ Madam Bevan. Yr oedd ei wraig wedi marw beth amser o'i flaen. Bu farw yn ogoneddus, heb ymddiried dim yn ei ymdrechion, ond yn llawn ffydd yn ei Waredwr.[2] Wrth gyfaill a alwasai i'w weled cyffesai ei waeledd a'i ddiffrwythder. Atebodd y cyfaill na ddylasai ddywedyd felly, gan ddarfod iddo fod mor llafurus trwy ei oes, a bod yr Arglwydd wedi gwneyd defnydd mor fawr o hono. Yr oedd y claf yn grwm yn ei wely, ac yn pwyso ei ddwy benelin ar ei benliniau; ond ar hyn ymsythodd, a chan edrych yn myw llygaid y cyfaill, gofynodd, "Beth! a'i cymeryd plaid y gelyn yr ydych?" Wrth gyfaill arall a alwasai i ofyn ei helynt, dywedai, "Rhaid i mi ddwyn tystiolaeth i ddaioni Duw. Yr ydwyf, ie, yn awr, yn rhydd oddiwrth y diffyg anadl yr oeddwn yn ddarostyngedig iddo yn fy ieuenctyd. Nid wyf yn ddall, fel y bum dros dair wythnos yn fy mabandod gan y frech wen; ac nid wyf yn gardottyn dall yn hel fy nhamaid o ddrws i ddrws. Mor rhyfedd yw daioni Duw, gan nad wyf yn teimlo dim poen, ac am fy mod yn debyg o fyned i'r bedd mewn esmwythder. Mor rhyfedd yw trugaredd Duw, fy mod yn gallu canfod yn eglur yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd Crist drosof fi, ac nad oes genyf yr amheuaeth leiaf am fy ffawd yn fy Achubwr Hollalluog." Yna aeth yn mlaen i folianu, "Bendigedig fyddo Duw! Y mae ei ddiddanwch yn llenwi fy enaid!" Dywed Mr. Charles fod ei gladdedigaeth yn dra galarus, a bod lluoedd o bobl dlodion, trwy eu gwynebau gwlybion a'u dagrau heilltion, yn tystiolaethu eu cariad a'u tristwch, o herwydd colli gŵr mor rhagorol

Er gwneyd pob ymchwiliad, methwyd a dod o hyd i ddarlun Griffith Jones. Hysbysir ni gan bobl ag y disgwylid eu bod yn gwybod nad oes yr un ar gael, . ac nad oes lle i feddwl ddarfod i ddarlun o hono gael ei gymeryd erioed. Nid oes darlun ar gael ychwaith o Madam Bevan. Gan i ni fethu darganfod unrhyw ddarlun o hono, a bod y persondy yn ymyl yr eglwys lle y trigai yn gyd-wastad a'r ddaear, nid oes genym ond rhoddi i'n darllenwyr ddarluniau o bentref Llanddowror, yr eglwys, a'r maen coffadwriaethol sydd uwchben ei fedd.

Yn ei ewyllys gadawodd yr oll a feddai, sef tua saith mil o bunoedd, i Madam Bevan, mewn ymddiriedaeth, i'w defnyddio at wasanaeth yr Ysgolion Cylchynol.[3] Bu hi fyw am ddeunaw mlynedd yn mhellach, sef hyd 1778, a thrwy ystod ei hoes gofalodd am ysgolion Griffith Jones. Cyn ei marw gadawodd dair mil o bunoedd ychwanegol yn ei hewyllys at yr un amcan, fal yr oedd yr holl swm yn ddeng mil Ond ceisiodd y Gymunweinyddes, yr Arglwyddes Stepney, feddianu yr arian fel

  1. Causes of Disent in Wales
  2. Y Drysorfa 1813
  3. Enwogion y Ffydd