Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/498

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angaf o'r rhai hyn. Yr oedd y ddau gyntaf a enwyd yn hyn na David Jones; a'r lleill yn ieuangach nag efe. O ran amseriad, gellir ystyried David Jones yn ddolen gydiol rhwng Daniel Rowland, Llangeitho, a Thomas Charles, o'r Bala; canys yr oedd efe ugain mlynedd yn ieuangach na'r naill, a chynifer o flynyddoedd yn hŷn na'r llall.

Cyfleus ddigon fyddai fod genym raniad ar hanes y Cyfundeb i gyfnodau, fel y gallem weled ar darawiad safle amseryddol bywyd ein prif weinidogion, yn nghyd â phrif symudiadau y Methodistiaid. Yinestyna ein hanes, bellach, dros fwy na chant-a-haner o flynyddau, amser rhy faith i fanylu arno, heb ei ddosparthu i gyfnodau. Dichon mai anhawdd fyddai cael rhaniad boddhaol arno. Hwyrach, er hyny, fod yr hyn a wnaed gan y Cyfundeb yn y flwyddyn 1893, sef dathliad Juwbili, eisioes wedi gwneyd bras-raniad arno. Os gwneir yn y dyfodol, fel y gwnaed yn y flwyddyn hono, bydd y Juwbili ei hun yn dosparthu ein hanes i gyfnodau o haner cant o flynyddoedd bob un, gan ddechreu cyfrif gyda chorphoriad y Cyfundeb yn Nghymdeithasfa Watford, yn 1743, ac ystyried yr wyth mlynedd cyn hyny fel cyfnod byr o gychwyn a pharotoad, er mai blynyddoedd deheulaw y Goruchaf oeddynt, ac i waith mawr gael ei wneyd ynddynt. Arweinir ni i wneyd y sylwadau hyn yn y fan hon gan y ffaith fod, efallai, mwy o gamgymeriad yn nghylch amseriad gweinidogaeth Jones, o Langan, na nemawr un o'n prif weinidogion. O bosibl fod rheswm, heblaw diffyg rhaniad ar ein hanes, am hyn. Y mae ysgrifenwyr, yn ddieithriad, mor bell ag y gwyddom, pan yn traethu ar enwogion y pwlpud Cymreig, yn y cyfnod Methodistaidd, yn cysylltu enw David Jones â Daniel Rowland a Howell Harris. Fynychaf, os nad bob amser, efe yw y cyntaf a enwir ar eu holau hwy. Felly y gwna y diweddar Barch. Dr. Owen Thomas, pan yn traethu arnynt yn ei gofiant ardderchog i'r Parch. John Jones, o Dalysarn; ond dylid cadw mewn cof, y rhoddir y lle parchus yma iddo am ei enwogrwydd fel pregethwr, ac nid oddiar ystyriaeth amseryddol. Gwedi ceisio cywiro y syniad cyfeiliornus hwn, awn bellach at brif ffeithiau ei fywyd.

Y mae hanes boreuol David Jones yn anhysbys. Yn wahanol i Howell Harris Peter Williams, ni ddarfu iddo ef ysgrifenu dim o'i hanes ei hun; ac yn anffodus, oedwyd ysgrifenu cofiant iddo am 31 o flynyddau wedi iddo farw. Erbyn hyny, yr oedd llawer o hysbysrwydd yn ei gylch wedi ei golli yn anadferadwy. Yn y flwyddyn 1841 y cyhoeddwyd y cofiant hwnw iddo gan y Parch. E. Morgan, M.A., Syston, gŵr a ysgrifenodd goffadwriaeth i amryw o'r enwogion Methodistaidd. Yr oedd Mr. Morgan yn enedigol o'r Pil, lle heb fod yn nepell o Langan, ac yr oedd yn adwaen y gweinidog yn y cnawd, ac mewn perffaith gydymdeimlad ag efe, ac felly yn meddu cymhwysder at y gwaith â pha un yr ymgymerodd.

Ganwyd David Jones mewn amaethdy, o'r enw Aberceiliog, yn mhlwyf Llanllueni, yn Sir Gaerfyrddin, ar lan yr afon Teifi. Cymerodd hyn le yn 1735. Ni chofnodir enwau ei rieni, ond y mae yn amlwg eu bod yn bobl gysurus eu hamgylchiadau, gan y bwriadent ddwyn un o'u plant i fynu yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd iddynt ddau fab ac un ferch. Bwriad y tad oedd gosod y mab hynaf yn offeiriad, ac i Dafydd fod, fel ei dad, yn ffarmwr. Ond nid hyn oedd trefniad y nefoedd, ac amlygwyd hyny mewn ffordd bur ryfedd a blin. Pan yr oedd Dafydd yn blentyn ieuanc iawn, syrthiodd i bair llawn o laeth berwedig, a bu agos iddo gael ei ysgaldio i farwolaeth. Bu yn hir heb wellhau, a pharhaodd am amser maith yn wanaidd ac afiach. Yn mhen enyd, daeth y tad i weled fod ei gynllun wedi ei ddyrysu, fod Dafydd bellach wedi ei anghymwyso at waith y tyddyn, er, hwyrach y gellid gwneyd offeiriad o hono. Penderfynodd wneyd y goreu dan yr amgylchiadau, a chafodd Dafydd fyned i'r Eglwys, a'r mab hynaf i drin y tir. Arferai David Jones ddweyd mewn blynyddoedd gwedi hyn, mewn cyfeiriad at yr amgylchiad hwn: "Yr wyf yn cario nodau ac achos fy ngalwedigaeth ar fy nghefn; oblegyd dygodd greithiau y ddamwain enbyd ar ei gefn i'w fedd. Y mae dywediad o'i eiddo pan yn ieuanc, ag sydd yn lled arwyddo fod rhyw gymaint o addysg grefyddol yn y teulu; digon, beth bynag, i alluogi Dafydd i wneyd defnydd tra tharawiadol o'r Ysgrythyr lân. Un diwrnod, yn hir ar ol y ddamwain, ond cyn i'r plentyn wellhau oddi wrth ei heffeithiau, efe a ymwthiai yn llesg at ei fam. Hithau a'i gwthiodd i ffwrdd, gan ddweyd, o bosibl, yn chwar-