Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/487

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dra llym, ond gwyddai yr Esboniwr ei fod yn cyfodi gariad, ac felly gallai ei oddef. Hyn arodd iddo ganu yn ei farwnad i Daniel Rowland:

"O, mrawd Rowland, ni'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen?"


Tawelodd yr ystorm am beth amser, a chafodd Peter Williams ryddid i fyned o gwmpas fel arfer, i bregethu yr efengyl, ac i werthu ei lyfrau. Eithr tua'r flwydd yn 1790, dyma y dymhest! yn ail gyfodi, a hyny gyda mwy o gynddeiriogrwydd. A ganlyn oedd yr achos: Yn y flwyddyn a nodwyd, dygodd Peter Williams allan argraffiad o Feibl bychan, gyda chyfeiriadau John Canne ar ymyl y dail, a nodiadau eglurhaol o'i eiddo ei hun ar y godre. Y tebygolrwydd yw ddarfod iddo ymgymeryd a'r anturiaeth o gyhoeddi y Beibl hwn oddiar gymeradwyaeth ei frodyr yn y Gymdeithasfa, a chydag addewid am eu cynorthwy tuag at ei ledaeniad.

Yr oedd y nodiadau eglurhaol yn cynwys sylwadau ar y Drindod, a Mabolaeth Crist, nid annhebyg i'r sylwad a ymddangosasai yn y Beibl Teuluaidd; yn wir, braidd na ddefnyddiai yr Esboniwr ymadroddion cryfach wrth egluro ei olygiadau neillduol ei hun. O angenrheidrwydd, tueddai hyn i ail enyn y tân. Er mwyn cael gwybodaeth helaethach am olygiadau. Peter Williams parthed y Drindod, ni a ddifynwn ychydig ymadroddion allan o draethawd a ysgrifenwyd ganddo yn fuan gwedi ei dori allan, yr hwn a eilw yn Dirgelwch Duwioldeb. Meddai: "Y mae yn angenrheidiol credu fod yn undod y Duwdod Drindod, sef Tri Pherson yn un Duw, ac a eilw yr Ysgrythyr, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân. Ond na feddylied Ond na feddylied y darllenydd fod tri hanfod gwahanol, canys fe fyddai hyny yn wrthwyneb i undod y Duwdod. Nage, eithr y maent yn Dri Pherson mewn un hanfod." Beth a allai fod yn fwy uniongred? Yn nes yn mlaen, cawn: "Y Tad yw ffynhon y Duwdod, canys Duw trwy yr Yspryd a genhedlodd y Mab o Fair y Forwyn. Ac, fel y dywed y Credo, y mae yr Yspryd yn deilliaw oddiwrth y Tad a'r Mab." Eithr yn fuan yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd; cymysgedd syniadau, yn gystal ac aneglurder geiriad: "Y sawl a ddysgir gan Dduw i weled y fendigedig Drindod yn nghnawd y dyn Crist Iesu (pa mor ddiffygiol bynag fyddont mewn dysgeidiaeth ddynol), hwy a fedrant dystiolaethu trwy brofiad fod yr olwg arno yn adfywio eu heneidiau." Eto: "Ni feiddiaf fi ddweyd fod Trindod yn angenrheidiol i hanfod Duw, fel y mae rhai yn rhyfygus haeru; eithr mi a ddywedaf, ac yr wyf yn credu, fod y Drindod yn gwbl angenrheidiol i ddatguddio Duw i etifeddion bywyd tragywyddol." Eto: "Un yw Duw, a'r Mab ynddo fel brigwydd (misletoe) yn y pren, yn byw ar nodd y pren, heb un gwreiddyn gwahanol." Eto: "Ail Berson," meddynt (sef gwrthwynebwyr Peter Williams), "wedi ei genhedlu gyda Duw! Y mae yn anmhosibl i Dduw genhedlu Duw arall; os darfu Duw genhedlu Duw, rhaid fod yr un a genhedlwyd yn llai na'r hwn a'i cenhedlodd. Onid yw y cyfryw athrawiaeth ddisail yn waradwydd i Gristionogrwydd?" Eto: "Nid yw yr Ail Berson a genhedlodd Duw yn nhragywyddoldeb, allan o hono ei hun, ar ei ddelw ei hun, ond person dychymygol, nad oes son am dano yn y Beibl." Eto: "Fel y mae'r Tri Pherson wedi ymbarotoi i waith iachawdwriaeth; neu, fe ellir dweyd, y mae Duw wedi addasu ei hun dan y tri enw, Tad, Mab ac Yspryd." Rhaid addef y cynwysa y difyniadau uchod ymadroddion dyeithriol, a dweyd y lleiaf, am y Drindod, ac am berson ein Harglwydd; ac oni thybir eu bod yn cael eu hachosi gan gymysgedd iaith a syniad, a chan anfedrusrwydd i gyflwyno ei olygiadau i'r cyhoedd mewn iaith glir, nis gellir rhyddhau yr Esboniwr oddiwrth y cyhuddiad ei fod yn tueddu yn gryf i gyfeiriad Sabeliaeth.

Darfu i beth arall yn nglyn â dygiad allan ei argraffiad o Feibl John Canne chwerwi y teimlad yn erbyn Peter Williams yn ddirfawr, sef ei waith yn newid y cyfieithiad mewn amrywiol fanau. Yng ngholwg llawer o'r Methodistiaid, yr oedd y cyfieithiad Cymraeg o'r Ysgrythyr lân agos mor ysprydoledig a'r Ysgrythyr ei hun; rhyfyg enbyd yn eu golwg fyddai i neb, pa mor ddysgedig bynag y gallai fod, geisio newid gair neu ymadrodd ynddo; a phwy bynag feiddiai, caffai deimlo pwys hanfoddlonrwydd. Pan ddeallwyd ddarfod i Peter Williams ryfygu newid y cyfieithiad, cododd cri cyffredinol yn ei erbyn. Cyhuddwyd ef o wneyd hyny er naddu yr adnodau i ffitio ei gyfundraeth. Nid yw yn ymddangos fod y cyfnewidiadau yn bwysig iawn, a thueddwn i feddwl na amcanai efe, wrth eu gwneyd, gefnogi unrhyw gyfundraeth benodol o'i eiddo ei