asid ef unwaith i bregethu yn eglwys Cenarth. Pan y clywodd y Cadben Lewis, a breswyliai yn y Gellidywyll, hyny, anfonodd ei was yno gyda dryll, gan orchymyn iddo saethu y pregethwr. Hysbyswyd y bwriad i Mr. Davies. "Gadewch i mi fyned i'r pwlpud," meddai, "ac yna byddaf yn foddlon iddo fy saethu." I'r pwlpud yr aeth, a phregethodd gyda'r fath felusder a dylanwad, nes yr oedd yr holl gynulleidfa, ac yn eu mysg gwas y Cadben, yn foddfa o ddagrau. Nid oedd gan y gwas, wrth ddychwelyd at ei feistr, ond yr un esgusawd ag a roddid gan swyddogion y Sanhedrim gynt, a anfonasid i ddal yr Iesu "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Yn mhen ychydig flynyddoedd gwedi hyny bu y boneddwr hwnw farw dan arwyddion amlwg o farn Duw. Mor druenus ydoedd, ac mor ofnadwy oedd cnofeydd ei gydwybod, fel y methai y rhai caletaf mewn annuwioldeb aros yn yr un ystafell ag ef. Eithr nid bob amser y llwyddai y pregethwr melus o Gastellnedd i orchfygu y rhwystrau a deflid ar ei ffordd. Unwaith, pan ar daith yn y Gogledd, pregethai yn y Bettws, ger Abergele, a chyfodasid pwlpud iddo wrth das uchel o frigau coed, eiddo hen ŵr a hen wraig oeddynt yn dra gelyniaethol i grefydd. Tra yr ydoedd yn llefaru daeth perchenogion y dâs, gyda rhyw greaduriaid anystyriol yn eu cynorthwyo, ac er mwyn dial eu llid ar y crefyddwyr, ceisient wthio y dâs frigau gyda phygffyrch o'r tu cefn iddi, fel ag i'w dymchwelyd ar ben y pregethwr. Clywai yntau y brigau yn rhugldrystio, deallodd beth a fwriedid, a dyrysodd hyn ef i'r fath raddau fel y methodd fyned yn ei flaen yn mhellach.
Adroddir hanesyn tra dyddorol am dano yn Methodistiaeth Cymru, yr hwn a ddengys natur yr hunan-ymwadiad oedd yn ofynol yr adeg hono, hyd yn nod ar ran y pregethwyr penaf. Trefnasid iddo fyned i lefaru. i ardal fynyddig, mewn rhyw fan yn y Deheudir, lle yr oedd yr achos yn bur isel, a'r bobl yn dlodion. Wrth fyned tuag yno, a chael y ffordd yn mhell, ac yn dra anhygyrch, ymresymai ynddo ei hun fel yma: "Paham y gwnaed a fi fel hyn? Paham y trefnwyd fi i fyned i le mor anghysbell, ar hyd ffordd mor erwin?" Erbyn cyrhaedd yno, drachefn, yr oedd yr olwg ar y fangre, y tai, a'r bobl, yn ychwanegu at ei anfoddogrwydd. Nid oedd yn y golwg ond ychydig o dai tlodion, yn nghanol mynydd-dir gwyllt ac anial. Ac adeilad gwael, mewn llawn gydweddiad â'r tlodi o gwmpas, oedd y capel yn mha un yr oedd i bregethu. Ar ei ddyfodiad i'r fan, arweiniwyd ef i fwthyn gwael ei wedd, lle y preswyliai tair o chwiorydd, hen ferched heb briodi. Cymerwyd ei geffyl i'r ystabl gan un; y llall a arweiniai y pregethwr i'r bwthyn, a'r drydedd a agorai ddrws y capel, gan wneyd y parotoadau angenrheidiol ar gyfer yr odfa. Erbyn hyn yr oedd mynwes y pregethwr wedi cythruddo yn fwy fyth. Dan ruthr y brofedigaeth, meddyliai ei bod yn ormod darostyngiad ar ŵr o'i safle ef i'w anfon i'r fath le. Yn y teimlad hwn yr ydoedd pan ddaeth yr amser i ddechreu yr odfa. Daeth rhyw nifer yn nghyd; eithr nid oedd y pregethwr yn gwerthfawrogi y cyfleusdra i'w cyfarch. Ond wrth fyned rhagddo gyda'r gwasanaeth, teimlai yr awyrgylch yn nodedig o ysgafn; caffai flas rhyfeddol wrth ddarllen y benod; yr oedd rhyw naws nefolaidd yn y canu; ac yn y weddi teimlai fod ei enaid yn cael dyfodfa at Dduw. Wrth bregethu yr ydoedd mewn hwyl; yr oedd siarad iddo mor hawdd ag anadlu. Cafodd odfa fendigedig; ac ar y terfyn meddyliai nid am dlodi yr hen ferched, ond am eu llwyr ymroddiad i grefydd. Gwedi iddo ddychwelyd gosododd un o'r chwiorydd ger ei fron fwrdd bychan, prin cyfuwch a'i ben glin. Ar y bwrdd gosododd lian bras, ond can wyned a'r cambric; yna cyfododd ychydig bytatws o'r lludw mawn ar yr aelwyd, y rhai a roddasid yno i'w rhostio, a chwedi eu sychu yn lân, a thynu ymaith y croen, gosododd hwynt ar y bwrdd, gan geisio gan y boneddwr ofyn bendith yr Arglwydd ar yr ymborth. Nid yw yn ymddangos fod yno ddim ychwaneg, oddigerth ychydig fara ac ymenyn. Synai Mr. Davies yn fawr iawn arno; gwelai yno ddirfawr dlodi a charedigrwydd wedi cydgyfarfod. Teimlai erbyn hyn mai braint oedd cael dyfod yno, a gofynai i'r un a wasanaethai wrth y bwrdd pa nifer o aelodau a berthynai i'r seiat yno.
Nid oes o honom ond nyni ill tair," meddai hithau.
"Pa fodd, gan hyny," meddai Mr. Davies, "yr ydych yn gallu dwyn yr achos yn ei flaen?"
Ebe hithau: "Y mae i bob un o honom ei gorchwyl. Un chwaer a ofala am y tŷ cwrdd, y llall am yr ystafell a cheffyl y pregethwr, a minau sydd yn cael y fraint o weini wrth y bwrdd. Yr ydym ein tair yn cyfarfod yn y tŷ cwrdd unwaith yn yr