amser David Jones, nis gallasent hwy lwyr osod i lawr ofer arferion y werin bobl yn nghymydogaeth Llangan. Yr ydym yn cael fod gwylmabsantau yn y wlad mor ddiweddar a'i amser ef. Yn mhlith manau eraill, cynhelid un bob blwyddyn yn Llanbedr-ar-fynydd, lle oddeutu pum' milltir i'r gogledd o Langan. Hwn ydoedd prif "fabsant" y wlad. Yma yr ymgynullai canoedd o ieuenctyd Morganwg i yfed, meddwi, dawnsio, ymladd, a phob annuwioldeb. A dydd yr Arglwydd ydoedd prif ddiwrnod yr wyl felldigedig hon. Penderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i osod terfyn ar y cynulliad pechadurus. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn ei herbyn yn Llangan, ond nid oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon. Ar un Sabbath, aeth yno ei hun, a phregethodd Grist croeshoeliedig iddynt. Llwyddodd yn ei amcan, a bu yn myned i'r un lle i gynal math o gymanfa ar ddyddiau y mabsant am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Gwthiodd Duw y gelyn o flaen y pregethwr ar y cynyg cyntaf, a mynodd yntau ei lwyr ddifetha ef.
Cawn iddo unwaith wrth ddychwelyd adref, wedi bod yn pregethu, daro wrth haid o oferwyr oeddynt wedi ymgynull er mwyn y difyrwch creulawn o ymladd ceiliogod. Trodd atynt, a chyfarchodd hwy yn garedig, gan ddweyd: "Y mae genyf fi newyddion da rhyfeddol i chwi, bobl fach, os byddwch mor fwyned a gwrandaw; cewch fyned yn y blaen a'ch gwaith wedi hyny, os byddwch yn dewis." Wedi eu gorchfygu gan diriondeb, dywedasant y cai wneyd fel y carai. Ar hyn, dechreuodd ddweyd wrthynt am fater eu heneidiau, am gariad y Gwaredwr, a disgynodd nerth Duw gyda'r siarad. Tarawyd yr ofer-ddynion â syndod, ac aethant i'w cartrefleoedd heb gyflawni yr hyn a fwriadent wneyd.
Gŵr boneddigaidd o ymddygiad, addfwyn o yspryd, a rhyfeddol dirion yn ei ymwneyd â dynion oedd efe, ac eto cafodd ei ran o erlidiau. Cawn ddarfod i rywun daro y Beibl o'i law pan yn pregethu mewn man yn Ngogledd Cymru. Yr unig sylw a wnaeth ar y weithred anfoneddigaidd ydoedd: "Och! druan, ti a darewaist dy farnwr!" Pan yn pregethu yn Machynlleth, ymgasglodd torf o elynion o'i gwmpas, gan gipio y Gair sanctaidd o'i ddwylaw, a'i anmharchu. Dywedasant wrtho na wnaent iddo niwed, os gwnai addaw peidio dyfod yno i bregethu byth mwyach. "O na,' ebai yntau, "nis gallaf wneyd hyny, nid oes yr un addewid yn perthyn i chwi nac i'ch tad." Dyoddefodd erledigaeth oddi ar law boneddwyr a phersoniaid y gymydogaeth yr oedd yn byw ynddi. Anfonwyd achwyniadau at yr esgob, ei fod yn pregethu heb lyfr, ei fod yn tynu pobl o blwyfau eraill i'w wrandaw yn Llangan a lleoedd eraill, a'i fod yn euog o bob math o afreolaeth. Darfu i'r esgob gau ei glustiau i'r cwynion hyn hyd y gallai, ond gorfodwyd ef o'r diwedd i'w alw i gyfrif. Cyfarchodd ef, gan ddweyd: "Y mae yn ddrwg genyf, Mr. Jones, fod achwyniadau yn eich erbyn; cyhuddir chwi o bregethu mewn lleoedd annghysegredig." "Naddo, erioed, fy arglwydd," meddai yntau; "pan y rhoddes Mab Mair ei droed ar y ddaear, darfu iddo gysegru pob modfedd o honi; oni buasai hyny, yr wyf yn ofni na wnai unrhyw gysegriad o eiddo eich arglwyddiaeth ddaioni yn y byd." Ar ol ychydig eiriau cariadus, ymadawsant, ac aeth Mr. Jones yn mlaen fel cynt. Dr. Barrington oedd yr esgob y pryd hwn, ac yr oedd efe yn gefnogol, neu o leiaf, nid oedd yn an-