hyn a geir yn y llythyr parthed capel Heol-y-dwr, a'r adroddiad a roddwyd i'r diweddar Barch. J. Wyndham Lewis gan un o flaenoriaid y lle, sef ddarfod i Peter Williams osod adran i mewn yn ei ewyllys, fod y Methodistiaid i gael y capel, ar yr amod iddynt dalu tri chant o bunau i'w ymddiriedolwyr ef. Modd bynag, naill ai yn ol yr ewyllys, neu ynte trwy gytundeb a'r meibion, cafodd y capel ei werthu i'r Methodistiaid am dri chant o bunau, yn y flwyddyn 1797. Yr oedd yr ymddiriedolwyr cyntaf yn gynwysedig o dri offeiriad, sef y Parchn. Jones, Llangan, Griffiths, Nevern, Davies, Abernant; a thri lleygwr, sef Mri. D. Charles, W. Lloyd, Henllan, a J. Bowen, Tygwyn, Llangunnor.
Dydd Llun, Awst 8, 1796, bu farw Peter Williams, yn 76 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Llandyfeilog. A ganlyn yw ei feddargraff: "Yma y gorwedd gweddillion y Parchedig Peter Williams, yn ddiweddar o'r Gellilednais, yn y plwyf hwn. Cysegrodd ei holl fywyd er dyrchafu ei gydwladwyr, yn dymhorol ac yn ysprydol. I'r amcan hwn, cyhoeddodd dri argraffiad o'r Beibl pedwar plyg yn Gymraeg, gyda sylwadau ar bob penod. Cyhoeddodd hefyd argraffiad o Feibl wyth-plyg, a Mynegair Cymraeg, yn nghyd â nifer o draethodau bychain, gan mwyaf yn Gymraeg; am hyn oll, gellir dywedyd yn gywir na dderbyniodd ond anniolchgarwch ac erledigaeth. Parhaodd i lafurio gyda ffyddlondeb a diwydrwydd fel gweinidog yr efengyl am 53 mlynedd; a bu farw, yn gorfoleddu yn Nuw ei Iachawdwr, Awst 8, 1796, yn 76 mlwydd oed. Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dyoddefaswn; nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; eithr chwi, y rhai oedd felus genym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dy Dduw yn nghyd.'" Diau mai y meibion oedd yn gyfrifol am y beddargraff, a naturiol iddynt oedd cydymdeimlo a'u tad; ond trueni iddynt wneyd mynwent a chareg bedd yn gyfleustra i arllwys allan chwerwder eu hyspryd.
Dywedir yn Methodistiaeth Cymru na ddarfu i fwriad allan Peter Williams effeithio cymaint ar y Cyfundeb ag a allesid ddysgwyl; ac na fu nemawr ymadawiad oddiwrth y Corph o'r herwydd yn un man, er fod teimlad o dosturi ato, a pharch iddo yn gryf yn meddyliau pawb a'i hadwaenai. Diau fod hyn, ar y cyfan, yn gywir. Ac eto, mor bell ag y gallwn ddeall, teimlai y werin, nad oedd yn alluog i ddeall manylion yr ymdrafodaeth, ddarfod i'r hen Esboniwr gael ei drin yn galed. Dyna fel y teimlai llu o'r Methodistiaid, er na ddarfu iddynt fyned mor bell a gadael y Cyfundeb o'r herwydd. Eithr bu un ymadawiad cymharol bwysig yn Mro Morganwg, dan arweiniad Thomas Williams, gwedi hyny, y Parch. Thomas Williams, Bethesda-y-Fro.[1]
Haedda y gŵr hwn air o sylw. Cafodd ei enw[2] mewn amaethdy, o'r enw Trerhedin, yn mhlwyf Pendeulwyn, nid yn nepell o'r Bontfaen, Morganwg. Amaethwr oedd ei dad, ac yr oedd yn gefnog o ran ei amgylchiadau. Yr oedd yn feddylgar a dwys er yn blentyn, a phan yn ddeg oed, ymunodd a'r seiat Fethodistaidd yn Nhrehill. Bu bron cael ei ddigaloni wrth ymuno a'r seiat, am, pan y methai ateb rhyw ofyniad, i arweinydd y cyfarfod, meddir, gynyg ei fod i gael ei anfon allan hyd nes y dysgai ei wers yn well. Eithr ar gynydd yr aeth Thomas Williams. Dechreuodd fynychu y cyfarfodydd gweddi, a'r seiadau, ac ni ystyrid fod unrhyw gyfarfod o'r fath yn Mro Morganwg yn llawn heb ei fod ef yno. Nid annhebyg yr ystyrid ef yn fath o gynghorwr, er nad oes genym wybodaeth ddarfod iddo gael ei gydnabod felly gan Gyfarfod Misol. Yn y flwyddyn 1790, mewn canlyniad i'w briodas, aeth i fyw i Ffonmon, yn mhlwyf Penmarc, a thebygol mai yn Aberddawen yr oedd yn aelod. Cydymdeimlai yn ddwfn â golygiadau Peter Williams; a oedd amryw o'r un syniadau yn seiat Aberddawen, nis gwyddom; ond, bron o'r dechreuad, yr oedd plaid gref yn yr Aberthyn yn tueddu at Sabeliaeth. Pan ddiarddelwyd Peter Williams, darfu i Thomas Williams, a'r rhai yn seiadau y Fro a ymsynient yn gyffelyb, droi eu cefnau ar y Methodistiaid, ac ymffurfio yn blaid ar wahan. Cyfarfyddent i addoli mewn tri o wahanol leoedd, sef tỷ Thomas Williams, yn Penmarc; tỷ ardrethol yn yr Aberthyn, a thŷ arall yn y Brittwn. Buont am rai blynyddoedd heb neb i weinyddu yr ordinhadau iddynt; eithr yn y flwyddyn 1789, dewisasant Thomas Williams yn weinidog, gan ei neillduo i'r gwaith trwy gyfodiad dwylaw yr henuriaid, yn nghyd ag ympryd a gweddi. Ysgrifenydd yr eglwysi oedd John Williams, St. Athan,