anfonwyd llythyr ato yn ei hysbysu o'r penderfyniad. Mewn canlyniad, cawn ef yn ysgrifenu at ei gyfaill: "Mi a gefais lythyr anngharuaidd oddiwrth y brodyr yn Llanidloes, yr hwn a barodd i mi fawr ofid calon.' Eithr tynu ei eiriau yn ol ni fynai, nac addaw peidio eu cyhoeddi yn ol llaw; yn y peth hyn, nid oedd darbwyllo arno, a'r diwedd fu iddo gael ei lwyr ddiarddel yn Nghymdeithasfa Llandilo, yn y flwyddyn 1791. Nid yw hanes y drafodaeth genym, felly, ni wyddom pwy a gymerodd ran yn y ddadl. Nid oes amheuaeth mai prif wrthwynebydd Peter Williams yma eto oedd Nathaniel Rowland, i'r hwn y telid llawer o barch ar gyfrif ei dad enwog. Efe yn unig a ddelir yn gyfrifol am y weithred gan draddodiad, a chredir mai goddefol a fu corph y Gymdeithasfa. Gwir fod y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, a'i frawd, y pryd hwnw, Mr. David Charles, Caerfyrddin, yn bresenol; ond ymddengys iddynt fod yn hollol ddystaw yn ystod yr ymdrafodaeth. Nid oedd gan y Parch. Thomas Charles un drwgdeimlad at yr hen Esboniwr; yr oedd yn gyfoed, a buasai yn gydefrydydd, a'i fab, sef y Parch. Eliezer Williams, a dywedir ei fod ar delerau cyfeillgar, os nad rhywbeth mwy, ag un o'i ferched. Gwyddis am dano, hefyd, mai un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd. Eithr yr oedd yn gymharol ieuanc, ac nid oedd blynyddoedd lawer er pan yr ymunasai a'r Methodistiaid, felly, prin yr oedd yn briodol iddo gymeryd rhan mewn dadl mor bwysig, ac yr oedd yn rhy yswil i wrthwynebu dau offeiriad o safle. Am Mr. David Charles, nid oedd yntau ond dyn ieuanc, a phrin y gellir tybio iddo agor ei enau. Gwyddom y ffyna traddodiad yn mhlith disgynyddion Peter Williams, hyd y dydd hwn, ddarfod i'r ddau Charles brofi yn anffyddlon iddo yn y Gymdeithasfa, a'u bod i raddau mwy neu lai yn gyfrifol am ei ddiarddeliad; ac oblegyd hyn, na fu y teimladau goreu yn ffynu rhwng y ddau deulu am beth amser. Os oes rhyw sail i'r traddodiad, y tebygolrwydd yw mai bod yn ddystaw a wnaethant, pan, yn ol barn cyfeillion Peter Williams, y dylent lefaru.
Y mae llawer iawn o feio wedi bod ar y Methodistiaid oblegyd eu hymddygiad at Peter Williams; awgrymir fod a fynai cenfigen a'r peth, a'u bod yn gul, yn anfrawdol, ac yn honi anffaeledigrwydd. Am Nathaniel Rowland, ac eraill o'i wrthwynebwyr, gallent fod yn cael eu dylanwadu gan deimladau personol, ond y mae yn anmhosibl credu hyny, am gorph y Gymdeithasfa. Pe y cawsai teimlad personol le, diau y buasai yn troi o blaid cadw yr hen Esboniwr i mewn, ar gyfrif ei oedran, ei barchusrwydd, a'i ddefnyddioldeb. Ac y mae yn anmhosibl pwysleisio gormod ar y ffaith mai goddefol yn benaf a fu y Gymdeithasfa ar y mater. Dylid cofio hefyd fod pwys mawr yn cael ei roddi y pryd hwnw ar uniongrededd, fod cyfeiliornad mewn barn. ar brif bynciau yr efengyl yn cael ei ystyried yn waeth na chyfeiliornad mewn buchedd. Talai ein tadau warogaeth i wirionedd; credent fod y ffydd a rodded unwaith i'r saint yn werth dyoddef o'i phlegyd, ac yn teilyngu aberthu cyfeillgarwch, a theimlad personol er ei mwyn. Pwy a faidd ddweyd nad hwy oedd yn eu lle? Ai nid yw llawer o'r rhyddfrydigrwydd, a'r goddefgarwch, am yr hyn bethau y molir yr oes bresenol, pan fyddo syniadau amheus yn cael eu traethu, yn codi o ddifaterwch, ac o ddiffyg teyrngarwch dwfn o'r gwirionedd? Anhawdd peidio tosturio wrth Peter Williams, pan y gwelwn ef yn ei henaint yn cael ei alltudio o fysg ei frodyr a'i gyfeillion, a hyny am amddiffyn yr hyn a ystyriai ef yn wir athrawiaeth. Yr oedd y Gymdeithasfa hefyd yn wrthddrych tosturi, oblegyd yr oedd llygaid llawer o'r aelodau yn llawn dagrau wrth ei weled yn cael ei fwrw allan. Meddai Methodistiaeth Cymru: "Os gwnaed cam ag ef, o gamsynied y bu hyny, ac nid o fwriad; os bwriwyd ef allan gyda gormod ffrwst a haerllugrwydd, fe wnaed hyny mewn poethder dadl, ac oddiar syfrdandod yr ymryson." Y mae yn dra sicr genym, oddiar ein hadnabyddiaeth o brif ddynion y Methodistiaid ar y pryd, mai goddefol a fuont yn y cam, os cam hefyd; ac na fuasent yn oddefol oni bai fod cymysgedd syniadau yr Esboniwr yn peri iddynt. betruso.
Trychinebus iawn i Peter Williams a fu ei ddiarddeliad gan y Methodistiaid, oblegyd nid yn unig cauwyd capelau yr enwad rhag iddo gael pregethu ynddynt, ac anghefnogwyd yr aelodau i fyned i'w wrando; eithr trwy hyny, rhwystrwyd gwerthiant y Beibl bychan a ddygodd allan, neu Feibl Canne. Ymosoda ei fywgraffydd, Owen Williams, Waunfawr, yn enbyd ar y Methodistiaid o'r herwydd, gan eu cyhuddo o dori amod ag ef. Yn y