Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/482

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chasglasant arian i'w amddiffyn. Rhoddwyd yr achos yn llaw cyfreithiwr a breswyliai yn Aberhonddu. Mewn canlyniad, gwysiwyd wyth o'r prif faeddwyr i Lundain, i sefyll eu prawf, ac yn eu mysg yr oedd dyn ieuanc yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf cyfrifol. Meddai hwn ddigon o gyfoeth i gyflogi y dadleuwyr goreu o'i blaid; ond methodd, er pob ymdrech, yn ei amddiffyniad, a chafwyd y rhai a gyhuddid oll yn euog. Y gosp a roddid arnynt oedd eu dihatru o nodded y gyfraith (outlawry). Trodd y teimlad, bellach, yn eu herbyn. Dywedai pawb mai cyfiawn oedd eu cosp. Gan hyny, yr oeddynt yn esgymunedig, ac ni allent aros yn y wlad. Bu farw rhai o honynt yn fuan o ymollyngiad meddwl; eraill a giliasant o'r golwg, ac ni chlybuwyd am danynt mwy. Am y gŵr ieuanc cyfoethog, bu yn nghudd ac yn alltud hyd nes y darfu i'w rieni allu prynu ei ryddid iddo, a'i ddwyn drachefn dan nawdd y gyfraith. Dywedir i'r ddedfryd hon ddwyn dirfawr ymwared i'r crefyddwyr, ac i arswyd eu herlid ddisgyn ar y gwŷr mawr.

Fel y darfu i ni sylwi, pregethwr athrawiaethol oedd Peter Williams yn benaf. Y deall a'r gydwybod a gyfarchai fel rheol, ac nid yn aml yr appeliai at y teimlad. Y mae lle i gasglu nad oedd yn gefnogol iawn i'r tori allan, a'r molianu, a fyddai yn cydfyned a'r diwygiadau. Ac eto, torai y cynulleidfaoedd allan mewn clodforedd a mawl, nid yn anaml, tan ei weinidogaeth ef ei hun. Pan yr ymwelai Howell Harris â Llangeitho un tro, wedi iddo ymgymodi a'r Methodistiaid, Peter Williams oedd yn pregethu yn y Gymdeithasfa, ac aeth yr holl gynulleidfa yn fflam, nes yr oedd enaid y Diwygiwr o Drefecca yn llawenychu ynddo. Ceir cofnod tra dyddorol am dano yn nydd-lyfr un o "deulu" Trefecca. Daeth ar daith i Frycheiniog, gwedi marw Harris, gan bregethu efengyl y deyrnas, ac nid oedd am ddychwelyd heb ymweled â Threfecca. Evan Moses a lywodraethai yno ar y pryd, ac ymddengys ei fod yntau yn anghefnogol i bob arddangosiad o deimlad mewn cyfarfod crefyddol. A ganlyn yw y cofnod: "Dydd Mercher, 6 Gorphenaf, 1774. Pregethodd Peter Williams yma. Aeth Gwen Vaughan i neidio. Yr oedd Evan Moses yn dra anfoddlawn, a mynai beri iddi fod yn llonydd. Eithr yr efrydwyr (yn athrofa yr Iarlles Huntington) a gymerent ei phlaid. Eithr efe (Evan Moses) a ddygodd dystiolaeth yn ei herbyn gyda brwdfrydedd priodol, ac a ddywedodd wrth Mr. Williams y byddai raid iddo roddi cyfrif am gefnogi y fath deimladau anmhriodol. Honai nad oedd hyn ond nwyd, a bod gwahaniaeth mawr rhwng calon ddrylliog ac yspryd cystuddiedig, ag yspryd cyfan a balch, fel ei heiddo hi, y rhai a wrthwynebent. Aeth Mr. Williams o'r pwlpud ar unwaith, pan ddywedodd Evan Moses wrtho y byddai raid iddo roddi cyfrif, gan ateb, y byddai raid iddo, yn ddiamheu." Felly y terfyna y cofnod, ac awgryma fod Peter Williams yn tueddu at fod o'r un syniad ag Evan Moses gyda golwg ar neidio a molianu.

Y mae yn bur sicr ddarfod i Peter Williams, heblaw teithio Cymru ar hyd ac ar led lawer gwaith, fod yn foddion i gychwyn llawer o achosion crefyddol yn ei sir ei hun. Efe, fel y cawn weled eto, a adeiladodd gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a hyny, gan mwyaf, os nad yn gyfangwbl, ar ei draul ei hun. Pe na buasai ond am ei lafur fel efengylydd, haeddai goffadwriaeth barchus, a lle uchel, yn mysg y Tadau Methodistaidd; eithr nid gormod dweyd mai mewn cylch arall y cyflawnodd waith pwysicaf ei fywyd, ac y gosododd ei gydgenedl tan y rhwymedigaeth fwyaf iddo. Yr ydym yn cyfeirio at ei lafur fel esboniwr. Darfu i'w waith yn dwyn allan y Beibl mawr, yn nghyd a sylwadau ar bob penod, yn y flwyddyn 1770, greu cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth grefyddol Cymru. Ychydig iawn a wnaethid yn y cyfeiriad yma o'r blaen. Ymddengys ddarfod i'r Parch. Evan Evans, "bardd ac offeiriad," fel ei gelwir weithiau, eithr sydd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddonol, Ieuan Brydydd Hir, ddechreu ysgrifenu sylwadau ar y Beibl, ar gynllun nid annhebyg i eiddo Peter Williams. Eithr dros nifer fechan o lyfrau cyntaf yr Hen Destament yn unig yr aeth efe, ac ni chafodd yr hyn a ysgrifenodd erioed ei argraffu. Yr unig lyfr Cymreig o natur esboniadol, a gawsai ei gyhoeddi yn flaenorol i Feibl Peter Williams, mor bell ag y gwyddom, oedd Cysondeb y Pedair Efengyl, gydag agoriad byr a nodau athrawus, ar yr hyn a dybid yn dywyll ac anhawsaf ynddynt, gan y Parch. John Evans, A.C. Cawsai John Evans ei ddwyn i fynu yn y Meini Gwynion, ger Llanarth, ond gwasanaethai yn Plymouth, ac felly, fel "Offeir-