Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/520

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nedd. Nid ar fynydd Ebal yr hoffai sefyll, ac nid cyhoeddi melldithion a wnelai; gwell ganddo, yn hytrach, oedd sefyll ar gopa Gerizim, gan roddi datganiad hyfryd i fendithion yr efengyl. Nid clwyfo oedd ei hoff orchwyl, ond iachau; cymhwyso y balm o Gilead at archollion dyfnion pechaduriaid. Dwg Howell Harris, tua diwedd ei oes, dystiolaeth amryw weithiau i felusder ei ddoniau, a'i allu i egluro gwirioneddau cysurlawn yr efengyl. Awgrymir yr un peth gan Williams, Pantycelyn, yn y farwnad. Mewn un penill darlunia yr Arglwydd Iesu yn ei groesawu ar ei fynediad i'r nefoedd yn y modd a ganlyn:—

"Cariad oedd dy fwyd a'th ddiod,
Serchog oedd dy eiriau i gyd,
Dy addfwynder sugnodd yspryd
Rhai o oerion blant y byd;
Treuliaist d' amser mewn ffyddlondeb,
Trwy dy yrfa is y nen,
Mae dy goron geny'n nghadw,
Heddyw gwisg hi ar dy ben."


Tra yr oedd y bobl yn tyru i wrando Mr. Davies, ac yn derbyn maeth i'w heneidiau trwy ei weinidogaeth efengylaidd, yr oedd dosparth arall yn llawn bustl chwerwder, ac yn awyddus am ei yru allan o'r plwyf. Y dosparth hwn a wnelid i fynu yn benaf o grach-foneddigion y dref, a'i hamgylchoedd; a diau fod clerigwyr annuwiol a diddawn y plwyfydd o gwmpas yn cynhyrfu eu goreu. Nis gallent gael dim i achwyn arno parthed buchedd ac ymarweddiad; ond yr oedd sancteiddrwydd ei fywyd, ei zêl angerddol dros ogoniant Duw, ac efengylaidd-dra ei bregethau yn annyoddefol iddynt. Ac uwchlaw y cwbl, yr oedd yn Fethodist. Felly, anfonasant gofeb at Mr. Pinkney, yr hon a gynwysai grynodeb llawn o bechodau y cuwrad, yn erfyn arno ei yru i ffwrdd. A oedd Mr. Pinkney yn meddu llawer o gydymdeimlad a'r diwygiad, nis gwyddom; ond yr oedd yn credu yn Mr. Davies, ac yn gweled ei deilyngdod; a thra y bu y Rheithor fyw, ni chafodd neb aflonyddu arno. Eithr bu Mr. Pinkney farw yn y flwyddyn 1768, ac yn mhen dwy flynedd gwedi hyn cafodd y cuwrad ei droi ymaith. Ceir y nodiad olaf o'i eiddo ar lyfrau yr eglwys Ebrill 5, 1770. Dygwyddai bywioliaeth Llangiwc, plwyf tuag wyth milltir o bellder o Gastellnedd, fod yn wag ar y pryd, a gwnaed cais taer am i William Davies ei chael. Ond yr oedd gwŷr mawr y plwyf yn estroniaid i'r efengyl, a safasant yn benderfynol yn erbyn. Nid oedd dyrchafiad yn yr Eglwys

Wladol yr adeg hono, oddigerth o ddamwain, i neb a bregethai wirionedd Duw yn ffyddlon; yn arbenig os byddai yn tueddu at y Methodistiaid. Gan na oddefid iddo weinidogaethu yn y llan, penderfynodd Mr. Davies wneyd a allai y tu allan i'w chymundeb; casglodd y rhai a lynent wrtho yn seiat ar wahan; aeth allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau; teithiodd Gymru, Ddê a Gogledd, lawer gwaith, a diau iddo fod yn foddion i droi llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd. Ymddengys mai yn nhŷ un Edward Morgan, Penbwchlyd, gerllaw i'r fan y bu Daniel Rowland yn pregethu dan y sycamorwydden, y cadwai Mr. Davies y cyfarfod eglwysig yn Nghastellnedd. Ond o herwydd llwyddiant ei weinidogaeth aeth y lle yn rhy gyfyng, a gwnaed math o le cyfarfod o ddau dy anedd, yn y pen dwyreiniol i'r dref. Am beth amser gwedi ei ymadawiad o'r Eglwys, nid didrafferth iddo oedd cael moddion cynhaliaeth; bu am ryw hyd yn cadw ysgol ddyddiol; a chyfranai rhai o'r Methodistiaid mwyaf cefnog o'u heiddo iddo. Dywedir i amaethwr cyfrifol o blwyf Llangiwc, ar ol cael ei siomi yn ngwrthodiad y fywioliaeth iddo, barhau i'w gynorthwyo mewn arian hyd ddydd ei farwolaeth. Tua'r flwyddyn 1776, adeiladwyd, neu yn hytrach, efallai, adgyweiriwyd, hen gapel y Gyfylchi iddo. Medd y capel hwn gryn hynodrwydd. Saif ar fynydd tra uchel rhwng dau gwm dwfn, yn mhlwyf Mihangel, ryw gymaint i'r dwyrain o Gastellnedd. O ran ei ffurf, y mae yn Eglwysig; a chan yr arferai yr offeiriaid Methodistaidd weinyddu Swper yr Arglwydd ynddo, nid annhebyg ei fod wedi ei gysegru. Ymddengys mai hen gapel Eglwysig wedi myned yn adfeilion ydoedd, ac i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono, fel y gwnaethant a chapel Llanlluan.[1] Rhenid yr adeilad megys yn ddau gysegr; y sancteiddiolaf a'r cyffredin. I'r sancteiddiolaf yr ai yr offeiriaid yn unig; ond yn y llall yr arferai holl bregethwyr y Cyfundeb weinyddu. Fel rheol, byddai rhyw gynghorwr yn traddodi ei genadwri yn y lle cyffredin am naw o'r gloch y boreu; ac wedi iddo ef ddarfod, ymddangosai yr offeiriad yn ei le yntau, a'r holl gynulleidfa a droent eu hwynebau ato. Fel hyn y bu am flynyddoedd lawer, heb fod yr un pregethwr di-urddau yn anturio croesi y wahanlen; ond o'r diwedd diflanodd y swyn, a chymerodd y pregethwyr

  1. Methodistiaeth Cymru.