PENOD III
Y DIWYGIAD METHODISTAIDD YN LLOEGR
Nad deilliad o Fethodistiaeth Lloegr yw Methodistiaeth Cymru—Cychwyniad y symudiad yn Rhydychain—"y Clwb Sanctaidd"—John a Charles Wesley—John Cambold, y Cymro—Manylwch rheolau a hunanymwadiad aelodau y "Clwb Sanctaidd"—Y symudiad yn un Sacramentaraidd ac Ucheleglwysyddol—Dylanwad y Morafiaid ar John Wesley,—Wesley yn ymwrthod a Chalfiniaeth—Yr yymraniad rhwng Wesley a Whitefield—Y ddau yn cael eu cymodi trwy offerynoliaeth Howell Harris.
NID oedd un cysylltiad allanol a gweledig rhwng cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru a'r Diwygiad yn Lloegr. Nid gwreichion o'r tân oedd wedi dechreu cyneu yn Rhydychain a gafodd eu cario gyda'r awel i Langeitho a Threfecca, gan enyn calonau Daniel Rowland a Howell Harris, fel y darfu i rai haeru mewn anwybodaeth. Daeth tân Duw i lawr i Gymru yn uniongyrchol o'r nefoedd; ac yr oedd Rowland a Harris wedi bod yn llafurio am agos i ddwy flynedd, ac wedi cynyrchu effeithiau rhyfeddol trwy eu gweinidogaeth, cyn iddynt glywed gair am yr hyn oedd yn cymeryd lle yr ochr hwnt i'r Hafren. Ond yr ydym yn galw sylw at y Diwygwyr Saesneg, oblegyd yr undeb agos a fu rhyngddynt am gryn dymor a ni fel corff o bobl. Oddiwrthynt hwy y derbyniodd y Cyfundeb ei enw. Bu amryw o honynt droiau ar daith trwy y Dywysogaeth , yn pregethu yr efengyl, a bu gweinidogaeth y ddau Wesley, ac yn arbenig eiddo Whitefield, yn nodedig o fendithiol. Am dymhor, edrychid ar ganlynwyr Whitefield a Cennick yn Lloegr, a chanlynwyr Rowland a Harris yn Nghymru, fel yn ffurfio un cyfundeb. Whitefield a lywyddai yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, a gwnaeth lawn cymaint a Rowland a Harris i roddi ffurf i'r Diwygiad. Cawn ef mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd dilynol, a phan yn bresenol efe fyddai yn ddieithriad yn y gadair. Edrychid arno fel un o'r arweinwyr. Byddai Harris a Rowland, ac eraill o bregethwyr Cymru, drachefn yn myned i Loegr, ac i'r Tabernacl yn Llundain, gan aros yno weithiau am wythnosau i weinidogaethu; a byddent, hyd y medrent, yn presenoli eu hunain yn y Cymdeithasfaoedd a gynhelid yno, ac yn cymeryd rhan ynddynt. Tebygol mai anhawsder yr iaith, ac anghyfleustra teithio, a barodd i'r Diwygwyr Cymreig ymddieithrio yn raddol oddiwrth eu brodyr yr ochr arall i Glawdd Offa.
Gellir olrhain dechreuad Methodistiaeth Lloegr i waith nifer o ddynion ieuainc yn Rhydychain yn ymuno a'u gilydd i ddarllen y Testament Groeg. Cymerodd hyn le yn Nhachwedd y flwyddyn 1729. Nid hawdd dweyd pa nifer a gyfenwid yn Fethodistiaid, ac a ystyrid yn aelodau o'r " Clwb Sanctaidd," fel yr oedd yn cael ei alw, gan yr amrywiai y rhif ar wahanol amserau. Ond yr oedd yn eu mysg y rhai canlynol: John Wesley, Charles Wesley, ei frawd, Robert Kirkham, William Morgan, George Whitefield, John Clayton, J. Broughton, Benjamin Ingham, James Hervey, John Gambold, Charles Kinchin, William Smith, ac eraill. Nid arhosodd y rhai hyn oll ynghyd; bu dadleuon poethion a chwerwder yspryd nid bychan yn eu mysg; a chawn rai yn cymeryd y cyfeiriad hwn, ac eraill y cyfeiriad arall; ond yr oeddynt oll yn mron yn ddynion difrifol, ac yn llawn awyddfryd am wasanaethu y Gwaredwr. Glynodd rhai wrth yr Eglwys Sefydledig, a chymerasant fywioliaethau o'i mewn; ymunodd eraill a'r Eglwys Forafaidd, lle y cyrhaeddasant safle uchel; cawn eraill drachefn yn ffurfio cyfundebau crefyddol newyddion, ac yn dyfod yn ben arnynt. Ond, fel y sylwa Tyerman, byddai yn anhawdd i'r byd ddangos cwmni o ddynion, ag y darfu eu bywyd a'u gweinidogaeth, dan fendith y nefoedd, fod o gymaint lles i ddynolryw, ag eiddo y rhai a elwid yn Fethodistiaid Rhydychain. Fel yr afonydd a lifai allan o Eden, er tarddu o'r un fangre,