Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/501

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Methodistaidd, a'i weithgarwch efengylaidd, a dynodd arno ddialedd y clerigwyr cnawdol, dyna hefyd a enillodd iddo ffafr yr Iarlles Huntington, y foneddiges fwyaf Fethodistaidd ag y mae hanes am dani. Ond pe na bai genym lawn sicrwydd yn nghylch yr adeg y daeth yn Fethodist, y mae ei weithredoedd a'i eiriau yn profi iddo ddyfod yn fore i arddel yr enw, fel y gwelir yn y difyniad canlynol, a ysgrifenwyd ganddo yn y cofiant a wnaeth efe i Christopher Basset. Fel yma y dywed:—Galwyd fy ardderchog frawd (Basset) yn Fethodist; enw o bwys, yn ddiamheu, o bwys, yn ddiamheu, canys o le dysgedig iawn y tarddodd ar y dechreu, nid llai lle na Rhydychain fawr ei hun, ac fel y bydd y lle, felly y bydd y ffrwyth. Ni chedwais dymhor (term) yno erioed, eto, er hyn, fe welwyd fy nghymhwysiadau mor fawr fel y sefydlwyd y radd yma, doed fel y dêl, arnaf finau, er fy mod yn amddifad o eraill. Fy meddwl yw hyn am y gair, mai siart (charter) gogoneddus ydyw, a lithrodd yn ddiarwybod o blith y doctoriaid yno, i bob offeiriad ag sydd yn sefyll yn gydwybodol at burdeb articlau Eglwys Loegr. Enw mor fawr, gan y rhai sydd yn caru y rhoddwyr, fel yr wyf yn barod i'w ddymuno ar fy arch (coffin), ac os pydra yno, gadewch iddo, fe gymer y diafol ofal i anrhydeddu pobl Dduw â rhyw enw newydd eto, fel y mae yr enw Methodist yn awr yn barod i foddi y Pengryniaid a'r Cradogiaid hefyd." Dyma arddeliad diamwys o Fethodistiaeth yn ymadroddion David Jones ei hun, ac y mae yn cydgordio yn hollol a'r bywyd a dreuliodd efe.

MYNWENT EGLWYS LLANGAN.
[Yn dangos y Groes a adeiladwyd ynddi yn y ddeuddegfed ganrif.]


Er hyn oll, yr oedd ei ddyfodiad i Langan yn dechreu cyfnod newydd yn ei hanes, canys yno y cafodd ei hun gyntaf yn wr rhydd. Yr oedd bellach wedi dianc oddi tan orthrwm y personiaid, ac wedi cael llywodraeth eglwysig plwyf bychan mewn sir boblog iawn; ac yn awr, yn arbenig, y dechreuodd ei lafur y tuallan i'w blwyf ei hun.

Ceisiwn, yn awr, gymeryd bras-olwg ar ystad crefydd yn mhlith y Methodistiaid, yn Sir Forganwg, pan y daeth David Jones i Langan. Yr ydym yn y penodau blaenorol, yn enwedig yn nglyn â hanes Howell Harris, wedi dangos fod llawer o lafur wedi ei gymeryd i efengyleiddio Sir Forganwg yn dra bore, a bod llwyddiant mawr wedi canlyn y llafur a wnaed. Nis bwriadwn helaethu ar hyn yn bresenol, dim ond braidd ddigon i gael golwg glir ar gysylltiadau yr hanes. Yr oedd seiadau wedi eu sefydlu yn Morganwg, yn gystal a siroedd eraill y Deheudir, o fewn wyth mlynedd gyntaf y diwygiad, ac erbyn Cymdeithasfa Watford yr oedd eglwys y Groeswen wrth y gorchwyl o adeiladu.