Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/481

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

briod y gweision i edrych am dano, a thrwy eu cymhorth amserol hwy y cafwyd ef yn rhydd o grafangau yr anwariaid.

Ofer fyddai ceisio adrodd yr oll a ddyoddefodd Peter Williams, yn ei lafur o blaid yr efengyl yn Nghymru. Adroddir iddo, yn y flwyddyn 1766, fyned i Lanrwst, gan amcanu pregethu wrth neuadd y dref. Gyda ei fod yn dechreu, dyma lances o forwyn yn dyfod allan o dŷ oedd gerllaw, ac yn ymosod arno a'i holl egni, trwy luchio wyau gorllyd ato, nes yr oedd ei ddillad mewn cyflwr enbyd. Yn mhen amser, gwelodd y ferch fod perthynas agos iddi, o'r enw Gabriel Jones, yn sefyll yn ymyl y pregethwr, a bod yr wyau weithiau yn ei daro ef. Mewn canlyniad, hi a ymataliodd. Eithr wedi iddi hi beidio, dyma haid o oferwyr yn gafaelu ynddo, ac yn ei lusgo at yr afon. Yno, rhai a ddalient ei freichiau i fynu; eraill a godent ddwfr o'r afon, ac a'i harllwysent i'w lawes; a chan fod yr hin yn rhewllyd ac yn oer, yr oedd ei fywyd mewn perygl. Anhawdd gwybod beth a fuasai y canlyniad, oni bai i Richard Roberts, Tymawr, gŵr cyfrifol, o gymeriad da, ac yn meddu corph cryf, ddyfod heibio megys ar ddamwain. Cyffrodd yspryd hwn ynddo pan ddeallodd beth oedd yn myned yn mlaen; ym osododd ar y dihyrwyr, gan eu chwalu yn chwimwth ar bob llaw, ac achubodd y diniwed o'u dwylaw. Cymerodd y pregethwr adref i'w dŷ yn ganlynol, a chwedi gweini iddo bob ymgeledd angenrheidiol, aeth i'w ddanfon, dranoeth, dair milltir o ffordd, rhag iddo syrthio drachefn i ddwylaw yr erlidwyr. Ni chymerai Richard Roberts arno ei fod yn bleidiwr i'r Methodistiaid. Eglwyswr ydoedd, ac felly y parhaodd trwy ystod ei oes; ond prydferthid ei gymeriad â llawer o rinweddau dynol a Christionogol, ac nis gallai oddef gweled gweinidog yr efengyl yn cael ei anmharchu.

GELLILEDNAIS, GER LLANDYFEILOG.
[Preswylfod Peter Williams.]


Dyoddef yn gyffredin a wnelai Peter Williams, heb wneyd unrhyw ymgais i amddiffyn ei hun; dyna, hefyd, arferiad cyffredinol y Methodistiaid cyntaf, ond ambell i dro rhedai eu hamynedd i'r pen, ac appelient at gyfraith y wlad.[1] Un waith yr ydym yn cael ddarfod i Mr. Williams gael ei gamdrin yn enbyd yn Ninbych; ac nid digon gan yr erlidwyr oedd ei guro, eithr yspeiliasant ef o'r oll a feddai. Wedi iddo ddychwelyd adref i'r Deheudir, adroddodd yr hanes wrth ei gyfeillion. Cyffrodd y rhai hyny, a

  1. Methodistiaeth Cymru