Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/489

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y bernwch yn ddiduedd; ac os gwelwch fi yn cyfeiliorni, dilynwch yr hen ffordd! Yr wy'n meddwl eich bod yn fy nyled o brawflen, ond nid ydych yn ofni y diangaf yn rhy bell arnoch! Yr wyf yn gweled Beibl Mr. Canne yn fwy buddiol pa fwyaf y trafodwyf arno; ac oni chaiff e' gam yn y wasg, e' fydd yn odidog. Chwi anfonasoch i mi ddwy brawflen y tro diweddaf. Pa un ai'n fwriadol, neu'n ddamweiniol, nis gwn; ond yr oedd un yn rhy ddu! ac mi taflais hi heibio. Yr wyf yn myned y Sabbath nesaf i Gapel Colby, neu'r Capel newydd, ar gyffyniau tref Aberteifi, ac yn bwriadu dychwelyd dydd Mawrth, i yru'r gwaith ymlaen drachefn. Llwydded yr efengyl fwy fwy er gwaethaf holl gryfder y gelyn. A bendith yr Arglwydd fo' ar bob duwiol amcan a lles i Sion ac adeiladaeth y Jerusalem newydd! yw dymuniad eich cydbererin a'ch cyfaill yn y cariad a bery byth,——PETER WILLIAMS." Ymddengys i'r llythyr yma gael ei anfon at y gŵr a arolygai yr argraffwasg yn Nhrefесса, lle yr oedd y Beibl hwn yn cael ei argraffu. Gwelir fod Peter Williams, er yn dynesu at ei nawfed-flwydd-a-thriugain, yn llawn llafur gyda phregethu yr efengyl, ac yn myned o gwmpas, a hyny i gryn bellder, yn feunyddiol. Gweddus hefyd hysbysu fod y Parch. David Jones, gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn gyfranog ag ef yn nygiad allan Beibl Canne, ond dywedir mai ar ysgwyddau Mr. Williams y disgynodd pwys y gorchwyl.

Y mae yn sicr ddarfod i'r dymhestl ruthro ar Peter Williams yn ei holl rym yn y flwyddyn 1790, ac i'w olygiadau fod yn destun dadleuaeth chwerw yn amryw o Gymdeithasfaoedd y flwyddyn hono, yn y De a'r Gogledd. Ei brif wrthwynebydd, fel y dywed traddodiad, oedd y Parch. Nathaniel Rowland, mab yr hen Efengylydd o Langeitho. Yr oedd ef yn llawn uchelgais, yn ddyn nodedig o falch, ac yn awyddu am lywodraethu yn y Gymdeithasfa, a diau diau y tybiai, ond iddo allu symud Peter Williams o'r ffordd, fod y llwybr i'r gadair uchaf yn rhydd iddo. Yr oedd Daniel Rowland yn llesg, ac yn analluog i fyned oddicartref, a bu farw, fel y gwelsom, Hydref, 1790. Yr oedd gwendidau henaint wedi cael goruchafiaeth ar Williams, Pantycelyn, yn ogystal, a bu yntau farw yr Ionawr canlynol. Felly, nid oedd neb o hen gyfeillion yr Esboniwr yn gallu dyfod i'r Gymdeithasfa i'w amddiffyn. Eithr dy wedir fod Rowland, tra yn annghymeradwyo golygiadau ei gyfaill, yn anfoddlawn i weithredu yn llym tuag ato; a phan y daeth ei fab, Nathaniel, adref o ryw gyfarfod, gan ymffrostio ei fod wedi llwyddo i gael pleidlais o gondemniad ar Peter Williams, iddo dori allan, a dweyd: "Nat, Nat, ti a gondemniaist dy well." Yn cynorthwyo Nathaniel Rowland yr oedd. Griffiths, Nevern, offeiriad arall; a phrin yr oedd neb yn y Gymdeithasfa yn meddu digon o nerth i wrthwynebu y ddau. Rhaid addef, hefyd, fod Peter Williams ei hun yn gyndyn a gwrthnysig; amddiffynai ei hun mewn tôn chwerw; ni wnai leddfu ei ymadroddion, na newid ei ddull o eirio, i gyfarfod â syniadau ei frodyr. Mor wir y dywediad, fod grym a gwendid gŵr yn tarddu o'r un ffynhonell! Yn awr, y mae ewyllys gref, anhyblyg, yr hen weinidog o Gaerfyrddin, yr hon a'i daliai yn ngwyneb llid ac erlid ei elynion, yn peri ei fod yn ystyfnig pan y ceisiai ei gyfeillion ei ddarbwyllo.

Dywed Owen Williams, yr hwn a ysgrifenodd gofiant iddo, i'r ddadl gael ei chychwyn yn Nghymdeithasfa y Bala, yn yr hon yr oedd Daniel Rowland yn bresenol, ac i Peter Williams amddiffyn ei hun mor gadarn, a rhesymol, ac Ysgrythyrol, nes taro ei wrthwynebwyr â mudandod; a phan y gofynwyd i Daniel Rowland a wnai ef ateb, dywedodd na wnai, fod y mater yn rhy bwysfawr, ac nad oedd ganddo ddigon o ddeall i wybod a ydoedd Peter Williams yn cyfeiliorni, ai nad oedd. Yr unig un, meddir, a feiddiodd wrthwynebu yn y Gymdeithasfa hono oedd Richard Tibbot, yr hwn, er ei fod wedi ymuno a'r Annibynwyr, a ddeuai i gymanfaoedd y Methodistiaid, ac a gymerai ran yn y dadleuon. Trueni mawr na fuasai yr Esboniwr wedi cael gwell cofiantydd; yr oedd Owen Williams, heblaw pob annghymhwysder arall, yn llawn rhagfarn at y Methodistiaid. Daeth y mater yn destun sylw drachefn yn Nghymdeithasfa Aberystwyth; nid oedd Daniel Rowland yn bresenol yn hon, ac yma tybir ddarfod i Nathaniel Rowland gymeryd rhan flaenllaw yn y ddadl. Yn Nghymdeithasfa Llanidloes, a gynhaliwyd yn y flwyddyn 1791, gwedi ymdriniaeth faith, ymddengys i'r frawdoliaeth ddyfod i'r penderfyniad fod yn rhaid diarddel Peter Williams, oddigerth iddo ymwrthod a'r syniadau a gyhoeddasai, ac addaw peidio eu cyhoeddi rhagllaw. Nid oedd ef yn bresenol, eithr