Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/497

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XIX.
DAVID JONES, LLANGAN.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Jones, Llan-gan
ar Wicipedia

Sylfaenwyr ac arweinyddion cyntaf y Methodistiaid–Jones heb fod yn un o honynt–Ei gydoeswyr a'i gyfoedion–Hanes ei enedigaeth a'i ieuenctyd Yn cyfarfod a damwain–Ei addysg a'i urddiad i Lanafan-fawr–Symud i Dydweiliog –Dyfod i gyffyrddiad a Dr. Read yn Trefethin, ac yn cael ei gyfnewid trwy ras– yn cael bywioliaeth Llangan, drwy ddylanwad Iarlles Huntington, Sefyllfa foesol a chrefyddol y plwyf–Ei gydweithwyr yn Morganwg–Desgrifiad o Sul y Cymun yn Llangan–Yn pregethu mewn lleoedd annghysegredig–Yn adeiladu Capel Salem–Marwolaeth a chladdedigaeth ei wraig–Yn gosod i lawr ddrwg arferion yr ardal–Achwyn arno with yr esgob–Ei lafur yn mysg y Saeson–Ei allu i gasglu arian at gapelau–Ei lafur yn mysg y Cymru–Yn cyfarfod ag erledigaethau ac yn eu gorchfygu–Ei boblogrwydd fel pregethwr–Annas yn dyfod o Sir Fôn i geisio cyhoeddiad ganddo–Yn efengylydd yn hytrach nag yn arweinydd–Penillion Thomas Williams, Bethesda-y-Fro–Desgrifiad Williams, Pantycelyn; Robert Jones, Rhoslan: a Christmas Evans, o hono–Ei ail briodas, a'i symudiad i Manorowen–Yn dyfod o fewn cylch mwy eglwysig–Yn heneiddio ac yn llesghau—Diwedd ei oes.

ARWEINYDDION cyntaf y Methodistiaid yn Nghymru oeddynt Daniel Rowland, Howell Harris, Howell Davies, William Williams, a Peter Williams. Ffurfiant ddosbarth ar eu penau eu hunain. Gwir mai i'r tri cyntaf yn unig y perthyn yr anrhydedd of osod y sylfaen i lawr; ond darfu i'r ddau Williams ymuno â hwy mor foreu, fel mai o'r braidd y gellir edrych arnynt ar wahan i'r sylfaenwyr. Ymunodd y Bardd â hwy o fewn pum' mlynedd i'r dechreuad, a gwnaeth yr Esboniwr ei ddilyn o fewn pum' mlynedd arall. Ac yr oedd doniau y ddau mor nodedig, a'u hymroddiad i waith y diwygiad mor llwyr, fel y daethant i'r cyfryw agosrwydd i'r sylfaenwyr, ag sydd yn gwneuthur y gorchwyl diraid. o'i gwahanu, yn bur anhawdd. Ni raid petruso ystyried y pump gwŷr enwog hyn fel yn ffurfio arweinyddion cyntaf y Methodistiaid Cymreig. Llanwyd hwy oll a'r un yspryd gweithgar a hunan-aberthol, ac yr oedd pob un o honynt yn meddu ar alluoedd a doniau ag a esid arbenigrwydd arno hyd y dydd hwn.

Nid ydoedd David Jones, o Langan, o fewn y cylch cysegredig yma, ac nid oedd yn ddichonadwy iddo fod. Yn y flwyddyn. 1735, blwyddyn dechreuad Methodistiaeth Cymru, y ganed ef. Yn wir, nid yw ei lafur ef yn nglyn a'r diwygiad Cymreig yn dechreu hyd ei ddyfodiad i Langan, yn 1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.

Darfu i'r diwygiad ymdaenu dros yr holl wlad, ac ymwreiddio yn y tir, yn mhell cyn iddo ef ymddangos ar y maes. Aethai cenhedlaeth gyfan heibio, ac yr oedd dyddiau dau o'r tri Sylfaenydd yn prysur ddirwyn i ben, pan y dechreuodd efe ar ei yrfa weinidogaethol gyda'r Methodistiaid. Canys bu farw Howell Davies yn mhen dwy flynedd wedi dyfod David Jones i Langan; ac yn mhen tair blynedd eilwaith, yr oedd yr hynodol Howell Harris. wedi croesi yr Iorddonen. Gwelir felly fod David Jones yn un ag oedd yn ffurfio megys ail ddosbarth o bregethwyr ac arweinyddion y diwygiad―ail o ran amseriad a feddyliwn, ac yn perthyn i'r ail dô o'n gweinidogion. Cafodd y fraint o gydoesi a chydlafurio â Daniel Rowland, a'r ddau Williams am flynyddau meithion, ond nid oedd efe yn gyfoed a hwynt hwy. Pan y goddiweddwyd hwy gan henaint, yr oedd efe yn gymharol ieuanc; a bu yn llafurio yn y winllan am o gylch ugain o flynyddoedd wedi iddynt hwy oll fyned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Cyfoedion David. Jones oeddynt John Evans, o'r Bala; William Davies, Castellnedd; David Griffith, Nevern, David Morris, Twrgwyn; a William Llwyd, o Gaio; er fod cryn wahaniaeth oedran rhwng yr hynaf a'r ieu-