Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/484

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teuluaidd, Y Mynegair, yn nghyd â Beibl John Canne, at yr hwn y cawn gyfeirio eto, cyhoeddodd nifer mawr o fân lyfrau, ar wahanol faterion, rhai yn wreiddiol iddo ei hun, ac eraill yn gyfieithiadau o'r Saesneg, ond oll yn tueddu i lesoli ei gydwladwyr, yn foesol a chrefyddol. Ysgrifenodd gryn lawer o farddoniaeth o bryd i bryd, a thebyg fod y ddawn brydyddol yn bur gryf ynddo, ond gan fod Williams, Pantycelyn, yn cydoesi ag ef, ac yn seren mor ddysglaer, ni ddaeth ef i lawer o amlygrwydd fel bardd. Modd bynag, gellir gweled oddiwrth hyn oll fod ei lafur yn ddiderfyn, ac nad oedd ball ar ei yni.

Yr ydym wedi cyfeirio at y Beibl mawr, yn nghyd a'r sylwadau ynddo ar bob penod, fel prif waith Peter Williams, ac fel colofn benaf ei anrhydedd; ond yn nglyn â hyn, hefyd, y cychwynodd ei brofedigaethau, a dyma, yn y diwedd, a fu yn achos iddo gael ei ddiarddel gan Gymdeithasfa y Methodistiaid. Buasai yn dda genym allu pasio heibio hyn, ond y mae yr helynt yn un mor gyhoeddus, fel y rhaid i ni gyfeirio ati. Yn yr argraffiad cyntaf o'i Feibl, ceir y sylw canlynol ar y benod gyntaf yn Efengyl Ioan: "Yr un yw meddwl Duw a'i ewyllys, a'r un yw ei ewyllys a'i air (o herwydd nid yw yn cyfnewid), ac efe a ewyllysiodd cyn bod byd nac angel, roddi Crist yn ben ar y byd; felly, y mae Duw yn Dad, Mab, ac Yspryd Glân, o dragywyddoldeb, yn ei ewyllys dragywyddol ei hun; nid 'mewn dull angenrheidiol o fod, pe na buasai rhaid achub un dyn, na sancteiddio un enaid,' fel y mae rhai mewn annoethineb yn dywedyd; eithr am ei fod yn ewyllysio achub a sancteiddio; canys Crist (yn yr hwn y mae doethineb Duw yn ymddangos yn benaf) oedd hyfrydwch y Tad yn nechreuad ei ffyrdd; ac yn Alpha ac Omega ei holl weithredoedd; yn gytunol a'r hwn ewyllys, Y Gair (yn nghyflawnder yr amser) a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni,—ac fe welodd rhai ei ogoniant, ac a gredasant fod Iesu yn Dduw! Nid yn Dduw trwy ordeiniad,' fel y mae rhai yn ofer siarad, eithr mai efe yw yr unig wir a'r bywiol Dduw; canys y mae yr ysgrythyr yn tystio mae'r Dyn Iesu yw'r Tad tragywyddol; a phwy Gristion a ddichon ddyoddef cabledd y rhai a wadant Dduwdod Crist?"

Nid yw yn hollol glir pa beth a olyga yn y sylwad hwn. Efallai nad yw y

geiriau yn gwbl annghyson a'r syniad fod y Duwdod yn hanfodi erioed, ac o angenrheidrwydd natur yn Dri Pherson; ond am y berthynas hanfodol hon, nad oes genym unrhyw wybodaeth, am nad ydyw wedi ei ddatguddio i ni; ac mai perthynas y Personau Dwyfol a'u gilydd yn nhrefn iachawdwriaeth pechadur yn unig sydd yn cael ei dynodi yn yr enwau Tad, Mab, ac Yspryd Glân. Os mai hyn a feddyliai, bu yn dra anffortunus yn ei ddull o eirio, a dweyd y lleiaf. Pa mor fuan y craffodd yr arweinwyr yn mysg y Methodistiaid ar y sylwad, ac y dygwyd achos yr awdwr ganddynt i'r Gymdeithasfa, gan ei gyhuddo o Sabeliaeth, sydd yn anhysbys. Y tebygolrwydd yw na ddigwyddodd hyn cyn yr ail argraffiad o'r Beibl mawr, a ddygwyd allan yn y flwyddyn 1781, gan ddarfod i'r un sylwad yn hollol ymddangos yn hwnw. Eithr yn fuan ar ol hyn, daeth y pwnc yn destun dadleuaeth frwd a phoenus mewn gwahanol Gymdeithasfaoedd. Nid yw hanes y ddadl genym, eithr cyfeiria Peter Williams ati yn un o'i lythyrau, a ysgrifenwyd ganddo tua diwedd ei oes. Fel hyn y dywed: "Ond amheu yr wyf fod rhyw rai yn cyffroi cynhen, trwy adgoffa yr hen ddadl, yn nghylch Maboliaeth ein Hiachawdwr, Iesu Grist; sef, pa un ai trwy genhedliad tragywyddol o sylwedd y Tad, fel y dywed rhai, neu o herwydd y natur ddynol a genhedlwyd trwy yr Yspryd Glân, fel yr wyf fi, yn ostyngedig yn meddwl, y cafodd ei alw yn Fab. Salm ii. 7." Profa y difyniad i ddadl boenus gymeryd lle ar y mater yn y Gymdeithasfa. Y mae yn sicr fod y Gymdeithasfa yn gyffredinol yn annghymeradwyo y sylwad; yr oedd yn anmhosibl i Daniel Rowland yn arbenig beidio, gwedi y safle a gymerodd yn y ddadl â Howell Harris; a diau fod Williams, Pantycelyn, yn cydweled ag ef. Ar yr un pryd, tra yr oedd plaid am ddiarddel yr esboniwr fel un oedd yn euog o heresi, safai Rowland a Williams yn gryf yn erbyn defnyddio mesurau mor eithafol. Nid annhebyg fod. yn edifar gan y ddau na fuasent wedi cyd-ddwyn mwy â Harris; yr oedd canlyniadau alaethus yr ymraniad yn fyw yn eu cof; ac erbyn hyn, yr oedd addfedrwydd oedran a dechreuad henaint wedi dysgu goddefgarwch iddynt. Felly, ni fynai y naill na'r llall glywed am ddiarddel Peter Williams, eithr ymfoddlonasant ar annghymeradwyo ei olygiad, a gweini cerydd iddo. Nid annhebyg fod cerydd Rowland