Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/494

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bardd o radd uchel, ac awdwr y penillion adnabyddus:

"Pwy welaf o Edom yn dod?"

Fel y darfu i ni sylwi, yr oedd Thomas Williams yn edmygydd diderfyn o'r hen Esboniwr; llosgai ei galon ynddo wrth weled y gamwri, yn ei dyb ef, a gaffai gan y Methodistiaid, a phan y bu Peter Williams farw, cyfansoddodd alarnad iddo, yn yr hon y fflangella ei wrthwynebwyr yn llym. Cymerer y penillion a ganlyn yn engrhaifft:

"Dacw ych o lawr y dyrnu,
Wedi myned eto i'r lan;
Hir ddydd gwresog iawn y gweithiodd,
Heddyw safodd yn ei ran;
Fe fu'n nod i saethau lawer,
Darfu hyny, fe aeth trwy,
Ni ddaw rhagfarn nac anghariad
Byth i'r lle mae'n aros mwy.

Peter, mae llyth'renau d'enw
Yn creu hiraeth dan fy mron;
Dyn a gerais, dyn a'm carodd,
Meddwl dy fod dan y don;
Anwyl oeddem yn ein bywyd,
Cu iawn genyf oeddit ti,
A thu hwnt i gariad gwragedd
Oedd dy gariad ataf fi.

Fe chwedleuodd yn dy erbyn
Ddynion rai o ddoniau mawr,
Dynion eraill isel raddau
Geisiodd dynu d'enw lawr;
Ti ge'st wawd oddiwrth bob enw,
Ti ge'st wawd oddiwrth bob dawn,
Plant dy fam edrychent arnat
Megys estron dyeithr iawn.

Ca'dd ei guro, nid mewn cariad,
Gan y cyfiawn is y nen;
Waith eu holew penaf dorodd
Glwyfau dyfnion ar ei ben;
Ond mae'r clwyfau dyfnion hyny,
Heddyw'n holliach yn y nef,
Ga'dd e'n nhy ei garedigion,
Yn mhrydnawn ei fywyd ef.

Cymryd og i ddyrnu ffacbys
Wnaeth dy frodyr (gwyro 'mhell),
Troisant olwyn men ar gwmin,
Pan oedd gwiail lawer gwell;
Geiriau llym fel brath cleddyfau,
Leflwyd atat heb un rhi',
Saethau tân ac arfau marwol
Gym'rwyd i'th geryddu di.

Am wrthod credo Athanasius,
Fel gwnaeth gwyr o ddoniau maith:
Fe siglwyd urn yr hen Sabelius
Yn dy wyneb lawer gwaith;
Cyffes ffydd, a llunio credo,
Gwneyd articlau mawr eu clod,
Magu 'mryson, rhanu eglwysi,
Fu effeithiau rhai'n erioed.

Tithau gym'raist aden c'lomen,
Est o'u swn yn ddigon pell,
Draw i'r dymhestl a'r gwynt 'stormus,
I ardaloedd llawer gwell;
Lle mae myrdd o rai lluddedig,
Fu mewn carchar, fu mewn tân,
Yno'n gorphwys wedi gorphen
Eu cystuddiau mawr yn lân."


Teimlir serch yn treiddio trwy bob llinell o'r alargan, a bu am beth amser yn dra phoblogaidd. Nis gwyddai a amcanai Thomas Williams, a'r rhai a gydymdeimlent ag ef, ffurfio yn blaid wahaniaethol; os gwnaent, trodd yr ymgais allan yn fethiant. Yn mhen amser, ymgydnabyddodd a'r Annibynwyr; ac yn y flwyddyn 1814, derbyniwyd ef, a'r rhai a lynent wrtho, i'r undeb Annibynol holwyd rhywbeth iddynt am eu golygiadau athrawiaethol, nis gwyddom. Yr oeddynt cyn hyn wedi gadael y Brittwn, ac ymsefydlu yn Bethesda-y-Fro. Yr oedd Thomas Williams yn bregethwr o'r melusaf; tuag ugain mynyd, meddir, oedd hyd ei bregeth; ac am y pum' mynyd olaf, byddai yr holl gynulleidfa ar ei thraed fel gallt o goed, gan faint y dylanwad. Ond ni fu yn llwyddianus o gwbl, fel y profa y penillion canlynol, a gyfansoddwyd ganddo gwedi llafur gweinidogaethol o dros ddeng-mlynedd-ar-hugain:

"Deg-ar-hugain o flynyddau,
Bum yn hau trwy hyd y rhai'n,
Syrthio wnaeth yr had gan mwyaf,
Wrth y ffordd, y graig, a'r drain;
Mewn tir da ni syrthiodd nemawr,
Nemawr iawn—fe syrthiodd peth,
Gwlith y nef aroso arno,
Fel nad elo byth ar feth.

O Bethesda anniolchgar,
Ac anghofus iawn o Dduw,
Wedi hau, a hau drachefn,
Braidd eginyn sydd yn fyw;
Mae'r hen frodyr, ond rhyw 'chydig,
Wedi myned draw i dre,
Ac nid oes arwyddion nemawr
Am rai eraill yn eu lle.

O na ddoi rhyw un o'r Gogledd,
Neu o'r Dwyrain, ynte'r Dê,
O'r Gorllewin, neu o rywle,
Ni waeth genyf ddim o b'le;
Ond i'r nefoedd fawr ei anfon,
Heb ei anfon, thal ef ddim,
I Bethesda i bregethu
Gair y bywyd yn ei rym."


Cwestiwn dyddorol ydyw; ydyw; sut y bu gweinidogaeth gŵr, a feddai y fath dalentau dysglaer, mor aflwyddianus? Priodola Dr. Thomas Rees yr aflwyddiant i waith Thomas Williams yn gweinidogaethu i bobl ei ofal yn rhad; a dywed fod eglwys heb gyfranu yn gymaint rhwystr. Diau i lwyddiant ag eglwys ddi weddi. fod rhyw gymaint o wirionedd yn hyn; efallai hefyd fod rhesymau eraill, nas