Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/515

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a blanwyd gan Howell Davies; ac yr oedd yn eu llywodraethu â gwialen haiarn. Ni wnai efe bregethu yn nghapel Abergwaun; yn y llan y pregethai yn wastad; a gweinyddai y sacramentau mewn tŷ anedd. Gorphwysai gwneyd felly yn fwy esmwyth ar ei gydwybod ef na gweinyddu y cymun sanctaidd yn y capel. Pan y ceisiwyd ganddo bregethu yn y capel, yn hytrach nag yn y llan, dywedodd yn bendant na wnai hyny byth, a chadwodd ei air. Ond yn mhen amser, dygodd Mr. Jones gyfnewidiad o amgylch. Cafodd ganiatad mewn Cymdeithasfa yn Llangeitho, yn y flwyddyn 1802, i weini yr ordinhadau yn nghapel Abergwaun, fel y gwnelid mewn capelau eraill yn flaenorol. Bu yn offerynol i estyn yr un fraint i eglwys Caerfyrddin, dan amgylchiadau pur neillduol a chyffrous. Darfu i Mr. David Charles, mewn Cymdeithasfa yn nhref Caerfyrddin, anturio gofyn am y fraint o gael gweinyddiad o Swper yr Arglwydd yn yr eglwys hono.

"Mae yr eglwys yn y lle hwn," ebe fe, "wedi gosod arnaf i ofyn drostynt, a gânt hwy y fraint o wneyd coffa am farwolaeth eu Prynwr?" I hyn yr atebodd Nathaniel Rowland yn dra awdurdodol: "Na chewch!—mae capel Llanlluan yn ddigon agos." Yr oedd tua deng milldir o ffordd i hwnw. Ond ni chymerodd David Charles yr ateb byr a thrahaus hwn fel un terfynol. "Unwaith eto," ebe fe, "yr wyf yn gofyn a gawn ni y fraint hon?" Yr ydym yn cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu, yn cael credu ynddo—a gawn ni gofio iddo farw drosom?" "Na chewch, yn y lle hwn," atebai Nathaniel Rowland, yr ail waith. "Nid i chwi yr archwyd i mi ofyn," ebe David Charles, "ond i'r Gymanfa." Ar hyn, methodd Jones, o Langan, ag ymatal, a gwaeddodd allan: "Cewch!" Yna, cyfarchodd Mr. Charles mewn ymadroddion cyfeillgar ac agos: "Pa bryd wyt ti am gael hyny, Deio bach? Mi ddof fi i'ch helpio chwi i gofio am dano." Ac felly y bu.

Nid oes lle i amheu fod Mr. Jones yn rhyfeddol o ymlyngar wrth y Methodistiaid hyd derfyn ei ddydd. Parhaodd yn offeiriad yn yr Eglwys hyd y diwedd, mae yn wir, ond yr oedd yn fwy o Fethodist nag ydoedd o Eglwyswr, a'i farnu yn deg wrth y bywyd a dreuliodd. Pan symudodd i Manorowen, daeth o fewn cylch dylanwad clerigwyr, ag oeddynt yn llawer mwy ymlyngar wrth yr Eglwys nag ydoedd efe ei

hun. Yr oedd David Griffiths, Nevern, a Nathaniel Rowland, yn llawer mwy cul nag efe. Tra yr oeddynt hwy yn ceisio gosod y Methodistiaid dan lawer o anghyfleusderau, yr oedd yntau wedi gweithredu yn wahanol dros ystod ei fywyd maith. Ond pobl o benderfyniad anhyblyg, ac o ewyllys gref, oedd offeiriaid Methodistaidd Sir Benfro, ac y mae yn ddigon posibl iddynt ddylanwadu yn niweidiol ar feddwl Mr. Jones. Nid ydym yn golygu yn y fan hon, i ddwyn i sylw y rhan a gymerodd efe yn nglyn ag ordeiniad gweinidogion; cawn gyfeirio at hyny eto.

Nis gellir dweyd fod Mr. Jones wedi cyfoethogi llawer ar lenyddiaeth ei wlad. Nid ystyriai efe ei hun yn llenor, ond yn yr ystyr ag y mae pob gweinidog ag sydd yn cyfansoddi ei bregethau ei hun felly. [1]Cyhoeddwyd ganddo, yn y flwyddyn 1784, gofiant i Mr. Christopher Basset, dan y teit: "Llythyr oddiwrth Dafydd ab Ioan, y Pererin, at Ioan ab Gwilym, y Prydydd, yn rhoddi byr hanes o fywyd a marwolaeth y Parchedig Mr. Christopher Basset, Athraw yn y Celfyddydau, o Aberddawen, Sir Forganwg. Argraffwyd yn Nhrefecca." Nid oes le i amheuaeth mai Jones, o Langan, oedd Dafydd ab Joan, y Pererin, ac mai Mr. John Williams, St. Athan, awdwr yr emyn adnabyddus:

'Pwy welaf o Edom yn dod," &c.

,

ydoedd Ioan ab Gwilym, y Prydydd. Cyhoeddwyd ei bregeth angladdol i'r Iarlles Huntington yn y flwyddyn 1791, a'r bregeth a draddododd yn Spa Fields Chapel ar ran y Gymdeithas Genhadol yn 1797. Y mae amryw dalfyriadau o'i bregethau wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolion mewn amseroedd diweddarach.

Yr ydym, bellach, yn dyfod at derfyn bywyd y gweinidog ffyddlawn hwn. Gallai arfer geiriau yr apostol: "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy nghyrfa, mi a gedwais y ffydd." Yn mlynyddoedd olaf ei fywyd, yr oedd ei iechyd wedi dirywio yn fawr, y babell bridd yn ymollwng, ond ai o gylch i bregethu cyhyd ag y medrai. Ymwelodd â Llundain o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth. Yn ystod ei afiechyd olaf, carai dreulio ychydig wythnosau yn ardaloedd Llangan, ei hen gartref. Y mae yn ysgrifenu oddi yno dri mis cyn ei farw: "Yr wyf yn gobeithio

  1. Llyfryddiaeth y Cymry, tudal. 618.