Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/514

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diweddar Dr. Owen Thomas. Dywed: "Fel pregethwr, y mae yn ddiamheuol ei fod yn un hynod iawn. Cyfrifid ef y mwyaf toddedig o'r holl hen dadau. Nid oedd neb yn gyffelyb iddo yn hyny, ond Mr. Evan Richardson, o Gaernarfon. Efengylwr yn arbenig ydoedd. Nid oedd dim o'r gwynt nerthol yn rhuthro' yn ei weinidogaeth ef; ond y deheuwynt' tyner 'yn chwythu ar yr ardd,' ac yn peri iddi 'wasgar ei pheraroglau.' Yr ydym yn cofio clywed ein hanwyl hen fam yn dywedyd am dano, ei fod yr un fath yn gwbl a'r adnod hono: Fy athrawiaeth a ddefnyna fel gwlaw; fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.' ydym yn cofio clywed y diweddar Mr. Michael Roberts, o Bwllheli, yn dywedyd wrthym am y tro cyntaf iddo ef, pan yn fachgen pedair-ar-ddeg oed, fyned i Gymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1794, fod Mr. Jones yn pregethu yno gyda'r fath hwyl ac effeithiau, nes oedd yr holl gynulleidfa yn foddfa o ddagrau; a lliaws, yn methu ymatal, wedi tori i orfoledd mawr.

'Yr oeddwn yn edrych arno,' meddai, 'fel pe buasai yn angel Duw. Yr oedd yn ymadael ar ol odfa y boreu, ac yr oeddwn i wedi myned at dŷ Mr. Charles i'w weled yn myned ymaith; ac yr wyf yn cofio yn dda fod Mr. Charles yn dyfod allan o'r tŷ gydag ef; a phan yn ysgwyd llaw wrth ffarwelio, a'r dagrau yn treiglo dros ei ruddiau, yn dywedyd wrtho: Brysiwch yma eto, da chwi, Mr. Jones bach, gael i ni gael ein bedyddio a'ch gweinidogaeth.'"

Treuliodd Mr. Jones yr un-mlynedd-ar-bymtheg diweddaf o'i fywyd yn Manorowen, lle o fewn dwy filltir i Abergwaun, yn Sir Benfro. Achlysurwyd y symudiad hwn gan briodas a gymerodd le rhyngddo ef a Mrs. Parry, gweddw gyfrifol a pharchus a drigianai yno. Yr oedd y foneddiges hon yn chwaer i Mr. Gwynne, o Kilkifeth, gŵr cyfoethog, yn hânu o deulu cyfrifol yn yr ardal, yr hwn oedd yn berchenog amryw o ffermydd, ac yn trin y tir lle yr oedd yn byw arno. Ystyrid fod ei chwaer, Mrs. Parry, hefyd, mewn amgylchiadau tra chysurus. Teulu caredig a chymwynasgar i'r Methodistiaid a fu teulu Kilkifeth drwy y blynyddoedd, at buont yn dal côr yn nghapel Abergwaun am flynyddau lawer. Wedi marwolaeth ei gwr, yr oedd Mrs. Parry yn cyfaneddu yn mhalasdy Manorowen, ac yn amser ei hunigrwydd, yr oedd Miss Gwynne, merch

ei brawd, yn byw gyda hi. Y foneddiges ieuanc hon a ddaeth mewn amser ar ol hyn yn wraig i'r Parch. Thomas Richards, Abergwaun. Mae pob lle i gredu i briodas Mr. Jones â Mrs. Parry, o Manorowen, fod yn fanteisiol iawn iddo yn niwedd ei ddydd, ac yn ychwanegiad mawr at ei gysuron. [1]Adrodda Mr. Morgan, Syston, hanesyn difyr iawn am dano a ddygwyddodd yn fuan wedi ei ail briodas. Pan yr oedd ar gychwyn ar daith bregethwrol, cafodd Mr. Jones fod ceffyl golygus iawn yn ei aros. Aeth ar gefn yr anifail, ac wedi marchogaeth am beth amser, trodd i edrych o'i gwmpas, a gwelodd fod gwas mewn dillad smart iawn yn marchogaeth y tu ol iddo, yn ol arfer boneddigion. Dychwelodd yn union, gan orchymyn i'r gwas i aros. Pan gyrhaeddodd y tŷ, disgynodd, a gofynodd i Mrs. Jones: "Mary, paham y darfu i chwi ddanfon y bachgen acw i fy nganlyn i?" Yr ateb a gafodd oedd: "Am ei fod yn edrych yn respectable, Mr. Jones." "O!" ebe yntau, " y mae yn well i chwi adael hyny i mi. Yr wyf wedi teithio miloedd o filltiroedd ar wasanaeth fy Nhad Nefol, heb fod neb yn fy nghanlyn." " Yna, gofynodd iddi gyda gwên serchog: "Beth a ddywed fy nghyfeillion am beth fel hyn? Hwy gredant yn sicr ddigon fod yr hen Jones, o Langan, wedi myned yn falch. Na, gwell peidio bod yn rhodresgar. Mi ddanfonaf y bachgen yn ol i weithio ar y ffarm." Ac felly y bu. Parhaodd i ddal bywioliaeth Llangan hyd ddiwedd ei oes, er ei fod yn cartrefu yn Manorowen. Arferai dreulio tua thri mis yn yr haf yn Llangan, a phresenoli ei hun yn yr eglwys ar Sul y cymundeb, bob mis o'r flwyddyn, nes y daeth henaint a llesgedd i wasgu yn rhy drwm arno. Ac yr oedd Llangan yn agos at ei galon hyd y diwedd. Ysgrifena ar y 19eg o Ebrill, 1808, o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth: "O'r diwedd, yr wyf wedi cyrhaedd y sir hon, yn yr hon y mae fy mhrif hyfrydwch. O Langan! Bendigedig yr Arglwydd! Cafodd fy enaid yn aml wledda o'th fewn di! Mae fy nghyfeillion yn parhau yn eu caredigrwydd arferol tuag ataf, ac yr wyf yn berffaith ddedwydd yn eu cymdeithas hwy. Bellach, yr wyf yma er ys pump wythnos, ar ol gauaf cystuddiol iawn, yn Manorowen."

Bendith fawr i Benfro fu symudiad Mr. Jones yno. Yr oedd Nathaniel Rowland erbyn hyn wedi cymeryd gofal yr eglwysi

  1. Ministerial Records, iii. 154.